Ffafrio'r Abl yn y Byd Academaidd

image of Teresa Zawieja

Digwyddiad Dysgu Dros Ginio Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol: Ffafrio'r Abl yn y Byd Academaidd.

I ddathlu Mis Hanes Anabledd, trefnodd Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol ddigwyddiad Dysgu dros Ginio: ‘Ffafrio'r Abl yn y Byd Academaidd’. Y syniad oedd esbonio beth yw 'ffafrio'r anabl' a hefyd gyflwyno barn myfyrwyr a staff am eu profiad yn y brifysgol. I rywun nad yw'n gwybod llawer am y mater hwn, roedd yn wych cael cyfle i ymuno â'r sgwrs hon a myfyrio. Dechreuodd y Cadeirydd, yr Athro Kirsti Bohata, drwy gyflwyno'r siaradwyr gwadd yn gryno.
Y siaradwr cyntaf oedd yr Athro David Turner a esboniodd beth yw 'ffafrio'r anabl'. Cyflwynodd ychydig o ystyron:

● Gwahaniaethu o blaid pobl nad ydynt yn anabl
● Rheoleiddio'r hyn sy'n 'normal' neu'n 'annormal'
● Syniadau am y corff a'r meddwl perffaith, delfrydol, a gwahaniaethu yn erbyn unrhyw un nad yw'n cydymffurfio â'r safon hon.

Roedd pobl yn yr Oes Oleuedig yn ffafrio'r abl. Yn yr oes honno, roeddent yn delfrydu cyrff dynol. Ar y llaw arall, roedd cyfalafiaeth wedi safoni normau cynhyrchiant a ddynodai werth i weithwyr a oedd yn bodloni gofynion y 'corff delfrydol'
Heddiw, yn y brifysgol ond yn ein bywydau pob dydd hefyd, gwelir anabledd fel rhwystr i gymryd rhan mewn gweithgareddau. Mae hyn yn annerbyniol a, fel y dywedodd yr Athro Turner, does dim ateb cyflym. Dylai fod rhwydwaith cymorth gwell i fyfyrwyr a staff ac arweinyddiaeth amlwg. Ar ben hynny, dylai ymwybyddiaeth am y mater hwn gael ei chynyddu, drwy addysg a hyfforddiant.
Siaradodd y siaradwyr gwadd eraill - Susannah Field, Chloe Morgan a Felicity McKee - am eu profiadau yn y Brifysgol. Gwnaethon nhw sôn am rai materion na ddylent fodoli yn yr 21fed ganrif! Soniodd Chloe Morgan am sut roedd pandemig Covid-19 wedi newid ei bywyd a chyflwynodd ddatganiad bod anableddau'n cael eu camddeall o hyd. Mae'n rhaid i bobl anabl oresgyn llawer o rwystrau nad yw pobl eraill yn meddwl amdanynt hyd yn oed. Siaradodd Felicity McKee am sut y disgwylir i bobl anabl fod yn ddiolchgar am y cymorth lleiaf neu hyd yn oed lai. Ei phwynt arall oedd bod myfyrwyr anabl yn wynebu problemau, megis sicrhau llety hygyrch neu fynd i'r afael â'r camsyniadau amdanynt. Roedd aelodau'r panel a'r cyfranogwyr wedi rhannu eu barn a'u profiadau a oedd yn emosiynol iawn a'm helpodd fi i ddeall y broblem yn well.
Dylem bwyso ar brifysgolion, cynghorau dinas, llywodraethau a'r rhai sydd â grym i ddechrau sylwi eu bod yn gwahaniaethu yn erbyn llawer o bobl drwy eu gweithredoedd a'u penderfyniadau. Dylem ein haddysgu ein hunain, eirioli dros y rhai sy'n dioddef gwahaniaethu a gwrthdystio'n swnllyd yn erbyn ffafriaeth i'r abl yn ein prifysgolion a'n bywydau pob dydd.

Teresa Zawieja