Mae eleni wedi cyflwyno nifer o newidiadau a heriau i bob un ohonom ni ar ffurf BREXIT a dyddiad cau’r cyfnod pontio sy’n gyflym yn nesáu, heriau recriwtio myfyrwyr ar gyfer y sector cyfan a phandemig byd-eang i enwi rhai yn unig. Yma, bydd Ceri Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Ymchwil, Ymgysylltu ac Arloesi? (REIS) Prifysgol Abertawe yn trafod yr hyn y mae Prifysgol Abertawe wedi’i wneud yn sgil yr heriau hyn a sut gallant barhau i gefnogi busnesau yn ystod y misoedd i ddod.

Mae'n bleser cael y cyfle i roi diweddariad cryno i chi ar Ymchwil ac Arloesi ym Mhrifysgol Abertawe.  Yn gyntaf oll, gobeithiaf eich bod chi a'ch teulu'n iach ac yn ddiogel a'ch bod chi wedi llwyddo i fwynhau misoedd yr haf.

Mae eleni wedi cynnig heriau, does dim dwywaith am hynny, yn ogystal â thaflu ambell bêl grom atom, gan gynnwys BREXIT a diwedd y cyfnod trosi yn nesáu'n gyflym, heriau recriwtio myfyrwyr ar draws y sector a'r pandemig COVID-19 byd-eang, i enwi ond ychydig sydd wedi dod i'r amlwg i Brifysgol Abertawe.  

Byddai dweud bod ein cyllidwyr, ein partneriaid, ein cydweithredwyr, ein myfyrwyr, ein cymuned ymchwil a'n staff wedi wynebu a llwyddo yn wyneb ansicrwydd sylweddol eleni yn danddatganiad i ddweud y lleiaf. Mae'r geiriau rhyfeddol, eithriadol a diymhongar yn rhai sy'n dod i gof wrth adrodd ar gyflawniadau eleni.  Mae straeon tebyg sy'n hynod ysbrydoledig ar draws y sector Addysg Uwch yn ei gyfanrwydd. 

Yma yn Abertawe, rydym ni wedi llwyddo i ailgyfeirio llawer o'n gweithgareddau i ganolbwyntio ar y frwydr yn erbyn Covid-19 a chyda chefnogaeth ein partneriaid a'n cyllidwyr, ynghyd â straeon am ddiheintio ambiwlansys, cynhyrchu hylif diheintio dwylo, datblygu gwyntiedyddion sy'n achub bywydau, cynghori'r Llywodraeth, astudio effeithiau corfforol a meddyliol y pandemig, cofnodi profiadau Covid-19 a chodi arian i'r rhai yn yr angen mwyaf, i enwi ond ychydig ohonynt.

I unrhyw un nad yw'n gyfarwydd ag Ymchwil ac Arloesi mewn Prifysgolion, gallai eleni fod wedi bod yn gwbl drychinebus, wrth i gyfleusterau ymchwil gau, symudiad torfol tuag at weithio gartref, rhoi rhai staff ymchwil a chefnogi ar ffyrlo ac ansicrwydd enfawr o ran cyllid ymchwil newydd a chyflawni prosiectau ymchwil presennol a newydd a gymeradwywyd.

Yn wyneb adfyd eleni, dyrannwyd £68m o Gyllid Ymchwil i Brifysgol Abertawe, sy'n cynrychioli cynnydd ar y £62m a ddyrannwyd iddi yn 18/19.  Yr hyn sydd wedi’i gynnwys yn y ffigur hwn yw cyllid ar gyfer gweithgareddau mewn amrywiaeth eang o sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector a fydd yn tanio arloesedd a thwf. Roedd y cyflawniad anhygoel hwn yn ganlyniad ymdrechion diflino ar y cyd ar draws ein cymuned, a rhywbeth y gallwn ni ymfalchïo ynddo fel dinas, rhanbarth a sir. 

Bydd llawer o'r gweithgarwch newydd hwn yn cefnogi prosiectau a gyllidwyd i fynd i'r afael â Covid-19 a hwyluso datblygu economaidd a chymdeithasol yn ne-orllewin Cymru a'r tu hwnt, o gefnogi busnesau i ddatblygu ac ehangu drwy ddarparu hyfforddiant datblygu, i  gyflwyno arloesedd newydd i'n bywydau, a gweithio gyda sefydliadau i  ddeall a datrys heriau diwydiant.  Fel sefydliad, rydym yn cydnabod bod gennym gyfrifoldeb i weithio gydag ac ar ran ein myfyrwyr, ein staff a’n cymunedau ledled Cymru a’r tu hwnt iddi. Byddwn yn parhau i ymfalchïo mewn chwarae rôl wrth greu arloesedd newydd, swyddi newydd, busnesau newydd ac uwchsgilio gweithluoedd er mwyn wynebu llawer o'r heriau sydd o'n blaenau.

Mae Cymru wedi llusgo ar ôl gweddill y DU dros y blynyddoedd diwethaf o ran cyllid i gefnogi Ymchwil ac Arloesi, ac mae'n galonogol iawn i dderbyn dyfarniad cyllid gwerth £2.4m yn ddiweddar gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i danio gweithgareddau arloesedd a'n rhoi ni ar lefel sy’n gyfartal â  gwledydd eraill y DU. Bydd rhagor o wybodaeth yn dilyn yn y man felly cadwch lygad amdani!

Eleni yw ein Canmlwyddiant, a dechreuodd gyda Gwobrau Ymchwil ac Arloesi Prifysgol Abertawe ym mis Ionawr 2020. Gan fod yr holl ddigwyddiadau corfforol bellach wedi’u gohirio yn sgil y pandemig byd-eang, mae cyllid a neilltuwyd ar gyfer dathliadau’r canmlwyddiant ynghyd â rhoddion a gafwyd gan gefnogwyr wedi’u hailgyfeirio at grantiau ar gyfer ymchwil i Covid-19 ac er mwyn rhoi hwb i gronfa galedi’r myfyrwyr i helpu myfyrwyr y mae’r pandemig yn effeithio’n uniongyrchol arnynt.

Mae Covid-19 wedi newid y ffordd mae pawb yn gweithio.  Ym mis Mehefin eleni, symudon ni i fformat digidol ar gyfer ein llwyfan ymgysylltu a rhwydweithio, Prifysgol Abertawe: LINC, ac mae'r ymateb wedi bod yn hynod gadarnhaol. Ymunwch â ni ar LinkedIn ac ystyriwch ddod i'n sesiwn nesaf sy'n canolbwyntio ar oblygiadau cyfreithiol, lles ac economaidd gweithio gartref.

Edrychaf ymlaen yn fawr iawn at weithio gyda'n rhanddeiliaid dros y flwyddyn nesaf, a byddwn yn eich annog i gysylltu â'r tîm i drafod yr amrywiaeth o gyllid sydd ar gael ar hyn o bryd i sefydliadau i hwyluso cydweithio â phrifysgolion, gan gynnwys yr hwb cyllido ar gyfer Partneriaethau Cyfnewid Gwybodaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

Rhannu'r stori