'Mae cymorth gan Gronfa'r Angen Mwyaf wedi galluogi ymchwil arloesol sydd wedi gwneud gwahaniaeth go-iawn i bobl sy'n cael trafferth wrth adfer o COVID-19.'  - Yr Athro Melitta McNarry

Mae ymchwilwyr o'r ganolfan Ymchwil i Chwaraeon Cymhwysol, Technoleg, Ymarfer Corff a Meddygaeth, gyda chymorth Cronfa'r Angen Mwyaf, wedi treialu triniaeth rad i'w chael gartref a allai helpu dioddefwyr Covid hir i adfer yn gyflym ac yn llawn.

Yn aml, bydd dioddefwyr Covid hir yn cael symptomau nychus gan gynnwys bod allan o wynt, blinder ac anawsterau â thasgau beunyddiol sylfaenol.Er mwyn mynd i'r afael â'r symptomau hyn, defnyddiodd yr astudiaeth Hyfforddiant i'r Cyhyrau Anadlu lle bydd dyfais fach yn cyfyngu ar yr aer sy'n cyrraedd yr ysgyfaint, gan helpu i atgyfnerthu ac adsefydlu'r cyhyrau anadlu.

Mae'r canfyddiadau cyntaf yn addawol dros ben, yn dangos nad yw cyfranogwyr allan o wynt cymaint, maent yn fwy heini ac yn gryfach, ac yn teimlo'n well am eu hiechyd a'u lles.

Mae'r canlyniadau cyffrous hyn yn arwydd o ddyfodol disglair ar gyfer y driniaeth, a bydd y tîm yn ceisio sicrhau cyllid i ystyried ei rhaeadru'n genedlaethol drwy'r GIG.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cefnogi'r prosiect hwn neu brosiectau eraill sy'n debyg, cysylltwch â ni yma.

This research was funded by the Welsh Government and The Higher Education Funding Council for Wales, and lead by Swansea University in collaboration with the University of Portsmouth, University of Copenhagen, Swansea Bay University Health Board, Cardiff and Vale University Health Board and Hywel Dda University Health Board.