Mae rhywbeth yn digwydd pan rydych yn sefyll ar lan y môr gan edrych allan drosto. Rydym i gyd yn teimlo ei bŵer, boed oherwydd ei ddirfawredd aruthrol, y cyfrinachau sydd oddi tan yr arwyneb, neu'r tonnau wrth iddynt rolio dros fysedd eich traed.

'Mae pobl yn hoffi bod ger y môr,' meddai Dr Ruth Callaway.

'Mae gan y rhan fwyaf o bobl gysylltiad emosiynol ag ef.' Prif ofid Callaway, sy'n ecolegydd morol ym Mhrifysgol Abertawe, yw'r argyfwng bioamrywiaeth byd-eang.

Mae gweithgarwch pobl wedi lleihau'n sylweddol nifer y rhywogaethau gwahanol ar y Ddaear, gan fygwth sefydlogrwydd ecosystemau. Mae ecosystemau iach yn hanfodol ar gyfer popeth o'r awyr rydym yn ei hanadlu i'r dŵr rydym yn ei yfed. Mae Callaway yn gweithio i leihau ein heffaith negyddol ar fywyd dyfrol, gan ddechrau â Wal Môr y Mwmbwls.

Mae rhoddion gan gyn-fyfyrwyr a ffrindiau yn cefnogi prosiect sy'n cynnwys y gymuned leol wrth ddatblygu amddiffynfeydd môr y dyfodol, er mwyn annog bioamrywiaeth mewn ardal sydd â phoblogaeth uchel a llawer o dwristiaid. Er mwyn cadw tai a phobl yn ddiogel, mae pobl yn adeiladu isadeiledd megis môr-gloddiau a waliau môr. O ganlyniad, rydym yn creu'r hyn a elwir yn wasgfa arfordirol: rydym yn lleihau'r ardal drawsnewid rhwng y dŵr a'r tir.

Pam mae'n broblem?

Gall rhai rhywogaethau fyw yn yr ardal drawsnewid hon yn unig. Hebddi, ni allant fyw. At hynny, mae llawer o rywogaethau ifanc yn dechrau eu bywydau yno ac yna'n symud i'r môr wrth iddynt dyfu. Mae'r ardal hon sydd ar agor i'r tonnau eisoes yn lle heriol dros ben i fyw ac mae'n sych am y rhan fwyaf o'r dydd (sy'n broblem go-iawn i rywogaethau morol, sydd i gyd â chrogennau). Gallech awgrymu ein bod yn atal rhag adeiladu isadeiledd sy'n achosi gwasgfa arfordirol, ond mae lefel y môr yn codi - a bydd yn parhau i godi.

Dyma rôl gwaith Callaway. Ei syniad yw ailddylunio wal y môr er mwyn iddo fod yn fwy deniadol i fywyd gwyllt, gan annog bioamrywiaeth. 'Rydym ni wedi sefydlu paneli hecsagon ar Wal Môr y Mwmbwls, a fydd yn cael ei hailadeiladu yn ystod y blynyddoedd i ddod. Byddwn yn ail-adeiladu â'r nod o fod yno am o leiaf y 100 mlynedd nesaf,' esbonia Callaway. Hyd yn hyn, mae hi wedi mewnosod 135 o baneli mewn tri lle ar hyd wal y môr, gan brofi 11 o batrymau masnachol.

Gwnaeth rhoddwyr roi'r cyfle i Callaway i brofi patrymau pwrpasol eraill. Y patrwm mwyaf poblogaidd ymhlith pobl leol y Mwmbwls oedd yr Wystrysen, sy'n cynnwys hanes balch yr ardal fel diwydiant wystrysen ffyniannus. Mae hyn wedi gwneud y prosiect yn llawer mwy ystyrlon i'r gymuned.

Mae'r ffordd ymchwilio newydd hon yn bwysig i Callaway. 'Nid yw'r gymuned bron byth wrth wraidd cynnig ymchwil. Yn fy marn i, rydym ni'n dal i feddwl ei fod yn beth neis i'w wneud, nid yn beth angenrheidiol,' meddai. Diolch i'n cymorth ni, mae Callaway wedi cynnal pedwar gweithdy gyda phlant ysgolion cynradd hyd yn hyn, ac mae mwy ar y gweill. Dyma gyfle cyffrous i addysgu pobl ifanc am bwysigrwydd cadwraeth bywyd gwyllt - a harddwch eu hamgylchedd naturiol.

Ymhlith y pyllau yn y creigiau, mae'r plant yn darganfod byd cudd.

Mae Callaway yn cofio un grŵp o ferched nad oeddent erioed wedi treulio amser ar y traeth, er gwaethaf y ffaith eu bod yn byw yn lleol. Yn gyntaf, roeddent yn ddicra ac yn anghyfforddus. Ond yn raddol, gyda brwdfrydedd ac anogaeth gan Callaway 'gwnaethant fentro i ddal cranc am y tro cyntaf...cyffro'r plant o fod yn yr amgylchedd naturiol a chyffwrdd â rhai o'r rhywogaethau... hynny oedd yr uchafbwynt i fi, rwy'n meddwl.'

'Mae rhoddion wedi fy ngalluogi i ehangu effaith a chymhwysiad y prosiect hwn i grwpiau cymunedol. Yn y dyfodol, gobeithio y bydd y bobl hyn yn creu rhai o'r atebion eco-beirianneg eu hunain.'

Os oes gennych ddiddordeb mewn cefnogi'r prosiect hwn neu brosiectau eraill sy'n debyg, cysylltwch â ni yma.