Film clapper board

Dangosiad a thrafodaeth am ddim: Good Luck To You, Leo Grande

4 Mehefin 2pm, Taliesin Abertawe

Heneiddio ar y Sgrin yn dilyn #FiHefyd/#MeToo 

Pam mae menywod hŷn, â’u holl fywydau rhywiol a chymdeithasol cymhleth, yn cael eu portreadu mor anaml ar y sgrin? Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn gofyn am safbwyntiau ynghylch y portreadau o fenywod hŷn mewn ffilmiau.

Mae ‘Heneiddio ar y sgrin’ yn brosiect ymchwil newydd gan Dr Lisa Smithstead, sy’n Uwch Ddarlithydd mewn Astudiaethau Ffilm ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’r prosiect yn archwilio portreadau o fenywod sy’n heneiddio a menywod hŷn ar y sgrin yn sgil #FiHefyd/#MeToo a #TimesUp – sef ymgyrchoedd sydd wedi newid y drafodaeth yn sylweddol ynghylch menywod a diwylliant ffilmiau ers 2017.

Mae digwyddiad cyntaf y prosiect yn ymwneud â ffilm gomedi o 2022, Good Luck to you Leo Grande, gydag Emma Thompson a Daryl McCormack yn chwarae’r prif rannau, a chynhelir dangosiad a thrafodaeth am ddim ddydd Sul 4 Mehefin am 2pm yng Nghanolfan Taliesin.

Mae’r ffilm yn adrodd hanes Nancy Stokes, sef gwraig weddw wedi ymddeol, sy’n hurio gweithiwr rhyw ifanc o’r enw Leo Grande yn y gobaith o fwynhau noson o bleser a hunanddarganfyddiad ar ôl bywyd priodasol anghyflawn. Mae’r ffilm yn codi cwestiynau mawr am chwant, pŵer a heneiddio. Mae ymchwilwyr ‘Heneiddio ar y Sgrin’ eisiau clywed ymatebion a safbwyntiau’r gwylwyr ar heneiddio, rhywioldeb, bywydau menywod a’r rolau a roddir i fenywod hŷn mewn ffilmiau.

Dywedodd Dr Lisa Smithstead, sy’n arwain ar brosiect ymchwil ‘Heneiddio ar y Sgrin’:

“Yn sgil #FiHefyd/#MeToo, amlygwyd materion megis rhyw, pŵer ac ymreolaeth, ac roedd sêr hŷn wrth wraidd yr ymgyrch.

Mae hon yn teimlo fel eiliad dyngedfennol i bwyso a mesur yr hyn sydd wedi newid a’r hyn nad yw wedi newid ers i #FiHefyd/#MeToo ffrwydro fel ymgyrch feirol yn 2017. A oes rhagor o rolau i fenywod hŷn? A yw menywod hŷn yn cael cymryd rolau arweiniol? A yw eu storïau yn fwy dynamig neu’n fwy cyffrous nag mewn cyfnodau blaenorol?

“Mae fy ymchwil hyd yn hyn yn awgrymu bod hwn yn gyfnod cyffrous iawn i fenywod hŷn yn y sinema. Rydym yn gweld llawer o sêr mawr yn ymgymryd â rolau amrywiol a diddorol yn eu 40au hwyr a’u 50au, o ystyried y bu eu cyfleoedd yn eithaf cyfyngedig mewn degawdau cynharach. Rydym wedi dechrau llunio data newydd am ymddangosiadau menywod hŷn – ym mha genres, pa fathau o gymeriadau – a gallwn ddechrau creu darlun cliriach o’r ffordd y mae profiadau menywod hŷn yn cael eu cynrychioli yn y ffilmiau a wyliwn.”

Nod ‘Heneiddio ar y Sgrin’ yw deall sut mae’r ymgyrchoedd hyn wedi effeithio ar y ffordd y mae menywod hŷn yn cael eu cynrychioli yn y sinema, gan archwilio’r 100 o ffilmiau a wnaeth yr elw mwyaf yn y DU bob blwyddyn ers 2017. Y bwriad yw dangos ym mhle, ac ym mha ffurfiau, y mae cymeriadau benywaidd hŷn wedi ymddangos yn y ffilmiau mwyaf gweladwy ar sgriniau sinemâu’r DU dros y saith mlynedd diwethaf. Mae’r prosiect yn defnyddio dull croestoriadol, gan ystyried sut mae oedran yn croesi ar draws ethnigrwydd, cenedligrwydd a dosbarth cymdeithasol yn ogystal â rhyw wrth gynrychioli menywod hŷn mewn ffilmiau cyfoes yn y DU.

Uchelgais y prosiect yw creu adnoddau newydd a fydd yn helpu i greu darlun cliriach o fenywod sy’n heneiddio a menywod hŷn yn niwylliant ffilmiau poblogaidd cyfoes. Rydym yn bwriadu ymdrin â’r materion hyn â chynulleidfaoedd yng Nghymru a’r DU a thrafod sut olwg gallai fod ar ddyfodol gwell a mwy disglair i fenywod hŷn ar y sgrin.

Dangosir Good Luck To You, Leo Grande (taliesinartscentre.co.uk) ar 4 Mehefin a chyflwynir y ffilm gan Dr Lisa Smithstead. Bydd te a choffi ar gael am ddim yn Creu Taliesin o 1.30pm cyn y dangosiad am 2pm. Ar ôl i’r ffilm orffen, rydym yn gwahodd pawb sy’n bresennol i Ystafell y Mall yn Creu Taliesin, lle bydd bwyd a diodydd poeth ac oer ar gael am ddim. Bydd gwylwyr yn gallu trafod y ffilm, rhannu eich meddyliau a’ch syniadau am fenywod hŷn ar y sgrin, a sgwrsio â Kelly Barr o Age Cymru.

Hefyd, gallwch ryngweithio â deunyddiau arddangosfa o’r prosiect sy’n rhoi sylw i rai o’r materion allweddol sy’n wynebu menywod hŷn a menywod sy’n heneiddio mewn ffilmiau.

Archebwch eich tocyn am ddim ar wefan Taliesin: Good Luck To You, Leo Grande (taliesinartscentre.co.uk)

Gwefan y prosiect yw Ageing on screen after #MeToo (wordpress.com)

Yn ogystal, gallwch ddarllen am waith ymchwil blaenorol Dr Lisa Smithstead ym maes sinema a ffeministiaeth: Dr Lisa Smithstead - Prifysgol Abertawe, gan gynnwys ei herthygl ddiweddar ar Kate Winslet: ‘There’s more to middle age than a saggy belly’: gender, ageing, and agency in Kate Winslet’s post Weinstein star image (tandfonline.com)

GOOD LUCK TO YOU, LEO GRANDE | Hysbyslun Swyddogol | Searchlight Pictures - YouTube

Rhannu'r stori