Sgiliau Newydd Wedi'u Datblygu, Heriau Newydd Wedi'u Hwynebu, Uchafbwyntiau Newydd Wedi'u Cyrraedd.
Daeth blwyddyn ardderchog arall i ben i'r myfyrwyr ar Raglen Sgiliau Cyfathrebu Ysgol y Gyfraith ddechrau mis Awst. Mae'r rhaglen hon yn canolbwyntio drwy'r flwyddyn ar ddatblygu sgiliau eiriolaeth, negodi, cyfweld â chleientiaid a chyfryngu gyda myfyrwyr yn dysgu'r sgiliau ac wedyn yn profi eu dealltwriaeth mewn cystadlaethau mewnol a rhwng prifysgolion.
Yn ystod blwyddyn academaidd 2025/26, cymerodd myfyrwyr o bob blwyddyn astudio ran mewn 32 o gystadlaethau allanol (ni chynhaliwyd dwy arall am resymau amrywiol) a gwnaethon ni drefnu chwe chystadleuaeth fewnol, gan gynnwys Cystadleuaeth Ffug Lys Barn Cyfraith Feddygol Redkite LLP, Cystadleuaeth Cyfweld â Chleientiaid JCP a Chystadleuaeth Negodi Cyfraith Chwaraeon Morgan LaRoche. Cynigiwyd cyfleoedd i 192 o fyfyrwyr ac achubodd 96 o fyfyrwyr unigol ar y cyfleoedd i feithrin profiad.
Un agwedd sy'n gwneud Abertawe'n wahanol i lawer o Ysgolion y Gyfraith eraill yn y Deyrnas Unedig yw'r ymrwymiad i sicrhau bod yr holl fyfyrwyr yn gallu manteisio ar y cyfleoedd, ni waeth beth yw eu hadnoddau ariannol. Yn y cyd-destun hwn, hoffem ddiolch i'r Brifysgol am ddarparu cyllideb i sicrhau nad yw myfyrwyr yn gorfod talu ffïoedd cystadlu, costau teithio neu lety lle bo angen hynny. Yn ogystal â chymorth y Brifysgol, gwnaed hyn yn bosib gan ein cefnogwyr ffyddlon yn y diwydiant cyfreithiol. Eleni, mae'n bleser mawr gennym gydnabod cyfraniadau
- JCP Solicitors
- RedKite Law LLP
- Acuity Law
- Morgan LaRoche Solicitors
- DW Harris
- Angel Chambers
- Iscoed Chambers
- Pendragon Chambers
Yn ystod y flwyddyn, torrodd ein myfyrwyr dir newydd mewn dwy gystadleuaeth. Ym mis Mai, bu tri myfyriwr - Emily Law, Cara Di Teodoro a Maddie Matthews - yn cystadlu yng Nghystadleuaeth Negodi Ryngwladol Athens am y tro cyntaf gan gipio'r lle cyntaf. Yna, ym mis Mehefin, Keara-Lynn Douglas a Charlotte Mathieu oedd y tîm cyntaf o Gymru i ennill Cystadleuaeth Ffug Lys Barn yr English Speakers Union-Essex Court Chambers. Dyma un o'r cystadlaethau ffug lys barn uchaf eu bri, sy'n cynnwys hyd at 64 o dimau o Loegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Bu'n rhaid i'r tîm oresgyn timau o Brifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Caerwysg, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Llundain ac, yn y rownd derfynol yn y Llysoedd Cyfiawnder Brenhinol, gwnaethant drechu Prifysgol Warwig. Gwnaethant ddangos sgiliau aruthrol a thrywydd dysgu ardderchog drwy gydol y gystadleuaeth.
Cafwyd rhagor o lwyddiannau mewn cystadlaethau ffug lys barn eraill, wrth i Taylor-May Price gyrraedd rowndiau terfynol cenedlaethol Cystadleuaeth Eiriolwr y Flwyddyn, ac wrth i Honee Crocker gyrraedd rownd derfynol Cystadleuaeth Ffug Lys Barn Cymru ochr yn ochr â Katie Cooper. Yn ogystal â hyn, llwyddodd Finn Meikle a William Wilton i gyrraedd rownd gogynderfynol Cystadleuaeth Ffug Lys Barn Genedlaethol Southampton.
