Y noddwr yw’r unigolyn, y sefydliad neu’r bartneriaeth sy’n cymryd cyfrifoldeb cyffredinol am sicrhau bod trefniadau cymesur ac effeithiol yn eu lle er mwyn sefydlu, cynnal ac adrodd am brosiect ymchwil. Yn unol â Fframwaith Polisi’r DU ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol, dylai’r holl ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol feddu ar noddwr.

  • Fel arfer disgwylir mai’r noddwr fydd cyflogwr y prif ymchwilydd yn achos ymchwil anfasnachol neu’r cyllidwr yn achos ymchwil fasnachol.
  • Mae gan noddwyr treialon cynnyrch meddyginiaethol ymchwiliadol (CTMIP) ddyletswyddau cyfreithiol penodol.
  • Mae’r Brifysgol yn derbyn rôl noddwr yr holl ymchwil addysgol y bydd ei myfyrwyr yn ei chynnal, oni fydd y myfyriwr yn cael ei gyflogi gan ddarparwr iechyd neu ofal cymdeithasol y mae’n well ganddo ymgymryd â’r rôl hon.
  • Dylai noddwyr ymchwil addysgol sicrhau y gall goruchwylwyr gynnal y gweithgareddau ynghlwm wrth gyflawni’r rôl hon, a’u bod yn gwneud hynny.
  • Os na all y goruchwyliwr academaidd fodloni cyfrifoldebau trosolwg y noddwr yn ddigonol oherwydd lleoliad neu arbenigedd, dylai’r noddwr gytuno ar drefniadau cyd-oruchwylio gydag ymarferwr gofal lleol.

GWYBODAETH BELLACH

GOFYN AM NAWDD PRIFYSGOL ABERTAWE

Os bydd eich prosiect ymchwil yn ymdrin ag unrhyw un o’r categorïau nawdd uchod, bydd angen nawdd ar gyfer y prosiect a bydd yn rhaid ichi lenwi ffurflen gais nawdd Prifysgol Cymru ac anfon y dogfennau ategol i flwch negeseuon e-bost llywodraethu ymchwil. Bydd hyn yn cychwyn proses adolygu gan y tîm llywodraethu ymchwil a dylech chi ganiatáu 10 niwrnod ar gyfer adolygiad llawn.

Hwyrach bydd angen i’ch prosiect fynd gerbron: