Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn ceisio cynnig bwyd ffres, iach a chynaliadwy y gallwch chi ymddiried ynddo. Mae ein tîm Gwasanaethau Arlwyo'n defnyddio cynhwysion o ffynonellau lleol, moesegol sy'n gyfrifol tuag at yr amgylchedd. Rydym yn cynnwys meini prawf iechyd, lles a chynaliadwyedd yn ein harlwyo, fel y nodir yn ein Polisi Bwyd Iach a Chynaliadwy.
Achrediadau Bwyd Cynaliadwy
Rydym yn gweithredu Fframwaith Bwyd am Oes cynhwysfawr Cymdeithas y Pridd. Mae ein Polisi Bwyd Iach a Chynaliadwy yn ein hymrwymo i gynyddu'r arlwy “Gweinir Bwyd am Oes yma” yn ein mannau arlwyo.
Dim Gwastraff ac Allyriadau
Ym Mhrifysgol Abertawe, mae ein timau Arlwyo a Chynaliadwyedd yn gweithio mewn partneriaeth i atal gwastraff o'n mannau arlwyo ar y campws. Rydym yn cyflawni hyn mewn sawl ffordd:
- Mae gan y Brifysgol archfarchnad fach dim gwastraff ar y campws o'r enw Root Zero a reolir gan Undeb y Myfyrwyr, sy'n cynnig amrywiaeth o gynnyrch gydag opsiynau dim gwastraff neu ddim plastigion.
- Mae menter ar y cyd y tîm Arlwyo a Discovery: “Dydd Mercher Dim Gwastraff”, yn paratoi ac yn darparu prydau bwyd cymunedol ar y campws, gan ddefnyddio bwyd dros ben a roddwyd gan archfarchnadoedd ledled Abertawe, gan gynnwys ein harchfarchnad ar Gampws Parc Singleton.
- Rydym yn gweithio'n agos gyda'r elusen a arweinir gan wirfoddolwyr yn y Brifysgol, Discovery, i ddod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o weithio gyda'r gymuned leol ac i leihau gwastraff drwy ailddosbarthu bwyd sydd dros ben.
- Mae ein mannau arlwyo'n cynnig gostyngiad ar ddiodydd poeth mewn cwpanau y gellir eu hailddefnyddio.
- Rydym wedi newid i becynnu, llestri, cyllyll a ffyrc effaith is yn ein cenhadaeth i atal y defnydd o blastig defnydd untro.
- Rydym yn defnyddio biniau ailgylchu didoli wrth waredu yn ein holl fannau bwyd a thrwy gydol y campws. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein cyfleusterau ailgylchu ar ein tudalennau gwe gwastraff.
- Darperir biniau ailgylchu ar wahân yn ein mannau arlwyo, yn benodol ar gyfer casglu ac ailgylchu cwpanau defnydd untro.
- Caiff ein gwastraff bwyd ei gasglu a'i anfon i'w dreulio'n anaerobig.
- Mae cerbydlu arlwyo'r campws yn cynnwys sawl Cerbyd Allyriadau Isel Iawn (ULEV).
Tyfu bwyd ar y campws
Mae ein prosiect tyfu ar y campws “Tyfu Tawe”, sy’n cael ei gefnogi gan gronfeydd buddion cymunedol ac NUS Student Eats, yn darparu lle i'n cymuned ddysgu am dyfu llysiau ar y campws. Mae'r manteision i'r meddwl, y corff a'r amgylchedd o dyfu eich bwyd eich hun yn hysbys, felly Cymerwch Ran gyda Tyfu Tawe.
Yn ogystal â phrosiect Tyfu Tawe, mae’r Tîm Cynaliadwyedd wedi bod yn gweithio drwy gydol 2021 i greu ac i ddarparu perllan gymunedol i staff, myfyrwyr, ac ymwelwyr ei mwynhau. Hyd heddiw, mae cyfanswm o 28 o goed ffrwythau wedi’u plannu ar ein dau gampws gyda chymorth staff a myfyrwyr gan gynnwys coed afalau, coed eirin, coed gellyg, coed eirin hirion, a ffigysbrennau. Daeth y cyllid ar gyfer y prosiect hwn trwy gymysgedd o ddyraniad o’r gyllideb Prifysgol Gynaliadwy a Chronfa’r Economi Gylchol Cymru.
Mae Ben, ein Swyddog Bioamrywiaeth, hefyd wedi bod yn gweithio gyda thîm y prosiect a staff yn IMPACT i ddatblygu ac i reoli wal werdd fyw. Mae’r wal fyw yn cefnogi rhywogaethau brodorol a nod y prosiect peilot hwn yw dangos sut y gallwn ni ddatblygu rhagor o waliau byw a chynnwys bwyd cynaliadwy yn rhan allweddol o hynny.