Cronfa'r Angen Mwyaf
Caiff Cronfa'r Angen Mwyaf ei chefnogi gan roddion gan gyn-fyfyrwyr, staff a rhieni'r Prifysgol. Gall staff academaidd a'r gwasanaethau proffesiynol, cynrychiolwyr o Undeb y Myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr/rhoddwyr presennol fod yn aelodau o'r panel dosbarthu.
Rydym yn annog yn gryf unigolion o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i gyflwyno ceisiadau gan ein bod yn ymdrechu i greu amgylchedd amrywiol a chynhwysol sy'n gwerthfawrogi ac yn deall pob safbwynt.
Meini prawf ar gyfer derbyn arian
Rhaid i'ch cais ddangos o leiaf un o'r meini prawf hanfodol canlynol:
- Effaith ar gynulleidfa fawr (e.e. drwy ymchwil bwysig).
- Gwneud gwahaniaeth ansoddol i brofiad y myfyrwyr.
Rydym yn arbennig o awyddus i dderbyn ceisiadau ar gyfer mentrau megis:
- Cyllid sbarduno ymchwil
- Cyllid ar gyfer cymdeithasau a chlybiau chwaraeon
- Offer a chyfarpar i helpu i hyrwyddo'ch gweithgareddau allgymorth ac ymchwil
Ni fyddwn fel arfer yn ariannu'r canlynol:
- Ceisiadau gan unigolion oherwydd caledi ariannol. E-bostiwch Arian@BywydCampws am ragor o wybodaeth am gronfeydd caledi.
- Cronfeydd gwaddol
- Digwyddiadau ac arlwyo
- Cwmnïau preifat, gan gynnwys eich prosiect menter eich hun (am wybodaeth ynghylch ariannu'r mathau hyn o fentrau, ewch i'r dudalen hon
- Elusennau eraill (ac eithrio Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Abertawe)
Nodiadau i Ymgeiswyr
- Gwerth nodweddiadol grantiau yw hyd at £5,000 ond mewn amgylchiadau eithriadol byddwn yn ystyried ceisiadau am hyd at £10,000
- Cyn y gellir rhyddhau arian i ymgeiswyr llwyddiannus, bydd angen i chi fanylu ar effaith/ganlyniad tebygol y cyllid hwn.
- Gallwn ddefnyddio hyn fel astudiaeth achos.
- Sylwer y bydd prosiectau sy'n cael eu hariannu gan Gronfa'r Angen Mwyaf yn cael sylw yn ein deunyddiau cyhoeddusrwydd.
- Bydd rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu adroddiad byr sy'n nodi sut mae'r arian wedi cael ei ddefnyddio a'r buddion sy'n deillio ohono.
- Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn anfon ein polisi 'Derbyn Arian Elusennol' atoch a byddwn yn cysylltu â chi eto tua 12 mis ar ôl i'r arian gael ei drosglwyddo i chi.
Proses cyflwyno cais
- Os oes gennych gwestiynau am y ffurflen gais neu'r broses ymgeisio, neu os hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â Bill Saunders w.saunders@abertawe.ac.uk cyn cyflwyno cais.
- Rhaid cyflwyno'r cais yn electronig erbyn 30 Mehefin 2024.
- Gwnewch yn siŵr eich bod wedi sicrhau unrhyw gymeradwyaeth ofynnol cyn cyflwyno eich cais (cysylltwch â Bill Saunders os ydych yn ansicr.)
- Bydd Panel Dosbarthu Cronfa'r Angen Mwyaf yn cwrdd ym mis Gorffennaf 2024 i ystyried yr holl geisiadau cymwys.
- Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod am ganlyniad eu cais ym mis Awst, pan ofynnir iddynt lofnodi ein polisi 'Derbyn Arian Elusennol'. Caiff yr arian ei drosglwyddo i ymgeiswyr llwyddiannus o fis Awst 2024.