Toby Benson and Aspire2Be Director

Cefndir

Bu Toby Benson, myfyriwr o'r ail flwyddyn sy'n astudio gradd Rheoli Busnes (BSc), yng nghinio mawreddog blynyddol Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA), lle cyfarfu â Mark Douglas a Jeremy Stephens o gwmni Aspire2Be a holi am brofiad gwaith gyda'r cwmni.

Cwmni Dysgu Technoleg yng Nghymru yw Aspire2Be (A2B), sy'n defnyddio methodoleg AI i greu datrysiadau digidol pwrpasol ar y cyd ar gyfer cleientiaid ym maes addysg, chwaraeon a busnes.

Mynd i'r afael â'r her

Aeth Aspire2Be at Academi Cyflogadwyedd Abertawe i ddarganfod mwy am yr ystod o gyfleoedd interniaethau sydd ar gael iddynt ar ôl i natur benderfynol Tony greu argraff arnynt, ac roeddent yn awyddus i weld yr hyn y gallai ei gynnig i'w prosiectau cyfredol.

Ar ôl adolygu eu hopsiynau, cynigodd Mark a Jeremy interniaeth am bythefnos i Tony a ariannwyd yn llawn gan Academi Cyflogadwyedd Abertawe.

Canlyniadau llwyddiannus

Yn ystod ei interniaeth, cynhyrchodd Toby bapur cynhwysfawr am gymhwysedd digidol myfyrwyr. Mae hyn wedi rhoi mewnwelediad newydd i Aspire2Be ar yr heriau digidol y mae myfyrwyr yn eu hwynebu, a fydd gobeithio yn eu helpu i ddod o hyd i gyfleoedd newydd yn y sector addysg uwch.

Yn ogystal â rhoi profiad gwaith ymarferol a'i helpu i ennill hyder, roedd modd i Toby ehangu ei rwydwaith — y Rhwydwaith Entrepreneuriaid (y mae Toby'n llywydd arno) — yn ystod yr interniaeth. Trwy fanteisio ar gysylltiadau Aspire2Be, aeth Toby ar drywydd cyfle arall gyda Hyb Entrepreneuriaid NatWest, a gytunodd i gydweithio â'r Rhwydwaith Entrepreneuriaid i gynnig mwy o adnoddau i fyfyrwyr sy'n dewis cynnal eu busnesau eu hunain fel blwyddyn mewn diwydiant.

Barn y cyfranogwyr

"Cefais amser gwych yn ystod fy interniaeth yn Aspire2Be.Roedd hyn yn bennaf oherwydd athroniaeth y cyfarwyddwyr, sef y dylai fy amser yno fod o fudd i mi a'r cwmni. Gwnaethant ddweud wrthyf am gwblhau nifer o dasgau dymunol a diddorol, wrth roi'r rhyddid i mi fynd i'r afael â nhw yn y ffordd a oedd yn briodol yn fy marn i. Roedd y rhyddid hwn i wneud fy mhenderfyniadau fy hun yn werthfawr yn benodol oherwydd roeddwn i'n teimlo fy mod i'n cael fy nhrin fel gweithiwr proffesiynol, a bod fy sgiliau a'm mewnbwn yn cael eu gwerthfawrogi." Toby Benson

"Gwnaeth y ffordd yr ymgartrefodd Toby i'r hyn sy'n gallu bod yn amgylchedd gwyllt iawn wneud argraff fawr arnaf. Roedd yn mynegi ac yn cyflwyno ei hun fel gweithiwr proffesiynol a oedd wedi hen arfer, yn hytrach na fel myfyriwr. Yn sicr mae ganddo agwedd ‘gallu gwneud,’ y gallu naturiol i arwain prosiectau a'r awydd i ddysgu a datblygu ei wybodaeth ymhellach. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd Toby'n llwyddiannus iawn ni waeth pa lwybr proffesiynol y bydd yn ei ddilyn." Jeremy Stephens

"Mewn cyfnod byr o amser, cwblhaodd Toby bob tasg gydag awydd anniwall i ddangos mentergarwch, i ddysgu ac i rwydweithio. Mae e'n aeddfed iawn am ei oedran, ac yn ddyn ifanc eithriadol iawn. Roedd yn gweddu’n dda i amgylchedd tîm y swyddfa ac roedd yn glod i'w hun ac i'r Brifysgol." Mark Douglas

"Roedd Toby yn aelod cadarnhaol iawn o'r tîm yn ystod ei interniaeth gyda ni yn Aspire2Be. Gwnaeth fy helpu'n bersonol i ddeall llawer o'r heriau a wynebir gan fyfyrwyr yn y Brifysgol wrth edrych ar ddatrysiadau digidol ar draws y cyfadrannau, a chynhyrchodd bapur pryfoclyd a diddorol iawn sydd erbyn hyn wedi dangos ffordd bosibl o gydweithio â Phrifysgolion yn y dyfodol agos. Diolch yn fawr iawn!" Simon Pridham