GENCON yw siarter llogi llongau fwyaf adnabyddus BIMCO ar gyfer cludo cargo sych a chyffredinol.

Lansiwyd fersiwn newydd o'r siarter logi llongau hon yn 2022 a bu un o uwch-aelodau'r Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol (IISTL), yr Athro Richard Williams, yn aelod o'r is-bwyllgor a oedd yn gyfrifol am ddrafftio'r fersiwn newydd o'r siarter nodedig hon.

Fel rhan o Wythnos Morgludiant Ryngwladol Llundain (LISW), ymunodd y Sefydliad â BIMCO i drefnu seminar yn swyddfeydd newydd HFW, gan graffu ar agweddau allweddol ar y siarter hon o safbwynt cyfreithiol.

Roedd yr Athro Barış Soyer (Cyfarwyddwr IISTL) yn un o gymedrolwyr y digwyddiad, ar y cyd â Stinne Taiger Ivo (Cyfarwyddwr Cytundebau a Chymorth yn BIMCO), ac ymhlith aelodau eraill o'r panel oedd:

  • Syr Bernard Eder (Cymrodeddwr a Chyfryngwr Rhyngwladol),
  • Simon Rainey CB (Quadrant Chambers ac Athro Er Anrhydedd yn IISTL),
  • Magne Andreson (Nordic Defence Club),
  • Brian Perrott (Partner, HFW),
  • John Weale (Cyn-is-lywydd Fednav Ltd), a
  • Helena Biggs (Uwch-gyfreithiwr Gard).

Denodd y digwyddiad lu o bobl o'r gymuned forwrol yn Llundain a gwerthwyd pob tocyn.  Diolch i sylwadau a chwestiynau gwych gan y cyfranogwyr, roedd y digwyddiad yn un o uchafbwyntiau'r wythnos.

Ar ôl y digwyddiad, mwynhaodd y cyfranogwyr ddiodydd a chanapes ar falconi swyddfeydd newydd HFW yn Bishopsgate, gan gynnig cyfleoedd rhwydweithio ardderchog.

Agwedd neilltuol arall ar y digwyddiad oedd cyfranogiad nifer mawr o raddedigion LLM Abertawe sydd bellach yn gweithio yn y sector morgludiant yn Llundain.  Roedd aelodau IISTL a oedd yn bresennol yn falch iawn o allu gweld y graddedigion hyn wrth eu gwaith mewn swyddi o bwys yn Llundain.

Rhannu'r stori