Y mis yma, mae partneriaeth ASTUTE yn dathlu carreg filltir bwysig dros ben: roedd Mai 1af yn nodi 10 mlynedd o weithredu llwyddiannus, ymgysylltu â mwy na 500 o gwmnïau, a chefnogi dros 370 o fusnesau ledled Cymru er mwyn rhoi sylw i heriau gweithgynhyrchu.

Mae ASTUTE 2020 (Technolegau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy Uwch) yn bartneriaeth rhwng pum prifysgol sy’n sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, ac mae’n cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru. Nod y prosiect yw dileu’r risgiau sydd ynghlwm wrth ddefnyddio Technolegau Gweithgynhyrchu’r Dyfodol trwy ganiatáu lefelau uwch o arloesedd i fusnesau yn sgîl cydweithio rhwng diwydiant ac academia, gyda’r nod yn y pen draw o wella ffyniant y rhanbarth.

Y mis yma, mae partneriaeth ASTUTE yn dathlu carreg filltir bwysig dros ben: roedd Mai 1af yn nodi 10 mlynedd o weithredu llwyddiannus, ymgysylltu â mwy na 500 o gwmnïau, a chefnogi dros 370 o fusnesau ledled Cymru er mwyn rhoi sylw i heriau gweithgynhyrchu. Yn sgîl Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru, a chefnogaeth Prif Sefydliadau Addysg Uwch Cymru, mae ASTUTE wedi cyflawni trefniadau cydweithio sydd wedi cael effaith fawr ar hyd y blynyddoedd, gan ddarparu lefelau uwch o arloesedd ym myd busnes.

Mae’r bartneriaeth hon o sefydliadau addysg uwch, dan arweiniad Prifysgol Abertawe, mewn cydweithrediad agos â Phrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yn credu’n angerddol mewn cefnogi gweithgynhyrchwyr yng Nghymru, ac mae wedi dod ag academyddion blaenllaw, arbenigwyr technegol hynod gymwys a rheolwyr prosiectau at ei gilydd i gyflawni gwaith Ymchwil, Datblygu ac Arloesedd sy’n cael ei arwain gan y diwydiant. O ganlyniad, mae cwmnïau wedi buddsoddi dros £14.4 miliwn i wreiddio technolegau uwch a chynaliadwy, a rhoi gwelliannau ar waith yn eu prosesau gweithgynhyrchu, gan greu neu ddiogelu mwy na 270 o swyddi, a thrwy hynny wneud cyfraniad sylweddol i economi Cymru.

Mae ASTUTE wedi sefydlu perthnasoedd cydweithio cryf gyda chwmnïau o Gymru ar draws amrywiaeth o sectorau megis awyrofod, moduron, meddygol, a bwyd a diod gyda threigl y blynyddoedd: e.e. Crossflow Energy Co Ltd. ar ddatrysiadau ynni gwynt a solar ag echelin llorweddol newydd, oddi ar y grid, Frontier Medical Group ar gynhyrchu eu cynwysyddion nodwyddau cynaliadwy, sy’n gallu gwrthsefyll cael eu gollwng, Gwasg Gomer ar ddadansoddi data hanesyddol er mwyn optimeiddio llif gwaith cynhyrchu cyfredol, Affresol Ltd. ar weithgynhyrchu a chynhyrchu Thermo Poly Rock o ganran uchel o ddeunyddiau a ailgylchwyd, Cyden Ltd. ar eu harloesedd technolegol ym maes cynnyrch tynnu blew sy’n llesol i’r croen a Cintec International Ltd. ar eu system angori ac atgyfnerthu unigryw sydd i’w defnyddio mewn adeiladwaith a allai wynebu daeargrynfâu ar draws y byd. Mae dros 280 o drefniadau cydweithio rhwng diwydiant ac academia wedi arwain at lansio mwy na 500 o gynnyrch neu brosesau newydd neu well.

Mae British Rototherm Company Ltd., ym Mhort Talbot, un o brif weithgynhyrchwyr offeryniaeth ddiwydiannol ar gyfer y diwydiannau olew a nwy a diwydiannau prosesu eraill, wedi bod yn gweithio gydag ASTUTE 2020 i ddefnyddio galluoedd modelu acwstig ASTUTE i ragfynegi lefelau sŵn gostyngwyr gwasgedd agorfeydd. Yn dilyn profion arbrofol helaeth a wnaed gan British Rototherm Company, o ganlyniad i’r cydweithio, mae’r cwmni wedi datblygu gallu i arwain y farchnad ym maes rhagfynegi sŵn gostyngwyr gwasgedd agorfeydd, wedi cyflogi staff newydd, wedi buddsoddi mewn peiriannau newydd, ac wedi sicrhau contractau ychwanegol.

Mae Oliver Conger, y Rheolwr Gyfarwyddwr, yn amlygu’r rhyngweithio cadarnhaol rhwng ei gwmni ac ASTUTE 2020 mewn fideo sbotolau ar y prosiect: “Mae gan ASTUTE 2020 allu technegol sylweddol, mae ganddyn nhw fynediad at raglenni, a meddalwedd ac adnoddau sydd ddim gan gwmni fel Rototherm. Gallan nhw helpu i roi hyder i chi fentro ar rywbeth fyddech chi ddim wedi’i wneud fel arall." Gallwch chi weld y fideo yma.

Wrth siarad am 10 mlwyddiant ASTUTE, dywedodd yr Athro Johann Sienz, Cyfarwyddwr y Rhaglen: “Rydyn ni’n falch iawn o’r llwyddiant a’r effaith economaidd a gawsom yn ystod y 10 mlynedd diwethaf trwy gydweithio’n agos â chwmnïau, gan roi mynediad hollbwysig i’r sector gweithgynhyrchu i academyddion, ein tîm o arbenigwyr technegol hynod gymwys, a’r cyfleusterau a’r cyfarpar, gan ddangos potensial trefniadau cydweithio effeithiol, a gynlluniwyd yn dda rhwng y byd academaidd a diwydiant er mwyn sbarduno ymchwil ac arloesedd mewn eco-system weithgynhyrchu lefel uwch.”

Mae rhaglen ASTUTE 2020 (Technolegau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy Uwch) (2015 – heddiw), sy’n cefnogi cwmnïau gweithgynhyrchu ledled Cymru, wedi cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru a’r Sefydliadau Addysg Uwch sy’n rhan ohoni. Mae’n cael ei harwain gan Brifysgol Abertawe, mewn cydweithrediad â Phrifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Rhannu'r stori