Mae pedair blynedd o gydweithio rhwng Prifysgol Abertawe a GE Healthcare wedi cynyddu triniaeth canser yr ofari drwy ganiatáu ar gyfer dadansoddi cyffuriau yn fanwl er mwyn targedu'r clefyd. Dechreuodd y cydweithio â GE Healthcare yn 2015, gan ddarparu offer dadansoddi uwch o'r enw BiacoreTM T200, sy'n mesur y rhyngweithiadau rhwymo rhwng moleciwlau, gan ganiatáu i ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe ddadansoddi ADC yn gyflym ac yn fanwl.

Mae cyffuriau gwrthgyrff cyfunedig (ADC) yn ddosbarth pwysig o gyffuriau biofferyllol cryf iawn a ddyluniwyd fel therapi targedu ar gyfer trin pobl â chanser.

Esboniodd Dr Gareth Healey o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe: "Mae nodweddu ymddygiad gwrthgyrff yn hollbwysig er mwyn deall eu potensial therapiwtig. 

"Mae ein hymchwil wedi dangos nad yw ymagweddau traddodiadol at ddatblygu gwrthgyrff i'w defnyddio fel ADC yn dal digon o wybodaeth am sut y bydd gwrthgyrff yn perfformio yn y dyfodol. Yn aml mae hyn yn arwain at wrthgyrff sydd wedi'u hymchwilio'n helaeth yn methu cyn cyrraedd y cam clinigol, sy'n cymryd llawer o amser ac yn gost-aneffeithiol.

"Gyda thechnoleg Biacore, roedd modd i ni nodweddu ymddygiad rhwymo'r gwrthgyrff yn llawn a deall pam bod rhai gwrthgyrff yn gweithio'n dda, ac eraill ddim."

Yn ogystal â helpu i ddatblygu gwrthgyrff cryf ar gyfer ein ADC presennol, bydd y wybodaeth a'r technegau a ddatblygir yn helpu i wella datblygiad ADC yn y dyfodol er mwyn sicrhau mai'r gwrthgyrff mwyaf addas yn unig a ddewisir."

Mae'r ymchwil llwyddiannus wedi arwain at gydweithio newydd, a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, rhwng GE Healthcare a Phrifysgol Abertawe (yn ogystal â phedwar partner arall: Porvair, GSK, Bruker ac Axis). Mae'r Clwstwr Therapiwteg ADC ac Epigenomaidd (CEAT) ym Mhrifysgol Abertawe'n ceisio datblygu ADC ymhellach i dargedu proteinau y mae gormod o gopïau ohonynt mewn celloedd canser yr ofari.

Yn ogystal â mynediad at dechnoleg Biacore, bydd GE Healthcare yn cynorthwyo â defnyddio IN Cell Analyser. Mae hon yn system microsgopeg delweddu trwygyrch uchel awtomataidd a gaiff ei defnyddio i ddarganfod a all y gwrthgyrff a ddewiswyd fewnoli (symud i mewn i'r gell), sy'n agwedd hollbwysig ar weithrediad ADC.

Meddai Tim Fagge, Rheolwr Datblygu Busnes Ewropeaidd yn GE Healthcare: "Mae'r berthynas glòs rhwng GE Healthcare a Phrifysgol Abertawe wedi arwain at ganlyniadau ardderchog hyd yn hyn, gan gynnwys cyhoeddi ymchwil a adolygwyd gan gymheiriaid. Drwy barhau i weithio'n agos gyda Phrifysgol Abertawe fel rhan o'r prosiect CEAT, gobeithia GE Healthcare chwarae rhan hanfodol gyda'n partneriaid i gynyddu ADC i gamau clinigol lle bydd cleifion yn elwa'n uniongyrchol o'n gwaith.  Mae gan gynyddu mynediad at therapïau cenhedlaeth nesaf arloesol megis ADC y potensial i dargedu clefydau oncolegol yn fanylach, ac wrth eu cyfuno â thriniaethau radiotherapi, byddant yn sicrhau canlyniadau gwell i gleifion."

Meddai'r Athro Deyarina Gonzalez o Brifysgol Abertawe, un o Brif Ymchwilwyr y prosiect: "Mae Prifysgol Abertawe wedi cael mynediad at offer hanfodol a hyfforddiant ar gyfer dau ddarn o dechnoleg arloesol a ddatblygwyd gan GE Healthcare. Mae'r offeryn BiacoreTM T200 a'r IN Cell Analyser wedi galluogi'r tîm i symleiddio datblygiad dosbarth o therapiwteg canser yr ofari y mae galw mawr amdani, a allai wneud gwahaniaeth enfawr ym mywydau dioddefwyr canser yr ofari a'u teulu."

Rhannu'r stori