Dyma beth mae rhai o'n graddedigion yn ei wneud nawr ...

Cyflwynydd a Newyddiadurwr Amlgyfrwng – Ignatius Annor

Yn wreiddiol o Ghana, daeth Ignatius Annor i Abertawe yn 2015 i ddilyn gradd MA Newyddiaduraeth Ryngwladol. Dychwelodd i Affrica ar ôl graddio ac mae nawr yn gyflwynydd a newyddiadurwr amlgyfrwng yn Africanews. Dywedodd am ei amser yn Abertawe:

"Cwblheais fy ngradd Meistr mewn Newyddiaduriaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Abertawe. Ar y cyfan, mwynheais fy hun a phob profiad y ces i. Roedd y tiwtoriaid a'r staff cymorth eraill yn du hwnt o gymwynasgar. Roeddent yn sicr yn byw eu pwrpas drwy ymroi'n llwyr i'w doniau. Agorodd y cwrs ddrws i wybodaeth newydd o'r hyn i'w ddisgwyl mewn cyfryngau byd-eang, rhywbeth i mi ddyheu amdano erioed. Nid yw'n syndod fy mod yn gweithio fel newyddiadurwr amlgyfrwng a chyflwynydd yn Africanews ar hyn o bryd, y sianel newyddion holl-Affricanaidd cyntaf, yn Pointe-Noire, Congo (Brazzaville). Ar hyn o bryd rwy'n cynhyrchu ac yn cyflwyno Sci Tech bob dydd Mawrth. Rwy'n ymdrin â phob agwedd ar wyddoniaeth, technoleg ac arloesi digidol. Rwy'n gweithio mewn amgylchedd amlddiwylliannol lle mae'r angen i gydweithio'n hollbwysig. Diwydrwydd, rhagweithioldeb, creadigrwydd ac awydd i wthio'r tu hwnt i ffiniau – mae'r nodweddion hyn a ddatblygais ym Mhrifysgol Abertawe yn rhinweddau gwerthfawr yn fy swydd bresennol. Diolch Abertawe!"

Cymeradwyaeth Graddedigion

"Ar ôl astudio MA Newyddiaduriaeth Gymharol ym Mhrifysgol Abertawe, roedd gen i gydbwysedd da o wybodaeth ddamcaniaethol a sgiliau newyddiaduriaeth ymarferol, gan alluogi i mi fynd ati i ysgrifennu newyddion ac erthyglau mewn modd effeithiol ac i ddatblygu portffolio gwaith cryf. Roedd yr ymagwedd fyd-eang tuag at newyddiaduriaeth yn fy helpu i ddatblygu golwg ehangach o gyfryngau'r byd ac i ddeall pwysigrwydd technolegau cyhoeddi newydd, sy'n ddefnyddiol iawn am fy mod bellach yn gweithio yn Shanghai, Tsieina yn olygydd y we ar gyfer cylchgrawn Time-Out."
Claire Siobodian, graddedig Prifysgol Abertawe o'r Deyrnas Gyfunol.


"Yn fyfyriwr rhyngwladol o India, astudio dramor yn Abertawe oedd y profiad mwyaf anhygoel o ran datblygu fy hun a chaffael gwybodaeth. Mae'r Swyddfa Ryngwladol ac adrannau'r Brifysgol yn hynod gefnogol a chyfeillgar, ar hyn sy'n unigryw yw eu bod yn wirioneddol yn meddwl amdanoch. Mae dinas Abertawe yn hardd ac yn ddiddan, ac ar ben hynny mae'r bobl yn groesawgar ac yn galonogol yn eich holl ymdrechion. Mwynheais astudio'r radd Meistr Cyfryngau Digidol yn fawr. Mae'r cwrs a'r Gyfadran wedi ehangu fy ngorwelion, o ran cyfryngau newydd ac mewn pynciau eraill megis cyfrifiadureg, gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol. Os nad ydw i wedi llwyddo i wneud y darllenwyr yn genfigennus eto, a'ch ysbrydoli i gymryd y cwrs, yn olaf hoffwn ddweud y byddwch yn colli darlithoedd sydd gwerth eu profi."

Tejeswini Krishnan, graddedig Prifysgol Abertawe o India.


Ayo a Jing Li ydym ni, myfyrwyr rhyngwladol o Nigeria a Tsieina sy'n astudio MA Cyfathrebu, Ymarfer y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus ym Mhrifysgol Abertawe. Fel rhan o asesiad y modiwl Gwneud Fideo a Ffilm Ddogfen, rhaid i ni weithio mewn tîm i gynhyrchu fideo pum munud, felly penderfynom greu fideo am fywyd myfyrwyr. Fel myfyrwyr rhyngwladol, roedd hi'n heriol addasu i amgylchedd dysgu newydd, felly rydym wedi creu fideo i helpu a rhoi arweiniad i fyfyrwyr newydd. Mae gwneud fideos yn brofiad newydd sbon i ni, ac rydym wedi dysgu mai gweithio fel tîm sy'n allweddol. Mae gennym ill dau wahanol gryfderau, a mwynhaom weithio gyda'n gilydd i ddewis y syniadau gorau. Mae ein prosiect hefyd wedi ein helpu i ddysgu mwy am Brifysgol Abertawe. Gallwn ddweud bod bywyd myfyrwyr yma yn rhyfeddol, cawsom lawer o hwyl yn gwneud ein fideo ac Abertawe oedd y dewis cywir i ni yn bendant.

