Grŵp o bobl

Ym myd cystadlaethau ffug lys barn domestig, Cystadleuaeth Ffug Lys Barn yr English-Speaking Union-Essex Court Chambers yw mynydd Everest.

Hon yw'r gystadleuaeth fwyaf - gyda hyd at 64 o dimau bob blwyddyn - yr un fwyaf heriol - gyda 6 rownd rhwng y timau a buddugoliaeth - a dyma'r un sy'n gofyn am y sgiliau mwyaf amrywiol - mae pob rownd ar faes gwahanol o’r gyfraith. Mae'n gofyn am ymrwymiad gan fwy na'r ddau brif eiriolwr, ac eleni roedd gan Abertawe dîm o bedwar myfyriwr -  Charlotte Mathieu a Keara-Lynn Douglas o’r flwyddyn olaf, a Jessica Davies ac Eesha Boby o’r ail flwyddyn. Ar 18 Mehefin 2026, cododd y tîm dlws enwog y Byrllysg am y tro cyntaf yn hanes Abertawe, gan nodi anterth potensial y myfyrwyr, eu cynnydd dros y blynyddoedd, a'r perfformiad ar y diwrnod.

Dechreuodd y gystadleuaeth yn ôl ym mis Chwefror 2026. Ar ôl mynd drwodd yn awtomatig o’r rownd gyntaf, roedd y tîm yn wynebu Prifysgol Metropolitan Caerdydd mewn dadl ar gyfraith contractau. Oherwydd gwrthdaro, nid oedd modd i Keara-Lynn gystadlu, felly camodd Eesha i’r adwy fel y prif gwnsler gyda pherfformiad cryf a hyderus a welodd y tîm yn trechu tîm penderfynol Met Caerdydd. Yn y rownd nesaf, cafodd y tîm rownd gyfartal oddi cartref yn erbyn Prifysgol Caerwysg mewn maes cwbl wahanol - cyfraith trosedd. Gwnaeth cwestiwn cymhleth ynghylch bwriad mewn troseddau ffaglu a mens rea dwbl  herio’r myfyrwyr i'r eithaf, gan nad oedd cyfraith trosedd yn un o'u hoff feysydd pwnc. Mewn dadl agos, eto, llwyddon nhw o drwch blewyn i symud ymlaen i ddadl yn y rownd gogynderfynol yn erbyn Prifysgol Caerdydd a oedd wedi ennill yn erbyn Caerloyw a Wolverhampton.

Roedd y ddadl yn erbyn Caerdydd, ar gwestiwn hawliau wster a hamdden mewn hawddfreintiau, sydd yn anaml yn ffefryn ymhlith myfyrwyr (am ryw reswm!), yn gofyn iddynt ddatblygu eu sgiliau ymchwil a chyflwyno hyd yn oed ymhellach. Roedd y sgiliau a gafodd eu harddangos gan y timau'n amlwg, a chymerodd y barnwr gryn amser i’w gwahanu, ond yn y diwedd, bu Keara-Lynn a Charlotte yn fuddugol gan ennill lle  ar Ddiwrnod y Rowndiau Terfynol.

Roedd Diwrnod y Rowndiau Terfynol ei hun yn ddigwyddiad mawreddog, gyda'r Rownd Gynderfynol yn cael ei chynnal gan yr English-Speaking Union. Mewn adeilad hardd, roedd y ddadl ynglŷn â chymhwysedd Achos Pigott o'r 17eg ganrif i amserau mwy modern. Yn erbyn tîm cryf o Brifysgol Metropolitan Llundain, roedd y penderfyniad o blaid Keara-Lynn a Charlotte, a gwnaethant baratoi ar gyfer her y rownd derfynol - dadl yn y Llysoedd Barn Brenhinol yn erbyn Prifysgol Warwick, o flaen Mr Ustus Jacobs, Louise Hutton CB, ac Anna Dilnot CB.

Y prawf cyntaf oedd taflu darn arian, gan fod y ddau wedi cynrychioli'r Apelydd yn eu rowndiau cyn-derfynol - galwodd Warwick gynffonau, gan nodi'r hen ddywediad Saesneg: "tails, it never fails". Ond dyna'r peryg wrth beidio â nodi'r dyfyniad cyfan oherwydd cefais i fy nysgu mai "Tails for Wales - it never fails" oedd y dyfyniad llawn. Felly, roedd hi’n beryglus ei ddefnyddio yn erbyn tîm o Gymru, oherwydd glaniodd yr arian ar ochr y pen gan ganiatáu i Abertawe ddewis yr ochr. Penderfynodd Abertawe aros fel yr Apelydd a dychwelodd y tîm i Essex Court Chambers a oedd wedi darparu ystafelloedd cynhadledd i'r ddau dîm paratoi yn y prynhawn.

