Rydyn ni'n edrych ymlaen at gwrdd â chi!
Mae eich siwrne gyda Phrifysgol Abertawe yn dechrau yma, isod fe welwch chi wybodaeth am gyrraedd a chofrestru, cwblhau eich cais am lety, symud i mewn a llawer mwy.
Dysgwch ragor am glybiau a chymdeithasau gan gynnwys clybiau a chymdeithasau Cymraeg, digwyddiadau pythefnos y glas a dysgu pwy yw eich swyddogion Undeb y Myfyrwyr draw ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Cyrraedd a Chroeso
Beth sy'n digwydd nawr bod gennych chi eich canlyniadau?
Os oes gennych gynnig cadarn amodol neu yswiriant gennym ac rydych yn bodloni'r gofynion, byddwch yn cael eich derbyn yn awtomatig i'ch rhaglen (bydd eich statws yn newid i 'gadarn diamod' neu 'yswiriant'), gwiriwch statws eich cais ar-lein yn UCAS. Os yw eich lle wedi'i gadarnhau, nid oes angen cysylltu â'r brifysgol hefyd. Caiff gwybodaeth yn eich croesawu i'r brifysgol ei hanfon atoch o fewn yr ychydig ddyddiau nesaf.
Llety
Os ydych wedi gwneud cais am le yn llety’r Brifysgol, bydd Gwasanaethau Preswyl yn dechrau dyrannu ystafelloedd dros y dyddiau nesaf a dylech dderbyn e-bost ganddynt o fewn wythnos neu ddwy. Cofiwch ddilyn y cyfarwyddiadau yn y cynnig llety i dderbyn eich cynnig.
Os nad ydych eisoes wedi gwneud cais am lety Prifysgol, dylech wneud cais ar-lein cyn gynted â phosibl.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â llety, cysylltwch â’r Tîm Gwasanaethau Preswyl yn uniongyrchol ar 01792 295101.