Sandy - Biocemeg a Geneteg

girl student headshot

Fy hoff brofiad oedd derbyn fy rhodd gyntaf. Yn ystod fy ymgyrch, clywais y straeon mwyaf digrif am eu hamser yn Abertawe, a ches i rai awgrymiadau a chyngor gwych o ganlyniad. Drwy'r ymgyrch, dwi wedi dysgu sgiliau rhyngbersonol a gwaith tîm uwch ac am y gwahanol lwybrau gyrfa sydd ar gael i mi.
Fy nghyngor i ddarpar alwyr fyddai i ymlacio ac ymddwyn yn naturiol, a cheisio gofyn cwestiynau iddynt am eu gyrfa os ydynt yn gwneud rhywbeth sydd o ddiddordeb i chi. Roeddwn i wedi siarad â chyn-fyfyriwr a astudiodd gyfrifiadureg a chemeg yn y saith degau ac a symudodd i'r Unol Daleithiau ar ôl ychydig flynyddoedd. Siaradodd â mi am y cyfrifiaduron cyntaf a datblygiad cyfrifiadureg a oedd yn ddiddorol dros ben.

Cameron - Hanes Modern

boy student headshot

Uchafbwynt yr ymgyrch i mi yw dechrau mewn ystafell llawn dieithriaid a gorffen mewn ystafell llawn ffrindiau a thîm gwych. Rwyf wedi dysgu pwysigrwydd sgwrsio a pha mor gryf yw atgofion llawer o bobl am y Brifysgol. Rwyf wedi dysgu hefyd fod rhai elfennau cyffredin am Abertawe sy'n denu pobl yma a dyw’r rhain ddim yn tueddu i newid.
Y cyngor gorau gallwn i ei roi yw i wenu wrth ddeialu - dwi'n gwybod fy mod i'n swnio llawer mwy cyfeillgar pan fyddaf yn gwneud hynny. Rydym wedi cael hwyl a sbri yn cadarnhau hen gyfeiriadau e-bost sy'n codi cywilydd, maen nhw'n ddigrif iawn.

Eden - Y Gyfraith

female student with pink hair

Mae'n wych cael cyfle i siarad â myfyrwyr sydd wedi dilyn pob math o drywydd. Rwyf wedi dysgu nad yw eich gradd yn golygu o angenrheidrwydd y byddwch yn dilyn gyrfa yn y maes hwnnw. Mae gradd yn agor cynifer o ddrysau mewn bywyd, gan eich helpu i gyflymu eich datblygiad personol a phroffesiynol. Fy nghyngor i ddarpar alwyr yw i ymddwyn yn naturiol a mwynhau gwrando ar y straeon a fydd yn twymo'r galon. Unwaith, siaradais i â dyn 70 oed sy'n dwlu gymaint ar Abertawe mae'n dychwelyd bob pum mlynedd. Cwrddodd â'i wraig yma a gwnaethon nhw briodi cyn graddio.

Henry- Seicoleg ac Addysg

student headshot

Yn y bôn, mae'r ymgyrch ffonio’n ymwneud â sgyrsiau da a gwneud ffrindiau. Rwyf wedi dysgu sut i gyfathrebu â llawer o bobl wahanol drwy alwadau gwych. Rwyf wedi dysgu pwysigrwydd cynnal lefel fy nghymhelliant drwy gydol y sgwrs a mwynhau'r alwad hyd yn oed os yw'r ymateb yn negyddol. Roeddwn i'n ddigon ffodus i siarad â dyn sydd wedi teithio'r byd ers gadael a rhoddodd lwyth o gyngor gwych i mi.

Dan - Seicoleg

a student in a red hoody

Mae wedi bod yn wych clywed am y gyrfaoedd gwahanol a sut mae pobl wedi elwa o'u profiad yn y Brifysgol. Ces i fy synnu pa mor gyfeillgar oedd y cyn-fyfyrwyr a pha mor barod oeddent i siarad am eu profiadau, felly fy nghyngor i fyddai peidiwch â chynhyrfu, pobl ydyn nhw, yr un fath â chi, felly peidiwch â bod yn nerfus. Peidiwch â meddwl gormod amdani a dysgwch gan bob person rydych yn ei ffonio.