Rhaglenni Cyflogadwyedd Santander

Students sitting outside Fulton House in the sunshine

Mae partneriaeth y Brifysgol â Santander yn cynnig cyfleoedd ariannu cyfoethog ac amrywiol i fyfyrwyr, cyflogwyr a staff. 

Interniaethau Santander

Bu Santander yn cefnogi Academi Cyflogadwyedd Abertawe ers 2014 gyda chyllid ar gyfer interniaethau i helpu i dalu costau cyflog myfyriwr neu unigolyn a raddiodd yn ddiweddar. Mae dwsinau o gyflogwyr wedi elwa o'r cyllid hwn sy'n rhan o raglenni'r Academi Cyflogadwyedd. Ar hyn o bryd caiff y cyllid ei ddosbarthu drwy fwrdd swyddi digidol y Parth Cyflogaeth a gall cyflogwyr gyflwyno cais yn uniongyrchol drwy e-bostio employmentzone@abertawe.ac.uk

Students buying goods in Root Zero

Santander x #entrylevelboss

Diolch i gyllid gan Prifysgolion Santander, gall Academi Cyflogadwyedd Abertawe gynnig Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd mewn partneriaeth â #entrylevelboss. Mae'r rhaglen wedi denu llawer o ymgeiswyr a bob blwyddyn dewisir 12 ymgeisydd i gymryd rhan.

"Mae wedi bod yn brofiad anhygoel na fydda i byth yn ei anghofio, ac rydw i mor ddiolchgar am bopeth rydw i wedi'i ddysgu. Roedd Sally ac Alexa yn wych, gan gynnal awyrgylch cadarnhaol a chroesawgar a oedd hefyd yn gefnogol. Gwnaeth eu cyngor fy helpu'n fawr wrth ddarganfod yr hyn yr hoffwn i ei wneud, ond yn bwysicaf oll, gwnaethon nhw fy annog i fynd amdani." Victoria, BA yn y Cyfryngau a Chyfathrebu

Cadarnhawyd cyllid gan Prifysgolion Santander tan flwyddyn academaidd 22/23.

#entrylevelboss logo

Bwrsariaethau CPD500 Santander

O ganlyniad i'n perthynas wych â Santander, dyfarnwyd £20 mil o gyllid ychwanegol i Brifysgol Abertawe yn ystod blwyddyn academaidd 2021/22. Cafodd yr arian ei ddosbarthu ymhlith myfyrwyr ar gyfer eu datblygiad personol. Ar y cyd â'r Tîm Mentergarwch ac Undeb y Myfyrwyr, gwnaethon ni ddatblygu cronfa Myfyrwyr CPD500, a groesawodd geisiadau am gyllid hyd at £500 ar gyfer cyrsiau DPP a phroffesiynol y gall myfyrwyr eu dilyn wrth ochr eu hastudiaethau prifysgol. Derbyniodd cyfanswm o 40 o fyfyrwyr gyllid ar gyfer ystod o gyrsiau amrywiol, gan gynnwys academïau hedfan, hyfforddiant iaith a chyrsiau rhaglennu.

Hefyd mae Santander yn cynnal ei raglen sgiliau a chyfranogiad myfyrwyr bwrpasol ei hun trwy gydol y flwyddyn i fyfyrwyr a graddedigion diweddar. Caiff y rhain eu hyrwyddo drwy fwrdd swyddi digidol ein Parth Cyflogaeth.

Female student studying