Croeso i'r Clasuron, Hanes yr Henfyd ac Eifftoleg

Rydym yn frwdfrydig am hen Roeg, Rhufain a'r Aifft, ac rydym am rannu ein hymchwil a'n gwybodaeth â chi.

Rydym yn gymuned agos sydd â'r nod o ysbrydoli dysgu am ddiwylliannau ac ieithoedd pell a dod â nhw'n fyw. Mae ein hymchwil o safon yn ceisio meithrin ac annog sgiliau beirniadol, sgiliau ymchwil a sgiliau rhyngbersonol ein myfyrwyr.

Rydym yn ymfalchïo mewn mabwysiadu a meithrin syniadau a helpu myfyrwyr i dyfu, yn yr ystafell ddosbarth a'r tu allan iddi: drwy gyflwyniadau grŵp, addysgu a gwirfoddoli a lleoliadau gwaith yn ein hamgueddfa ein hunain (y Ganolfan Eifftaidd), teithiau maes, postiadau blog, cyhoeddiadau myfyrwyr a dylunio gwefan.

Yn Abertawe, rydym yn hollol ymrwymedig i ymgysylltu cyhoeddus ag amgueddfeydd, cyrff treftadaeth ac ysgolion. Mae ein myfyrwyr yn elwa ar ein cysylltiadau â sefydliadau o'r fath a'r ffyrdd rydym yn eu paratoi ar gyfer y gweithle drwy annog creadigrwydd ac arloesi, gan arwain drwy esiampl ein hymchwil. Mae ein cyn-fyfyrwyr wedi'u cyflogi mewn ystod eang o feysydd gwahanol.