Olubolade Ayokunle a Jing Li


"Mwynheais fy lleoliad gwaith gydag MGB yn fawr. Roeddwn yn teimlo fy mod yn chwarae rhan lawn yng ngwaith y tîm a fy mod yn eu helpu cymaint ag y gallwn. Roedd pawb yn MGB mor gyfeillgar ac roeddwn i’n teimlo’n gyfforddus ac yn gartrefol yn y swyddfa. Dwi bellach wedi cael cynnig lleoliad fel prentis am flwyddyn, yn gweithio am un diwrnod yr wythnos. Ces i fy syfrdanu gan y cynnig a dwi wrth fy modd a dweud y lleiaf! Mae'n debygol iawn y byddaf yn derbyn y cynnig hwn, oherwydd gall fod yn lleoliad gwaith hyblyg i ganiatáu ar gyfer fy ngwaith prifysgol.

Christina Deias, BA Y Cyfryngau a Chyfathrebu

Gwobrwyo Myfyrwyr 2015

CYN-FYFYRWYR MENTERGAR Y CYFRYNGAU YN ANHRYDEDDU MYFYRWYR PRESENNOL

Mae dau o gyn-fyfyrwyr mentergar y Cyfryngau a Chyfathrebu Prifysgol Abertawe wedi rhoi gwobrau i ddathlu llwyddiant myfyrwyr presennol BA Y Cyfryngau a Chyfathrebu.

Yn seremoni raddio 2015, cyflwynwyd Gwobr Andrew Macarthy am ragoriaeth i Benjamin Palmer am ei radd anrhydedd dosbarth cyntaf BA Astudiaethau’r Cyfryngau.  Benjamin enillodd y marciau uchaf ar y rhaglen BA Y Cyfryngau a Chyfathrebu. Cyflwynwyd Gwobr Pencil PR i Sian Griffiths, a enillodd radd dosbarth cyntaf hefyd, am ei chanlyniadau neilltuol yn BA Y Cyfryngau a Chyfathrebu, yn enwedig yn y modiwlau cysylltiadau cyhoeddus.

GWOBR ANDREW MACARTHY: Graddiodd Andrew Macarthy o Brifysgol Abertawe gyda BA mewn Astudiaethau'r Cyfryngau ym mis Mehefin 2006.  Ym mis Mawrth 2012, cyhoeddodd ei lyfr, 500 Social Media Marketing Tips, gan werthu dros 60,000 o gopïau. www.andrewmacarthy.com.  Yn ogystal, creodd Andrew Little Dragon Welsh Gifts, yn dylunio ac yn gwerthu cynnyrch o Gymru. www.littledragonwelshgifts.com

GWOBR PENCIL PR: Graddiodd Becky Lewis o Brifysgol Abertawe gyda BA Saesneg ac Astudiaethau'r Cyfryngau ym mis Mehefin 2008. Dechreuodd ei gyrfa'n gweithio i asiantaeth cysylltiadau cyhoeddus yn Norwich cyn sefydlu ei hasiantaeth ei hun, Pencil PR, yn 2011.  Mae Pencil PR yn parhau i fynd o berth i nerth, gyda Becky yn gweithio gyda chleientiaid mor amrywiol â Northney Ice Cream, Undeb Credyd Hampshire a The London Dinner Club.

"Mae'n hyfryd gallu dathlu dau lwyddiant heddiw", meddai Cyfarwyddwr Rhaglen Israddedig y Cyfryngau a Chyfathrebu, Sian Rees. "Mae Ben Palmer a Sian Griffiths wedi bod yn fyfyrwyr neilltuol ac ymroddedig, ac maent yn wirioneddol haeddu eu graddau ardderchog, a hefyd y gwobrau hyn, sy'n talu teyrnged i'w medrau academaidd a'u dyfalbarhad. Mae hefyd yn hyfryd bod dau gyn-fyfyriwr mentergar, ill dau wedi dechrau eu busnes eu hunain, wedi dychwelyd i gefnogi'r cynllun gradd ac i'n helpu i gydnabod rhagoriaeth. Rydym yn ddiolchgar iawn i Andrew a Becky am eu cefnogaeth."

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Siân Rees, s.f.rees@abertawe.ac.uk, 01792 602636