Gan nodi Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, mae Prifysgol Abertawe yn cyhoeddi cyllid parhaus ar gyfer ymchwil hanfodol i helpu i amddiffyn plant ar-lein

Mae prosiect ymchwil hanfodol sy’n canolbwyntio ar amddiffyn plant a phobl ifanc rhag cam-drin ar-lein wedi sicrhau cyllid parhau ychwanegol.

Mae prosiect DRAGON-S Prifysgol Abertawe yn canolbwyntio ar ddarganfod ac atal meithrin perthnasoedd rhywiol amhriodol ar-lein.

Yn dilyn cam ymchwil a datblygu 2 flynedd lwyddiannus, mae’r prosiect bellach wedi sicrhau dros £150,000 o gyllid ychwanegol gan Safe Online yn End Violence Against Children a Chyfrif Cyflymu Effaith (IAA) Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau er mwyn parhau i brofi a gwerthuso ei waith.

Mae meithrin perthynas rywiol amhriodol ar-lein yn drosedd sy’n cynyddu’n fwyfwy cyflym, gan adael effaith ddinistriol ar y plant sy’n ddioddefwyr a’u teuluoedd.  

Trwy ei ymchwil, nod prosiect DRAGON-S yw mynd i’r afael â dau brif her y mae asiantaethau atal ac erlyn yn eu hwynebu:

  1. Mae’r gwrth-fesurau sy’n bodoli yn cael eu llesteirio gan ddiffyg dealltwriaeth o’r ffordd y mae’r rhai sy’n meithrin perthynas rywiol amhriodol yn cyfathrebu ar-lein; ac
  2. Mae nifer y bobl hyn a soffistigeiddrwydd eu cyfathrebu yn llethu asiantaethau.

Mae DRAGON-S yn cyfuno arbenigedd rhyngwladol ym maes Ieithyddiaeth a Deallusrwydd Artiffisial i fynd i’r afael â’r heriau hyn trwy dechnoleg arloesol, sy’n canolbwyntio ar y person.  Cafodd dau declyn digidol rhyngberthynol, seiliedig ar ymchwil: Canfodydd meithrin perthnasoedd rhywiol amhriodol ar-lein (DRAGON-SPOTTER) a theclyn atal meithrin perthynas rywiol amhriodol ar-lein (DRAGON-Shield) eu datblygu a’u profi yn 2021-2022.

Bydd tîm y prosiect nawr yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid a grwpiau defnyddwyr terfynol yng Nghymru, Lloegr, Seland Newydd ac Awstralia i ymgymryd â phrofion pellach. Bydd hyn yn cynnwys gweithio ar y cyd â thros 200 o ymarferwyr diogelu plant a phlant, a fydd hefyd yn peilota’r defnydd ar declynnau DRAGON-SPOTTER a DRAGON-SHIELD.

Bydd y cyllid ychwanegol hefyd yn caniatáu i’r teclynnau gael eu gwerthuso wrth eu defnyddio yn y byd ‘go iawn’ i archwilio sut maen nhw’n trosi i ymarfer ac i gasglu tystiolaeth am sut i dyfu’r teclynnau a’u cymhwyso mewn cyd-destunau rhyngwladol. Bydd arfer gorau ym maes ymchwil gymhwysol, sy’n cyfuno trylwyredd trwy ddulliau gwerthuso amrywiol, cadarn yn foesegol, a hyblygrwydd ar ran yr ymarferwr, yn llywio’r fethodoleg werthuso.  

Meddai’r Athro Nuria Lorenzo-Dus o Brosiect Dragon-S:

“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi sicrhau cyllid ychwanegol a fydd yn caniatáu i ni barhau i fireinio a phrofi canfyddiadau ein hymchwil. Trwy ddefnyddio technoleg o’r radd flaenaf, bydd Prifysgol Abertawe a’i phartneriaid yn parhau i weithio tuag at gadw plant yn ddiogelach ar-lein.”

Bydd Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn fwy Diogel yn cael ei gynnal yn y Deyrnas Unedig ar 7 Chwefror 2023.

Rhannu'r stori