Mae Prosiect Demonoleg yr Hen Aifft:  Yr 2il Filflwyddiant CC yn archwilio i deyrnas bodau goruwchnaturiol yr Hen Aifft er mwyn deall y rôl roeddent yn ei chwarae fel dulliau o ymdopi â thrawma, afiechydon a phryderon.  Mae’r astudiaeth hefyd yn archwilio’r seicoleg y tu ôl i’r dewis o nodweddion (anifeilaidd, wynebol, ystumiau) y bodau, gan nodi strwythurau cyffredin a oedd yn dod â chysur neu’n rhoi ymdeimlad o gael eich amddiffyn i bobl. Dyfarnwyd Grant Ymchwil Ymddiriedaeth Leverhulme(2013-16) i gyllido’r prosiect peilot. Roedd hyn yn cynnwys dau fyfyriwr PhD i greu cronfa ddata berthynol i gatalogeiddio sampl o’r demoniaid hyn yn yr Hen Aifft.

Athro Kasia Szpakowska

 

Arweinir y prosiect hwn gan Dr Kasia Szpakowska, Athro Cysylltiol mewn Eifftoleg yn Adran y Clasuron, yr Henfyd ac Eifftoleg. Mae ei diddordeb ymchwil yn cynnwys arferion crefyddol preifat, hud a lledrith, rhywedd, bywyd beunyddiol, breuddwydion, cyltiau cobra ac, wrth reswm, ddemoniaid,  yr Hen Aifft.

Roedd y sylfaen yn ddadansoddiad ffilolegol, eiconograffig ac archeolegol manwl o bob demon y daethpwyd o hyd iddo yn Nhestunau’r Arch, ffyn hudol, ategion pen wedi’u haddurno a llawysgrifau Llyfr y Meirwon.  Dadansoddwyd manylion pob bod, gan ystyried ei ffurf, ei swyddogaeth a’i nodweddion hanfodol. Arweiniodd y gynhadledd ryngwladol o’r enw 'Demon Things: Ancient Egyptian Manifestations of Liminal Entities' 21-24 Mawrth, 2016 at gyfrol a olygwyd gyda’r un enw, a olygwyd gan Szpakowska. Cwblhawyd dau draethawd PhD yn llwyddiannus yn 2017: Dr Zuzanna Bennett, "An interpretive analysis of the role of the demons in the ancient Egyptian Coffin Texts.” A Dr Sophie Felicitas Weber, "Diegetic Lists in the Early Egyptian 'Book of the Dead'. A Contextual Analysis of Demonic Entities in Private Second Millennium Manuscripts."

Cynhelir gwaith ymgysylltu â’r cyhoedd drwy amrywiaeth o allbynnau allweddol, gan gynnwys darlithoedd cyhoeddus (yn y DU, UDA ac Ewrop), sesiynau trin, cronfa ddata ar-lein mynediad agored a gwaith ymgysylltu drwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol amrywiol. Cafodd y prosiect ei gynnwys yn nigwyddiad Ymchwil fel Celf (1015-2016). Mae gan deuluoedd a phlant gyfleoedd ymarferol gyda’r “archarwyr” hyn drwy ein Gorsaf Creu Demoniaid sydd wedi ymddangos yn yr Ŵyl Wyddoniaeth Brydeinig,yr Ŵyl Bod yn Ddynol, a digwyddiadau archarwyr mewn amgueddfeydd megis Amgueddfeydd Ashmolean a Glannau Abertawe.

Mae’r prosiect hefyd yn ymddangos mewn erthyglau papurau newydd a chylchgronau, podlediadau (BBC History Extra a Profane Egyptologists) ac mewn cyfweliadau. Effaith annisgwyl  rhaeadru’r ymchwil hon oedd gwaith cydweithredol gyda’r ddawnswraig/coreograffydd Betsy Baytos, ac ymddangosiad demoniaid yr Aifft yn ei Eccentric Dance Timeline.

Mae ymchwil yn parhau wrth i Kasia Szpakowska archwilio i ddatblygiad eiconograffeg ac ymgnawdoliadau demonaidd newydd mewn ymateb i dryblith emosiynol dwfn a phryder cymunedol.