Mae 2023 yn nodi’r ail flwyddyn pan gynigiodd y cwmni cyfraith rhyngwladol adnabyddus, Stephenson Harwood, ddwy interniaeth ym maes llongau masnachol ac ynni ar y môr i fyfyrwyr ar y rhaglen LLM mewn Cyfraith Llongau a Masnach ym Mhrifysgol Abertawe.

Eleni, mae’r tîm yn y Sefydliad Cyfraith Llongau a Masnach Ryngwladol (IISTL) yn hynod falch o gyflwyno derbynwyr y gwobrau hyn:

  • Ms Farah Binti-Mahadi, a
  • Ms Ada Goksel

Perfformiodd y ddwy yn rhagorol yn ystod eu graddau a byddant yn mwynhau’r cyfle hwn i weithio gyda thîm Masnach Forol a Rhyngwladol Stephenson Harwood. Maent yn awyddus i ddechrau eu hinterniaethau’r haf hwn ac mae’r tîm yn IISTL yn eu llongyfarch yn fawr.

Dywedodd Dr Kurtz-Shefford y canlynol am eu gwobrau,

“Rydym yn hynod ddiolchgar i Stephenson Harwood am roi cyfle mor werthfawr i’n myfyrwyr – rydym yn hynod falch o’n partneriaeth ac yn wir yn edrych ymlaen at weithio gyda’n gilydd yn y dyfodol.”

Rhannu'r stori