Mae Ysgol y Gyfraith Abertawe wedi cael ei chydnabod fel un o sefydliadau blaenllaw’r byd, gan sicrhau lle ymhlith y 125 uchaf yn Safleoedd Prifysgolion y Byd yn ôl Pwnc 2026 y Times Higher Education (THE) ar gyfer y Gyfraith.
Mae’r safle nodedig hwn yn deillio o ddadansoddiad trylwyr ar draws pum dangosydd perfformiad craidd, gan adlewyrchu rhagoriaeth gynhwysfawr yr Ysgol.
Mae fframwaith THE yn asesu sefydliadau ar y meysydd canlynol:
- Addysgu: Gwerthuso’r amgylchedd dysgu, gan gynnwys enw da, cymarebau staff-i-fyfyrwyr, a chymorth sefydliadol.
- Amgylchedd Ymchwil: Mesur enw da ymchwil, incwm, a chynhyrchiant.
- Ansawdd Ymchwil: Dadansoddi effaith drwy ddylanwad dyfyniadau, cryfder ymchwil, a rhagoriaeth.
- Diwydiant: Asesu arloesedd a throsglwyddo gwybodaeth drwy incwm o bartneriaethau diwydiannol a phatentau.
- Golwg Ryngwladol: Mesur ymgysylltiad byd-eang drwy gyfrannau staff a myfyrwyr rhyngwladol, a chydweithrediad ymchwil rhyngwladol.
Mae’r safle hwn yn tanlinellu ymrwymiad Ysgol y Gyfraith Abertawe i ddarparu addysg gyfreithiol o’r safon uchaf, cynhyrchu ymchwil ddylanwadol ac o effaith uchel, a meithrin partneriaethau cryf â diwydiant a’r gymuned academaidd fyd-eang.
Dywedodd yr Athro Alison Perry, Pennaeth Ysgol y Gyfraith Abertawe:
“Mae cael ein rhestru ymhlith y 125 ysgol gyfraith orau yn y byd yn gyflawniad aruthrol ac yn dyst i ymroddiad ein cymuned gyfan—ein staff, ein myfyrwyr, a’n partneriaid. Mae’r canlyniad hwn yn tynnu sylw at ein cryfderau ar draws pob maes, o ansawdd ein haddysgu a’n hamgylchedd ymchwil i’n cysylltiadau byd-eang a’n heffaith yn y byd go iawn. Rydym yn falch o gael ein cydnabod yn gyson ar lwyfan y byd.”