Digital Technium adeilad

Mae Ysgol y Gyfraith yn falch o gyhoeddi cynnydd cadarnhaol yng nghanlyniadau Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) 2026, gyda 90% o fyfyrwyr y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe'n nodi eu bod yn fodlon ar eu cwrs, a sgoriau cadarnhaol ar i fyny ym mhob maes o’r arolwg.

Roedd y myfyrwyr wedi rhoi sgoriau uchel yn benodol i agweddau allweddol ar brofiad myfyrwyr yn Ysgol y Gyfraith , gan gynnwys addysgu, cymorth academaidd a chyfleoedd dysgu, gan ddangos ymrwymiad parhaus yr Ysgol i gynnig amgylchedd dysgu ysgogol, cefnogol ac o safon.

Mae'r canlyniadau hyn yn adlewyrchu ymroddiad staff academaidd a'r gwasanaethau proffesiynol, yn ogystal â'r bartneriaeth werthfawr rhwng yr Ysgol a'i myfyrwyr. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Ysgol y Gyfraith wedi gweithio'n agos gyda myfyrwyr i wella addysgu, cryfhau cymorth academaidd a chreu cyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu'r sgiliau a'r hyder y mae eu hangen arnynt i lwyddo yn eu hastudiaethau a'u gyrfaoedd yn y dyfodol.

Meddai'r Athro Alison Perry, Pennaeth Ysgol y Gyfraith:

"Rydym wrth ein boddau'n gweld gwelliannau ar draws holl themâu’r NSS.  Mae'r canlyniadau hyn yn adlewyrchu gwaith caled ac ymrwymiad cydweithwyr ar draws yr Ysgol a'r bartneriaeth adeiladol sydd gennym â'n myfyrwyr.  Rydym yn ddiolchgar i'n myfyrwyr am eu hadborth, sy'n parhau i lywio a gwella'r profiad dysgu rydym yn ei gynnig".

Mae'r Ysgol yn ymrwymedig i adeiladu ar y llwyddiant hwn a pharhau i gynnig profiad rhagorol i fyfyrwyr nawr ac yn y dyfodol.

*Mae 90% yn seiliedig ar C.28, sy'n berthnasol i Brifysgolion yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn unig

Rhannu'r stori