Grŵp o bobl

Mae cystadlaethau newydd ymysg heriau diddorol Rhaglen Sgiliau Cyfathrebu Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe: rhaid deall eu nodau, gwerthfawrogi sut maent yn cael eu hasesu a helpu myfyrwyr i ymateb i heriau'r digwyddiad.

Ym mlwyddyn academaidd 2025/2026, daeth cyfle newydd i'r amlwg sef Cystadleuaeth Negodi Ryngwladol Athen, a ddaeth i ben gydag antur, salwch môr ac, yn y pendraw, fuddugoliaeth.

Penderfynwyd cymryd rhan yn y gystadleuaeth drwy serendipedd. Ar ôl ein Cystadleuaeth Negodi Cyfraith Chwaraeon Morgan LaRoche fewnol, roedd gennym dîm yn barod i gystadlu mewn Cystadleuaeth Cyfraith Chwaraeon Genedlaethol: Cara Di Teodoro (trydedd flwyddyn, Rhaglen Radd Ddeuol Trent) a Maddie Matthews (trydedd flwyddyn). Yn anffodus, cafodd y gystadleuaeth ei chanslo. Pan gyhoeddwyd Cystadleuaeth Athen, roedd rhaid i mi ddod o hyd i drydydd myfyriwr ac roedd y ddwy fyfyrwraig eisoes yn gyfarwydd ag Emily Law (trydedd flwyddyn) a oedd wedi cynrychioli Abertawe yn y Gystadleuaeth Negodi Ryngwladol ym mlwyddyn academaidd 2024/2025.

Roedd y gystadleuaeth yn ddigwyddiad deuddydd yn Athen, lle cafwyd ffocws ar negodi, rhwydweithio ac, fel mae'n digwydd, anturiaethau morwrol oherwydd cynhaliwyd digwyddiadau'r ail ddiwrnod ar gwch - gan gynnwys taith dywys o Ynys Hydra. Oherwydd hyn oll, roedd y tîm yn hynod gyffrous ac yn awyddus i ymarfer eu sgiliau negodi cyn y daith - roedd pob un o'r tri ohonynt wedi ymgymryd â'r modiwl dewisol, Negodi, ac roedd hynny bendant wedi helpu!

Roedd y gystadleuaeth, wrth gwrs, yn gystadleuol, a chyhoeddodd aelodau un tîm (nid ein tîm ni), pan oedd y timau'n cyflwyno eu hunain, eu bod nhw “wedi dod yma i ennill yn unig!” Nid dyna ffordd Abertawe ond gwnaeth hynny bennu paramedrau disgwyliadau'r cystadleuwyr. Gwnaeth Cara, Maddie ac Emily ymroi i'r sefyllfa a, gan ystyried eu bod nhw wedi cael gwybodaeth un awr yn unig cyn pob rownd, roedd angen iddyn nhw ddefnyddio eu holl sgiliau a meddwl yn gyflym.

Cafwyd adborth cryf yn ystod y rowndiau, lle roedden ni'n cystadlu yn erbyn timau o Ewrop, Affrica a Gogledd America; ond, gydag 16 o dimau'n cystadlu a dim ond dau ohonynt yn symud ymlaen i'r rownd derfynol, doedd dim syndod bod tensiwn cyn i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi. Pan gyhoeddwyd y rhain, roedd y newyddion yn fendigedig oherwydd cyrhaeddodd ein tîm y rownd derfynol lle byddai'n cystadlu yn erbyn tîm o Forocco. Datgelodd y canlyniadau diweddarach fod Abertawe wedi cyrraedd y brig allan o 16 o dimau ym mhob un o'r ddwy rownd gyntaf ac yna cyrhaeddodd y 6ed safle yn y rownd derfynol - dyna ganlyniadau ardderchog yn erbyn gwrthwynebwyr cryf iawn, yn enwedig wrth ystyried salwch môr Emily pan oedd yn negodi ar y cwch: rhywbeth ofnadwy pan ydych chi'n ceisio negodi!

Rhoddodd y rownd derfynol her ychwanegol iddyn nhw oherwydd roedd rhaid i'r tîm negodi yn erbyn tîm o Brif Swyddogion Gweithredol proffesiynol yn hytrach na'r tîm arall a gyrhaeddodd y rownd derfynol; yr her oedd i fod y tîm gorau i'r tîm o swyddogion proffesiynol negodi yn ei erbyn yn hytrach na chystadlu'n uniongyrchol. Roedd hyn yn rhywbeth hollol newydd iddyn nhw ond gwnaethon nhw berfformio'n dda iawn; dywedodd y beirniaid fod hyblygrwydd aelodau'r tîm a'u gallu i wrando ar bryderon eu gwrthwynebwyr yn rhan hanfodol o'u sgôr gadarnhaol.

Yn y diwedd, cyhoeddwyd tîm Abertawe fel yr enillwyr, gan goroni perfformiad ardderchog gan y tîm. Cafodd y tri myfyriwr amser arbennig, er bod rhaid cyflwyno peth o'u gwaith cwrs o'r maes awyr, ac enillon nhw lawer o brofiad yn ogystal â thri tlws Groegaidd.

Diolch yn fawr iawn i Evita Psoni a'i thîm am drefnu digwyddiad mor arbennig.

Os ydych chi am wybod rhagor am Raglen Sgiliau Cyfathrebu Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe, e-bostiwch fi yn m.j.parry@abertawe.ac.uk.

Rhannu'r stori