Mae'r berthynas deirffordd rhwng staff, myfyrwyr ac ymarferwyr wrth galon gradd yn Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe. Mae hyn yn hollbwysig ar y Rhaglen Sgiliau Cyfathrebu sy'n rhoi'r cyfle i gwmnïau a siambrau gefnogi timau unigol a mentora myfyrwyr sy'n cymryd rhan mewn cystadlaethau allanol.
Rydym yn hynod ddiolchgar am y sefydliadau sy'n cefnogi'r Rhaglen hon, sydd, yn ei thro, yn ein galluogi i gefnogi ein myfyrwyr wrth iddynt barhau â'u taith datblygu sgiliau. Eleni, mae'n bleser gennym gyhoeddi'r cefnogwyr canlynol:
Admiral Law, a fydd yn cefnogi ein timau yn Nghystadleuaeth Negodi Cymru a Lloegr CEDR, Cystadleuaeth Negodi ALSINC, ein cystadleuaeth negodi fewnol, a Chystadleuaeth Wadd Cyfweld â Chleientiaid Cymru a Lloegr.
JCP Solicitors, a fydd yn cefnogi ein timau yng Nghystadleuaeth Cyfweld â Chleientiaid Cymru a Lloegr, y Gystadleuaeth Negodi Drawsatlantig, Cystadleuaeth Gyfryngu Calcutta, Cystadleuaeth Wadd Cyfweld â Chleientiaid Cymru, a'n cystadleuaeth Cyfweld â Chleientiaid fewnol.
Morgan LaRoche, a fydd yn cefnogi ein timau yng Nghystadleuaeth Ffug Lys Barn Prifysgolion y Deml Fewnol, y Gystadleuaeth Negodi Cyfraith Chwaraeon Genedlaethol, a chystadleuaeth negodi cyfraith chwaraeon fewnol.
RedKite LLP, a fydd yn cefnogi ein timau yng Nghystadleuaeth Ffug Lys Barn English Speakers Union-Essex Court Chambers, cystadleuaeth Ffug Lys Barn Cyfraith Feddygol Genedlaethol, a chystadleuaeth ffug lys barn fewnol.
Angel Chambers, a fydd yn cefnogi ein timau yng Nghystadleuaeth Ffug Lys Barn Michael Corkery CB, Cystadleuaeth Ffug Lys Barn Genedlaethol ar gyfer y Flwyddyn Gyntaf, a chystadlaethau ffug lys barn mewnol.
Iscoed Chambers, a fydd yn cefnogi ein timau yng Nghystadleuaeth Ffug Lys Barn Cymru a chystadlaethau ffug lys barn mewnol.
Pendragon Chambers, a fydd yn cefnogi ein timau yn y Gystadleuaeth Eiriolwr yn y Llys y Flwyddyn, Triathlon Cyfreithiol Caint a chystadlaethau ffug lys barn mewnol.
Acuity Law, a fydd yn cefnogi ein timau yng Nghystadleuaeth Gyfryngu'r DU a Chystadleuaeth Gyfryngu Mediate Guru.
DW Harris, a fydd yn cefnogi ein timau yng Nghystadleuaeth Ffug Lys Barn Cyfraith Eiddo Landmark Chambers.
Rydym yn ddiolchgar am bob un o'n cefnogwyr sy'n ein helpu er mwyn rhoi'r cyfleoedd hyn i'n myfyrwyr, gan drosglwyddo eu sgiliau a'u mentoriaeth i'r genhedlaeth nesaf o gyfreithwyr, bargyfreithwyr a chyfranwyr at ein system gyfreithiol.