Crynodeb o'r Newyddion

St Ouen's Manor, Jersey

Datgelu gorffennol ffiwdal Jersey

Dyfarnwyd grant ymchwil o £215,843 i Brifysgol Abertawe i arwain astudiaeth newydd o system ffiwdal hanesyddol Jersey. Bydd yn archwilio sut mae traddodiadau tir a chyfraith a sefydlwyd ganrifoedd yn ôl wedi llunio hunaniaeth yr ynys.

Cydnabyddiaeth Llun: © 2023-2025 CERN | Brice, Maximilien.

Darllen mwy
ALN banner

Dysgwyr ag anghenion ychwanegol yn cael eu heithrio o addysg hinsawdd Cymru

Mae plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn cael eu gadael ar ôl ym maes addysg hinsawdd a chynaliadwyedd Cymru—er gwaethaf addewidion cenedlaethol i wneud dysgu amgylcheddol yn rhan o brofiad bob plentyn—yn ôl adroddiad newydd gan Brifysgol Abertawe a Chadwch Gymru'n Daclus.

Mae Cyfleuster Addysgu Arbenigol (STF) Ysgol Penyrheol wedi'i ymgorffori eco-ryfelwr yn ei gynllun gwaith Groeg Hynafol. Mae'n greadur chwedlonol y mae'r duwiau wedi'i ddewis i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Credyd: Ysgol Penyrheol, Cyfleuster Addysgu Arbenigol (STF).

Darllen mwy
Owen Guy

Athro o Brifysgol Abertawe'n ennill Gwobr Effaith SEMI Academia

Mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi cael ei anrhydeddu drwy ddyfarnu gwobr nodedig iddo, Gwobr Effaith SEMI Academia, er mwyn cydnabod ei gyfraniadau rhagorol at ymchwil, arloesi a chydweithredu rhwng diwydiant a'r gymuned academaidd yn sector lled-ddargludyddion Ewrop.

Darllen mwy
AI research picture

Ffug neu'r peth go iawn?

Mae astudiaeth newydd wedi datgelu y gall deallusrwydd artiffisial gynhyrchu lluniau o bobl go iawn ac mae bron yn amhosib dweud pa luniau yw'r lluniau go iawn.

Darllen mwy
Emma Tamplin

Awdur yn defnyddio llyfr i ysbrydoli menywod eraill i gofleidio heriau newydd

Mae pŵer trawsnewidiol addysg a'r rôl gadarnhaol a oedd gan Brifysgol Abertawe ym mywyd un fenyw ymysg y themâu a ymddengys mewn llyfr newydd sydd â’r nod o ysbrydoli eraill wrth iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â chyfnod canol oed.

Darllen mwy
ALPHA banner

Arloesi ym maes gwrth-hydrogen yn CERN

Mae ffisegwyr o Brifysgol Abertawe wedi chwarae'r rôl arweiniol wrth dorri tir gwyddonol newydd yn CERN, gan ddatblygu techneg arloesol sy'n cynyddu'r gyfradd dal gwrth-hydrogen gan ffactor o ddeg.

Cydnabyddiaeth Llun: © 2023-2025 CERN | Brice, Maximilien.

Darllen mwy

Uchafbwyntiau Ymchwil

Close up of roulette wheel

Major step forward in understanding gambling-related harm

Mae pobl sy'n cael diagnosis o anhwylder gamblo'n wynebu risg sylweddol uwch o farw oherwydd hunanladdiad, yn ôl ymchwil newydd a arweiniwyd gan Brifysgol Abertawe - gan nodi cam mawr ymlaen wrth ddeall niwed sy'n gysylltiedig â gamblo.

Darllen mwy
Fish in boat

Gwella cynaliadwyedd pysgodfeydd cysylltiedig

Mae ymchwil newydd wedi datgelu pa mor werthfawr mae gwybodaeth leol a chyfathrebu wrth ddiogelu'r pysgod dŵr croyw mwyaf yn y byd yng ngorllewin yr Amazon.

