Mae Ceri Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Ymchwil, Ymgysylltu ac Arloesi (REIS) Prifysgol Abertawe, yn siarad am gynlluniau'r Brifysgol yn sgil BREXIT, am y Brifysgol yn cyrraedd cerrig milltir newydd, ac yn dangos ymrwymiad y Brifysgol i'n partneriaid a'n rhanddeiliaid.

"Fel prifysgol a arweinir gan ymchwil, sy'n gweithredu mewn amgylchiadau ymchwil ac arloesi ac ariannu newidiol, mae'n hanfodol ein bod yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysicaf i ni: meithrin a chynnal cysylltiadau cryf â phartneriaid, chwilio am gyfleoedd newydd i gydweithredu, datblygu ein cymuned ymchwil drwy amgylchedd ymchwil cadarn a sicrhau ein bod mewn sefyllfa gref i ddenu cyllid gan bortffolio amrywiol o arianwyr.

"Gan ystyried BREXIT, ac fel rhan o strategaeth Ymchwil ac Arloesi ddiwygiedig Prifysgol Abertawe, mae'r pwyslais wedi newid o gyllid gan yr UE i bortffolio mwy amrywiol o ffynonellau cyllid, gan Lywodraeth y DU, Cynghorau Ymchwil a diwydiant a masnach.  Mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod cyllid ymchwil wedi cynyddu bedair gwaith dros y degawd diwethaf, o £18.7m yn 2007/2008 i'r cyfanswm uchaf erioed yn 2017/2018 - £73.7m.   Wrth gyrraedd y garreg filltir newydd hon, rydym wedi lleihau ein dibyniaeth ar gyllid yr UE sydd bellach yn llai na 30% o gyfanswm ein portffolio o gyllid ymchwil (i lawr o 60% yn 2015/2016).

"Yn gysylltiedig â'r cynnydd mewn dyfarniadau cyllid, mae ein timau contract ymchwil a gwasanaethau prosiect yn parhau i gefnogi portffolio cynyddol y Brifysgol o brosiectau ymchwil sydd wedi cynyddu 50% yn y pedair blynedd diwethaf i gyfanswm o 1,296 o brosiectau, gwerth mwy na £347 miliwn.

"Mae'r ffigurau'n arwydd calonogol bod Prifysgol Abertawe mewn sefyllfa gref i wynebu'r dyfodol.  Bydd sicrhau cyllid o Gronfa Her y Strategaeth Ddiwydiannol yn flaenoriaeth allweddol yn 2019, a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'n cymuned ymchwil, ein partneriaid diwydiannol a'n cysylltiadau yn Llywodraeth y DU. Byddwn yn parhau i gynnal cysylltiadau cryf â chyrff ariannu, gan gynnwys Swyddfa Ymchwil y DU, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, â'r nod o ddylanwadu ar siâp a strwythur ffynonellau cyllid amgen posib yn lle cronfeydd strwythurol yr UE. Mae trafodaethau ar y gweill ar hyn o bryd ynghylch 'Cronfa Ffyniant a Rennir' newydd. 

"Mae ASTUTE 2020 (Technolegau Gweithgynhyrchu Uwch Cynaliadwy) a SPECIFIC yn ddwy enghraifft yn unig o'r prosiectau cydweithredol rhwng academyddion a diwydiant, sy'n ymateb i alw ac yn cyflawni buddion economaidd i Gymru. 

"Mae Prifysgol Abertawe'n gartref i amrywiaeth eang o brosiectau wedi'u harwain gan alw, â phwyslais diwydiannol, sy'n cefnogi nifer o sefydliadau, gan helpu i oresgyn heriau cymdeithasol ac annog twf economaidd. 

  • Rhwydwaith Menter Ewrop (EEN) Cymru, sy'n rhan o deulu Innovate UK, yw'r rhwydwaith cymorth arloesi mwyaf yn y byd, a gall eich helpu i dyfu eich busnes ac ehangu dramor.
  • Gall Rhaglen Arweinyddiaeth ION helpu i ddatblygu arweinwyr yn eich busnes, gan ddarparu cymwysterau dysgu drwy brofiad a sgiliau o safon uchel. Mae dros 1,250 o berchnogion, cyfarwyddwyr a rheolwyr busnesau yng Nghymru eisoes wedi cymryd rhan, ac mae llawer yn nodi cynnydd sylweddol mewn refeniw o ganlyniad uniongyrchol.
  • Mae Canolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC yn ganolfan uwchraddio ymchwil caenau gweithredol sy'n gweithio gyda'r diwydiant dur, a busnesau'r gadwyn gyflenwi, i ddatblygu technolegau a dulliau storio ynni newydd er mwyn troi adeiladau'n orsafoedd pŵer. 
  • Mae ASTUTE 2020 yn darparu cymorth ymchwil, datblygu ac arloesi o'r radd flaenaf i fusnesau er mwyn datblygu a chyflawni prosiectau cydweithredol wedi'u hysbrydoli gan ddiwydiant ym meysydd Modelu Peirianneg Gyfrifiadol, Technoleg Deunyddiau Uwch a Pheirianneg Systemau Gweithgynhyrchu.

 

"Sefydlwyd Prifysgol Abertawe gan ddiwydiant ar gyfer diwydiant bron canrif yn ôl, ac mae'n elwa o filoedd o bartneriaethau a chydweithrediadau â sefydliadau cyhoeddus, preifat ac o'r trydydd sector ledled y byd.  Un o brif amcanion llawer o'n cydweithrediadau yw cefnogi datblygiad rhanbarthol yn ne-orllewin Cymru.    Drwy gydweithio, gallwn gefnogi twf a ffyniant y rhanbarth ac, am y rheswm hwnnw, penderfynom lansio rhwydwaith ymgysylltu newydd y llynedd, LINC: Prifysgol Abertawe.   Mae'r fenter hon yn anfon newyddion a'r diweddaraf am gyllid yn rheolaidd ac yn trefnu digwyddiadau rhwydweithio y gall pawb eu mynychu am ddim; mae eisoes wedi creu 27 o gyfleoedd cadarn i gydweithredu ac wedi cyflwyno nifer mawr o geisiadau am gyllid ar y cyd.

"I gysylltu â graddedigion a myfyrwyr dawnus, elwa o gymorth ymchwil a datblygu o safon fyd-eang, cyfleusterau a chyfarpar o'r radd flaenaf, hyfforddiant a datblygiad sgiliau proffesiynol, ymaelodwch â LINC: Prifysgol Abertawe heddiw.  Ffoniwch ein rhif ffôn arbennig 01792 606060 neu ewch i'n "

Rhannu'r stori