Mae iechyd ein planed yn dirywio ar raddfa frawychus. Mae gor-ecsbloetio natur wedi bod yn brif ffactor sydd wedi cyfrannu at bandemig Covid-19; mae'n debygol bod y feirws wedi trosglwyddo i bobl oherwydd cynaeafu bywyd gwyllt yn anghynaliadwy. Mae newid yn yr hinsawdd yn achosi tanau gwyllt a sychder, ac mae newidiadau o ran defnydd tir yn arwain at golli'n sylweddol y fioamrywiaeth yr ydym yn dibynnu arni. Ar yr un pryd, mae materion iechyd megis gordewdra ac iselder ysbryd wedi bod yn cynyddu'n gyflymach.

Mae'r problemau iechyd ac amgylcheddol hyn yn gysylltiedig â chadw pellter meddyliol mwy rhag natur o ganlyniad i fywyd modern a phoblogaethau sy'n fwyfwy dinesig. Fodd bynnag, mae atebion ar sail natur ar gael. Mae rhyngweithio â byd natur yn creu awydd i'w chadw ac mae'n hybu iechyd, hyd oes a lles seicolegol. Mae angen dybryd i ddatblygu ffyrdd o ymgysylltu â byd natur sy'n seiliedig ar ddamcaniaeth, er mwyn hyrwyddo iechyd pobl ac iechyd amgylcheddol.

Gyda chymorth gan Gronfa'r Angen Mwyaf, mae ymchwilwyr o Adran y Biowyddorau Prifysgol Abertawe yn sefydlu prosiect ymchwil newydd i gysylltu plant ysgol â byd natur yn y byd ar ôl y pandemig. Bydd tua 700 o ddisgyblion ysgol ar draws 20 o ysgolion cynradd yn ne Cymru ac Wganda yn cymryd rhan uniongyrchol yn y prosiect. Nod y prosiect yw:

  • gwella lles drwy ymdrochi ym myd natur,
  • hyrwyddo cyfnewid a dealltwriaeth ryngddiwylliannol,
  • ysbrydoli gwerthfawrogiad o fywyd gwyllt lleol, a chefnogi ymdrechion cadwraeth.

Arweinir y prosiect gan Dr Hazel Nichols (Adran y Biowyddorau), wedi'i chefnogi gan Dr Helen Lewis a Mrs Alyssia Fiander-Houlden (Yr Ysgol Addysg).

Ailgysylltu ein plant â byd natur

Bydd disgyblion ysgol yn treulio amser mewn lleoedd gwyrdd, yn ymdrochi ym myd natur ac yn tynnu lluniau o'u bywyd gwyllt lleol, o flodau sy'n tyfu yng nghae eu hysgol i'r anifeiliaid yn eu tai, eu gerddi a'u parciau. Yna byddant yn cynnal ymchwil i'r bywyd gwyllt y maent yn dod o hyd iddo ac yn creu llyfr bywyd gwyllt gan eu dosbarth eu hun, yn ogystal â chreu fideos a blogiau. Caiff y rhain eu cyfnewid ag ysgolion yn Wganda, gan agor trafodaeth a chyfnewid diwylliannol rhwng rhannau o'r byd sydd â phrofiadau gwahanol iawn o fywyd gwyllt a'r hinsawdd.

Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar ysgolion mewn ardaloedd difreintiedig yn ne Cymru, gan ei bod hi'n ymddangos y bydd y plant hyn yn elwa fwyaf ar ymgysylltu â byd natur. Profwyd bod gweithgareddau fel hyn yn cael buddion iechyd sylweddol gan gynnwys hyrwyddo gweithgarwch corfforol, lles gwell a chyfraddau marwolaethau is hyd yn oed. Drwy greu balchder yn eu cymuned leol a'u cysylltu'n fwy â bywyd gwyllt, bydd y prosiect yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf i ofalu am yr amgylchedd naturiol.

Yn Wganda wledig, ceir mynediad cyfyngedig dros ben at adnoddau addysgol, a go brin bydd gan blant fynediad at y sylfeini fel dŵr glân a thrydan hyd yn oed. Drwy ddarparu cyfarpar TG a chysylltedd â'r rhyngrwyd, bydd disgyblion yn gallu cael mynediad at ddeunydd addysgol newydd a meithrin eu sgiliau TG, gan helpu i feithrin capasiti addysgol yn Wganda.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cefnogi'r prosiect hwn neu brosiectau eraill sy'n debyg, cysylltwch â ni yma.