Darllen mwy
Urgent care image

Mae astudiaethau'n dangos bylchau mewn mynediad at ofal lliniarol

Mae astudiaeth newydd gan Brifysgol Abertawe sy'n defnyddio data ar raddfa'r boblogaeth, wedi datgelu gwybodaeth am sut mae pobl yn defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal yn ystod eu blwyddyn olaf o fywyd, ac yn amlygu'r angen am adnabod a chynnig cymorth gwell i'r rhai hynny sydd angen gofal lliniarol.

(Llun: Shutterstock)

Darllen mwy

Ein Hymchwilwyr Cynaliadwyedd

Mae gwaith Leah Owen yn cynnwys diogelwch a chanfyddiad o fygythiadau, a sut mae gwladwriaethau, cymdeithas a sefydliadau'n canfod grwpiau, mudiadau a newidiadau cymdeithasol fel rhai peryglus. Er ei bod wedi ymchwilio i hyn o'r blaen yng nghyd-destun astudiaethau hil-laddiad, ac yn parhau i wneud hynny, mae hi'n edrych fwyfwy ar y maes hwn o safbwynt trin yr hinsawdd fel mater diogelwch a dadleoli.

Darllen mwy
Leah Owen

Ffocws Abertawe

Interior of JET with a superimposed plasma

Partneriaeth yn hybu Arloesiadau Peirianneg ar gyfer Ynni Ymasiad

Mae partneriaeth strategol rhwng Prifysgol Abertawe ac Awdurdod Ynni Atomig y DU (UKAEA) yn helpu i fynd i'r afael ag un o heriau gwyddonol a pheirianneg mwyaf uchelgeisiol yr oes fodern: atgynhyrchu pŵer yr haul ar y Ddaear trwy ynni ymasiad.

Darllen mwy
Alex Langlands

Prosiect treftadaeth yn datgelu tystiolaeth o ddarganfyddiad archeolegol mawr

Mae arbenigwyr wedi darganfod darlun unigryw o hanes - fila Rufeinig - a fydd, meddan nhw, yn cynnig gwybodaeth ddigynsail am stori genedlaethol Cymru.

Darllen mwy
Nanogel image

Technoleg nanogel yn lladd bacteria ag ymwrthedd i gyffuriau mewn oriau

Wrth i fygythiad ymwrthedd i wrthfiotigau gynyddu, mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi arwain y gwaith o ddatblygu technoleg newydd sy'n gallu lladd rhai o'r bacteria mwyaf peryglus yn y byd meddygaeth - gydag effeithiolrwydd o dros 99.9% yn erbyn Pseudomonas aeruginosa (P. aeruginosa).

Cydnabyddiaeth: CDC ar Unsplash.

Darllen mwy
Police image

Defnyddio offeryn asesu i ragweld camdriniaeth ddomestig farwol

Mae gwerthusiad risg a gynlluniwyd i helpu i amddiffyn menywod rhag trais domestig yn gweithio, ond gellid ei wella i helpu mwy o ddioddefwyr, yn ôl ymchwilwyr.

Darllen mwy
Antarctic glacier

Astudiaeth yn datgelu'r enciliad rhewlif Antarctig cyflymaf mewn hanes modern

Mae rhewlif ar Benrhyn Dwyreiniol yr Antarctig wedi profi'r golled iâ gyflymaf a gofnodwyd mewn hanes modern, yn ôl astudiaeth nodedig a gyd-awdurwyd gan Brifysgol Abertawe.

Hektoria a Green, a oedd unwaith yn rhewlifedig, bellach yn rwbel iâ sy'n nofio—26 Chwefror 2024. Cydnabyddiaeth: Naomi Ochwat, prif awdur yr astudiaeth a Chydymaith Ôl-ddoethurol yn yr Institute for Research in Environmental Sciences (CIRES), CU Boulder.

Darllen mwy

Cofrestrwch i dderbyn y rhifyn diweddaraf o MOMENTUM yn syth i'ch mewnflwch

Drwy lenwi'r ffurflen hon rydych yn cydsynio i dderbyn MOMENTUM drwy e-bost. Gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd trwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio ar waelod e-bost. I gael rhagor o wybodaeth darllenwch ein polisi preifatrwydd.