Mae Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd y 4ydd safle yn y DU yn rhestr Unifresher o'r Prifysgolion Gorau ar gyfer y Gyfraith ar gyfer 2027, gan amlygu ei pherfformiad cryf ar draws amrywiaeth o fesurau sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr.
Mae rhestr Unifresher yn asesu 97 o sefydliadau yn y DU sy'n cynnig graddau yn y Gyfraith ac maent yn seiliedig ar wyth o fetrigau sydd wedi'u llunio i adlewyrchu profiad llawn y myfyrwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:
- enillion graddedigion
- ansawdd addysgu
- cymorth academaidd
- boddhad myfyrwyr
- diogelwch a chostau byw
- cynaliadwyedd
- bywyd cymdeithasol.
Yn wahanol i dablau cynghrair traddodiadol, mae'r fethodoleg yn rhoi pwyslais penodol ar brofiad y myfyrwyr o ddydd i ddydd, ynghyd â chanlyniadau tymor hwy.
Mae safle Prifysgol Abertawe ymysg y 5 o brifysgolion gorau yn dangos ymrwymiad Ysgol y Gyfraith i gyfuno rhagoriaeth academaidd â lefelau uchel o gymorth i fyfyrwyr ac ymgysylltiad â nhw. Mae'r canlyniadau hefyd yn amlygu cryfder amgylchedd dysgu Prifysgol Abertawe a'i gallu i gyflwyno profiad cyflawn i fyfyrwyr mewn maes cenedlaethol, cystadleuol.
Mae'r llwyddiant hwn ar lefel pwnc yn cyd-fynd â pherfformiad ehangach y Brifysgol yn rhestr Unifresher, lle amlygwyd Prifysgol Abertawe'n ddiweddar fel sefydliad blaenllaw y DU ar gyfer rhagoriaeth pwnc cyffredinol.