Cyflawnodd Jessica Davies ac Eesha Boby gamp ardderchog drwy ddod yn drydydd yn y Gystadleuaeth Cyfweld â Chleientiaid Genedlaethol a bu Jessica, mewn partneriaeth â Soffia Cynwyl, yn cynrychioli Cymru yn y Gystadleuaeth Cwnsela Cleientiaid Genedlaethol. Parhaodd Ysgol y Gyfraith i ymrwymo i'r sgìl drwy gynnal ail Gystadleuaeth Cyfweld â Chleientiaid Cymru a Lloegr, a gynhaliwyd ar sail gwahoddiad ar y cyd ag Oxford Brookes; cynhaliwyd Cystadleuaeth (drwy wahoddiad) Cyfweld â Chleientiaid Cymru gyntaf yma hefyd, a enillwyd gan Soffia Cynwyl ac Aimee McCullagh o Ysgol y Gyfraith.
Ym maes negodi, cafodd y Gystadleuaeth Negodi Cyfraith Chwaraeon ei chanslo eleni ond yng Nghystadleuaeth Genedlaethol CEDR, cymhwysodd y ddau dîm o Abertawe a fu'n cystadlu am y Gystadleuaeth Genedlaethol - camp wych gan ystyried bod tri o'r myfyrwyr yn y flwyddyn gyntaf. Cafwyd perfformiad rhagorol ganddynt a daethant yn 7fed ac yn 8fed yn gyffredinol. Gwelwyd perfformiadau rhagorol hefyd yng Nghystadleuaeth Negodi Rithwir Mediate Guru, gyda Kasie Tran a Spencer Setterington yn cyrraedd y rownd derfynol - a hynny er gwaethaf y diffyg cwsg o ganlyniad i'r rowndiau gael eu cynnal am 2.30am a 5.30am amser lleol iddyn nhw.
Gwelwyd y cam mwyaf ymlaen yn y cystadlaethau cyfryngu rhyngwladol. Eleni, anfonwyd timau o Ysgol y Gyfraith i dair o'r rhain ac, mewn dwy gystadleuaeth, torrodd y timau dir newydd. Yng Nghystadleuaeth Cyfryngu'r Siambr Fasnach Ryngwladol, digwyddiad uchel ei fri a gynhaliwyd ym Mharis, cymhwysodd Keara-Lynn Douglas ac Amelia Smith am yr 16 olaf am y tro cyntaf yn hanes Abertawe, yn ogystal â chyrraedd y safle uchaf ar gyfer tîm o'r DU. Ym mis Gorffennaf, aeth Keara-Lynn ymlaen i gyrraedd yr 16 olaf, mewn partneriaeth ag Amelia Venghaus, yng Nghystadleuaeth Cyfryngu CDRC Fienna, a hynny ar ben dod yn 4ydd o 42 tîm yn y rowndiau rhagbrofol. Roedd y rhain yn brofiadau dysgu ardderchog i'r myfyrwyr ac maent yn llwyr haeddu eu llwyddiant.
Mae hi wedi bod yn flwyddyn ryfeddol ac ni all yr academyddion sy'n cydlynu'r rhaglen hon fod yn fwy balch o'n myfyrwyr. Rydym yn edrych ymlaen yn arw at dymor sgiliau 2026/27 a fydd yn dechrau tua diwedd mis Medi gyda'r Diwrnod Hyfforddiant Uwch Dadlau mewn Ffug Lys Barn.
Gadawn y gair olaf i un o'r beirniaid niferus a gafodd gyfle i weld timau Abertawe wrth eu gwaith eleni - "Mae Abertawe'n parhau i greu argraff a rhagori ar y llwyfan rhyngwladol!" Bydded i hynny barhau!
Os hoffech chi ddysgu mwy am Raglen Sgiliau Cyfathrebu Ysgol y Gyfraith Abertawe, e-bostiwch Matthew Parry m.j.parry@abertawe.ac.uk