Mae myfyrwyr LLM mewn Cyfraith Llongau a Masnach wedi cwblhau’n llwyddiannus Rownd Derfynol flynyddol yr Ymryson Cyfraith Llongau a Masnach, a gynhaliwyd yn swyddfeydd DWF yn Llundain. Amlygodd y gystadleuaeth ymrwymiad y rhaglen i ddatblygu’r sgiliau ymarferol sy’n gwella cyflogadwyedd ac y mae’r cwmnïau cyfreithiol gorau yn eu ceisio.

Mae ymryson cyfreithiol yn sgìl amhrisiadwy i unrhyw gyfreithiwr dan hyfforddiant: mae’n mireinio dadansoddiad cyfreithiol, eiriolaeth lafar, a’r gallu i feddwl yn gyflym dan bwysau. Bu’r rowndiau cychwynnol, a oedd yn cynnwys llawer o fyfyrwyr ein rhaglenni LLM mewn Cyfraith Llongau a Masnach, yn helpu’r cyfranogwyr i ddatblygu’r union sgiliau trosglwyddadwy hyn. Barnwyd y rownd derfynol gan banel arbennig o nodedig: Nigel Jacobs KC o Quadrant Chambers, Ingrid Hu o Steamship Mutual, a Michael Biltoo, Partner yn DWF, y mae’r Ysgol yn ddiolchgar iawn iddo am gynnal y gystadleuaeth. Wynebodd y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol gwestiynau heriol a manwl gan y panel, ac ymatebasant gyda hyder ac ansawdd rhesymu cyfreithiol trawiadol. Roedd yn rownd derfynol o safon uchel iawn a ddangosodd ddyfnder y dalent sy’n dod i’r amlwg o’r rhaglen.

Llongyfarchiadau i’r enillwyr: y siaradwyr Mai Linh Nguyen a Michael Mulandi, a’r ymchwilydd Aslihan Asman. Mae’r Ysgol hefyd yn cydnabod yr ail saflewyr, sef y siaradwyr Varvara Kazantzi a Winjie Hou a’r ymchwilydd Libby Toppin, am eu perfformiad cryf a medrus. Yn ogystal, dyfarnwyd gwobr y Ddadl Ysgrifenedig Orau (Best Skeleton Argument) o’r rowndiau cychwynnol i Selin Ucuncu a Qingzhou Zheng – cydnabyddiaeth haeddiannol o’u heiriolaeth ysgrifenedig ragorol.

Ar ôl y digwyddiad, dywedodd Dr Tabetha Kurtz-Shefford, Dirprwy Gyfarwyddwr Rhaglenni LLM Cyfraith Llongau a Masnach:

“Hoffwn estyn fy niolch diffuant i Michael Biltoo am ei holl ymdrechion wrth drefnu’r digwyddiad, ac i DWF am ein croesawu mor hael. Rwyf hefyd yn hynod ddiolchgar i Nigel Jacobs KC ac Ingrid Hu am neilltuo amser o’u hamserlenni prysur iawn i feirniadu’r ymryson. Gwnaeth eu presenoldeb a’u cwestiynau heriol y rownd derfynol yn brofiad dysgu gwirioneddol arbennig. Hoffwn ddiolch hefyd i’m holl gydweithwyr a helpodd i gynnal rhan Abertawe o’r gystadleuaeth ac i hyfforddi’r myfyrwyr, yn enwedig yr Athrawon Baughen, Leloudas a Tettenborn.”

Rhannu'r stori