Ymunodd y Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnachu Rhyngwladol (IISTL) â Chyfadran Cyfreithiau UCL i gynnal digwyddiad pwerus ar y materion sy'n ymwneud â "Technoleg Werdd a Morgludiant!” yn Nhŷ Benham yn Llundain ar 19 Ebrill 2023.

Yn ystod y digwyddiad, lle roedd  ymarferwyr, cynrychiolwyr o'r diwydiant, academyddion a llawer o bobl eraill o’r busnes llongau’n bresennol, ystyriwyd yn fanwl nifer o faterion cyfoes a dadleuol difrifol: er enghraifft, mentrau’r UE a rhyngwladol ar forgludiant a datgarboneiddio, ymyriadau cyfraith gyhoeddus, atebion cytundebol, digidol ac amgen, a mentrau'r diwydiant ei hun.

Cafodd y fformat ei ddylunio'n ofalus i gael yr effaith fwyaf. Cafodd yr areithwyr lai o amser i siarad, gan olygu bod mwy o gyfle i’r cynrychiolwyr ymgysylltu a thrafod y materion. Roedd hyn i’w weld yn hynod o lwyddiannus; erbyn iddynt adael, roedd gan bawb a gymerodd ran wybodaeth llawer gwell.

Yn ogystal ag areithwyr o'r Sefydliad (Yr Athro Simon Baughen, Yr Athro Baris Soyer a’r Athro Andrew Tettenborn a Dr Lia Amaxilati a Dr Aygun Mammadzada) ac o UCL (Dr Melis Özdel a Dr Tristan Smith), roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys cyfraniadau gan nifer fawr o bobl sy’n adnabyddus yn y maes. Roedd y rhain yn cynnwys yr Athro Lia Athanasiou (Prifysgol Athen), Gabriel Castellanos (IMO), Grant Hunter (BIMCO), Jolien Kruit (Partner, Van Traa Advocaten, Rotterdam), Johanna Ohlman (HFW), Sam Strivens (Ymddiriedolaeth Garbon), yr Athro Vibe Garf Ulfbeck (Prifysgol Copenhagen) a Haris Zografakis (Stephenson Harwood LLP).

Mae cadeirio arbenigol yn hanfodol ar gyfer pob cynulliad o'r math hwn. O safbwynt hyn roeddem yn hynod ddiolchgar i Mr Edmund Greiner (Fugro Marine Services), Mr Neil Henderson (Gard);  Mr Cathal Leigh-Doyle (Stephenson Harwood LLP); Mr Michael Biltoo (Kennedy) a Dr Tabetha Kurtz-Shefford o'r Sefydliad ei hun.

Mae technoleg werdd yn faes ymchwil allweddol i’r Sefydliad. Roedd y digwyddiad hwn yn arddangos yn wych y gwaith sy'n cael ei wneud yn Abertawe ac mewn mannau eraill, a bydd yn siŵr o baratoi'r ffordd ar gyfer ymchwil bellach yn y meysydd hyn.

Rhannu'r stori