Roedd y rownd derfynol, a gynhaliwyd yn amgylchedd urddasol y Llysoedd Barn Brenhinol, yn llawn tensiwn, gyda thua 40 o wylwyr, ond dangoswyd sgiliau eirioli ardderchog gan yr holl gystadleuwyr. Yn y diwedd, cafodd cyfraith yr apêl ei rhannu, ond rhoddwyd canlyniad y ddadl i Abertawe - ac enillodd y myfyrwyr £1,000 yr un yn ogystal ag ennill tymhorau prawf byr yn Essex Court Chambers. Dyfarnwyd gwobr ariannol o £1,000 i'r Brifysgol hefyd.

Gan fyfyrio ar antur y tîm, roedd hon yn daith sydd wedi bod yn datblygu ers sefydlu’r gystadleuaeth Sgiliau Cyfathrebu yn 2018 - arwyddion cynnar o addewid gan fyfyrwyr fel Rhys Allen a Rhiannon Smith, yn ennill rowndiau gyda myfyrwyr fel Henrietta Gilchrist - pob un ohonynt bellach naill ai ar gyfnod prawf neu denantiaeth mewn Siambrau - ac yna datblygiad pellach gyda thîm y llynedd, a oedd yn cynnwys Maren Julian a Tegan Bennet, yn cyrraedd y Rownd Derfynol. Ni fyddai'r llwyddiant hwn yn bosib heb gyflawniadau sylweddol y rhai sydd wedi troedio'r llwybr o'r blaen ac wedi helpu i ddarganfod y llwybr gorau i fuddugoliaeth.

Roedd hefyd yn gyfle i ddatblygu potensial. Mae'r dadleuwyr wedi dod o lwybrau gwahanol. Mae Keara-Lynn wedi cymryd rhan mewn cystadlaethau ffug lys barn ers y flwyddyn gyntaf - gan ennill Ffug Lys Barn Prifysgolion y Deml Fewnol yn 2025 a'n cystadlaethau mewnol yn 2024 a 2026. Nid oedd Charlotte wedi cystadlu tan eleni, ac mae eu sgiliau'n adlewyrchu hynny, gyda dadansoddiad fforensig ardderchog Keara yn ategu gallu Charlotte i gymryd cysyniadau cymhleth a'u symleiddio - nodwedd a gafodd ei chlodfori’n fawr gan y beirniaid trwy gydol y gystadleuaeth. Roedd ei sgiliau gwrthbrofi hefyd yn nodwedd gyffredin, gyda sylwadau mewn 3 rownd mai hi oedd yn gyfrifol am y gwrthbrofi.

Arweiniodd eu potensial at berfformiad anhygoel ac rwy'n falch iawn ohonynt am gymryd y daith.

Ysgrifennodd Charlotte fod:

"Ennill Cystadleuaeth Ffug Lys Barn yr ESU yn gyflawniad anhygoel ac yn un rwy'n falch iawn ohono. Fodd bynnag, yr hyn y byddaf yn ei gofio fwyaf o'r profiad yw faint rydw i wedi ei ddysgu trwy gydol y broses. Mae dadlau mewn ffug lysoedd barn wedi cryfhau fy sgiliau eiriolaeth, ymchwil gyfreithiol, a dadansoddi, gan ddysgu i mi sut i feddwl yn feirniadol ac ymateb yn effeithiol dan bwysau. Rwy'n ddiolchgar iawn am gefnogaeth, arweiniad ac anogaeth diwyro ein Hysgol y Gyfraith."

Ychwanegodd Keara:

"Roedd cystadlu yng nghystadleuaeth Ffug Lys Barn yr ESU yn brofiad bythgofiadwy. Gwnaeth fy herio'n academaidd, cynyddu fy hyder fel eiriolwr, a’m hatgoffa faint y gellir ei gyflawni drwy waith caled a gwaith tîm. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r holl feirniaid am roi o’u hamser a darparu adborth amhrisiadwy. Hoffwn ddiolch i Brifysgol Abertawe am y cyfle a'r anogaeth trwy gydol y ffug lys barn."

 Rwy'n hapus i ateb unrhyw gwestiynau am raglen Sgiliau Cyfathrebu Ysgol y Gyfraith yn m.j.parry@abertawe.ac.uk 

Rhannu'r stori