Sgriblwyr Cymraeg Gŵyl y Gelli 2022

Sgriblwyr Cymraeg Gŵyl y Gelli 2022

Cafodd myfyrwyr blwyddyn 7-9 eu hannog i fod yn greadigol gyda'r Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, fel rhan o Sgriblwyr Cymraeg Gŵyl y Gelli 2022.

Anogwyd myfyrwyr o ddeg ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg ledled de Cymru i archwilio adrodd straeon yn greadigol drwy fynychu gweithdy personol wedi’i arwain gan yr awdures,  cyflwynwraig ac actores Anni Llyn, a'r beirdd a'r cyflwynwyr enwog Aneirin Karadog ac Ifor ap Glyn. 

Gwnaethant gymryd rhan hefyd mewn gweithdy ysgrifennu ar y thema ffuglen wyddonol dan arweiniad awduron sy’n gweithio ym Mhrifysgol Abertawe, sef yr Athro Tudur Hallam a Dr Miriam Jones, lle y cawsant gymorth i ddefnyddio eu dychymyg ac ymestyn eu geirfa er mwyn creu eu capsiwlau amser a'u dyddiaduron eu hunain fyddai’n cael eu darllen gan bobl eraill yn y dyfodol.

Esboniodd Dr Miriam Jones:

"Roedd hi'n hyfryd croesawu disgyblion o bob cwr o dde Cymru i Gampws Singleton Prifysgol Abertawe i'w cyflwyno i 'Dyddiaduron o'r Dyfodol'.

"Cyflwynodd Tudur a minnau gyfres o dechnegau i'r cyfranogwyr i ysgrifennu eu dyddiaduron ffuglen wyddonol eu hunain, gyda chymorth rhai eitem dirgel o gapsiwl amser personoledig!

"Nid yn unig y gwnaethon ni, fel rhan o daith y Sgriblwyr Cymraeg gydag Aneirin Karadog, Anni Llyn ac Ifor ap Glyn, brofi bod ysgrifennu creadigol yn llawer o hwyl, ond gwnaethon ni hefyd annog hunanfynegiant a sgiliau meddwl creadigol a llythrennedd pwysig."

Ychwanegodd yr Athro Sian Rees, Pennaeth yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Abertawe:

"Roedd digwyddiad Sgriblwyr Cymraeg Gŵyl y Gelli ym Mhrifysgol Abertawe yn gyfle gwych i ymgysylltu â channoedd o blant ysgol uwchradd ar y campws drwy gyfrwng y Gymraeg, a gweld y cyffro, y brwdfrydedd a'r creadigrwydd a ryddhawyd trwy ddathlu ac archwilio'r celfyddydau llenyddol."

Caiff digwyddiadau Sgriblwyr Cymraeg Gŵyl y Gelli eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru, fel rhan o'u nod i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg yn byw yng Nghymru erbyn 2050.

Mae'r gweithdai am ddim yn rhoi cyfle i fyfyrwyr fod yn greadigol ym maes darllen, ysgrifennu, adrodd straeon a sgwrsio, wrth fwynhau eu profiad cyntaf o'r brifysgol.

Roedd yr ysgolion a gymerodd ran yng ngweithdy mis Tachwedd yn cynnwys: Ysgol Gymraeg Gwynllyw, Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg, Ysgol Gyfun Maes y Gwendraeth, Ysgol Gymraeg Ystalyfera, Ysgol Llanhari, Ysgol Gyfun Gwyr, Sant Ioan Llwyd, Ysgol Bro Pedr, Ysgol Penrhyn Dewi ac Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe.

Dywedodd cyfranogwyr y gweithdy y canlynol:

"Dysgais lawer o ffyrdd newydd a diddorol i ysgrifennu yn Gymraeg, yn ogystal â dysgu gan bobl rydw i'n eu hedmygu.

"Dysgais ei bod hi'n dda defnyddio ansoddeiriau annisgwyl yn fy ysgrifennu ac y gallaf ddefnyddio fy nychymyg a'm creadigrwydd i ysgrifennu unrhyw beth."

Mae Taith Sgriblwyr Gŵyl y Gelli yn gobeithio bod yn ôl ym Mhrifysgol Abertawe cyn hir, ac mae dau weithdy arall ar y gweill ar gyfer 2023. Darganfyddwch fwy.  

Rhannu'r stori