EICH 10 NIWRNOD O DDATBLYGIAD PROFFESIYNOL

Mae'r Concordat yn cynnwys cyfeiriadau at ddarparu cyfleoedd, cymorth strwythuredig, anogaeth ac amser i ymchwilwyr allu wneud isafswm o 10 niwrnod o ddatblygiad proffesiynol bob blwyddyn. Fel sefydliad sydd wedi llofnodi’r Concordat, mae Prifysgol Abertawe wedi ymrwymo i gefnogi gyrfaoedd staff ymchwil, gan gydnabod  pwysigrwydd datblygiad proffesiynol:

Mae’n rhaid i’n sefydliad ddarparu cyfleoedd, cymorth ac amser i ymchwilwyr wneud lleiafswm o 10 niwrnod o ddatblygiad proffesiynol bob blwyddyn.

Mae’n rhaid i’n cyrff cyllido ymgorffori gofynion datblygiad proffesiynol penodol mewn galwadau am gyllid, amodau a thelerau, adroddiadau grantiau ac mewn polisïau lle bo’n berthnasol. Dylai hyn gynnwys ymrwymiad ymchwilwyr i wneud o leiaf 10 niwrnod o ddatblygiad proffesiynol pro rata bob flwyddyn.

Rhaid i reolwyr ein hymchwilwyr ddyrannu o leiaf 10 niwrnod pro rata, bob blwyddyn, i'w hymchwilwyr allu ymgymryd â datblygiad proffesiynol, gan gefnogi ymchwilwyr i gydbwyso'r gwaith o gyflawni eu hymchwil a'u datblygiad proffesiynol eu hunain.

Rhaid i'n hymchwilwyr gymryd perchnogaeth o'u gyrfaoedd, gan nodi cyfleoedd i weithio tuag at nodau gyrfa, gan gynnwys ymgymryd ag o leiaf 10 niwrnod o ddatblygiad proffesiynol pro rata bob blwyddyn.

Dysgwch fwy am y Concordat

SUT GALLAF DDEFNYDDIO'R 10 NIWRNOD HYN?

Rydym yn ystyried bod hyfforddiant a datblygu yn cynnwys cymysgedd o weithdai, hyfforddiant, mentora, hyfforddi, mynd i ddigwyddiadau fel cynadleddau, ymuno â rhwydweithiau (neu greu rhai) neu gynrychioli ymchwilwyr yn y Brifysgol.  Mae unrhyw gyfle sy'n galluogi  ymchwilwyr i ddatblygu sgiliau a phrofiad sy’n cefnogi eu gyrfa a'u datblygiad proffesiynol yn cyfrif tuag at y deg niwrnod.

Eich cyfrifoldeb chi yw datblygu eich gyrfa, ond rydyn ni yma i'ch cefnogi chi ar bob cam o'r ffordd.  Mae agwedd strwythuredig yn gwneud gwahaniaeth mawr - felly rydym yn eich cynghori i ymchwilio a chynllunio, ac i drafod eich cynlluniau â'ch prif ymchwilydd neu eich rheolwr llinell er mwyn llunio cynllun datblygu personol. Gallech ddefnyddio'r teclyn cynllunio Fframwaith Datblygu Ymchwilydd Vitae, i'ch cynorthwyo wrth ichi gynllunio.

Rhaglen Datblygiad Proffesiyno

EICH COFNOD HYFFORDDIANT PERSONOL

Mae ein system staff ABW yn storio eich profiadau dysgu a datblygu.

Yn ogystal â hyn, rydym ni'n annog staff yn gryf i drafod eu gofynion datblygu gyrfa yn ystod eu hadolygiad blynyddol.