Cyn-fyfyrwyr LLM Abertawe yn Kennedys

Mae Ysgol y Gyfraith a'r Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol (IISTL) yn mwynhau perthnasoedd agos ag amrywiaeth o gyflogwyr rhyngwladol, yn Llundain a thramor.

Mae'r perthnasoedd hyn yn gyfleoedd rhagorol i rwydweithio ar gyfer myfyrwyr, a thros y degawd diwethaf mae nifer graddedigion LLM Abertawe sy'n gweithio yn Ninas Llundain (mewn cwmnïau cyfreithiol ac yswiriant, bancio a sectorau technoleg) wedi cynyddu'n sylweddol.

Ym mis Tachwedd 2023, cyfarfu nifer o raddedigion LLM Abertawe yn swyddfa Kennedys yn Llundain am ginio. Mae'r Ysgol yn ddiolchgar i Kennedys am y cyfle i ddod â'r gymuned o gyn-fyfyrwyr ynghyd, wrth eu galluogi i ddatblygu eu rhwydweithiau a gwneud cysylltiadau newydd.

Rydym yn gobeithio parhau â hyn drwy annog ein cyn-fyfyrwyr (nid yn Llundain yn unig, ond mewn mannau eraill yn y byd) i gwrdd yn rheolaidd a chadw mewn cysylltiad â ni.  Byddem yn falch o allu rhannu newyddion am IISTL ac Abertawe â nhw, ac i siarad â nhw am ein cysylltiadau newydd a chyflwyno ein rhaglen LLM newydd mewn Technoleg Gyfreithiol mewn Cyfraith Fasnachol.   

Mwy o wybodaeth am ein rhaglenni LLM.

Rhannu'r stori