O'r chwith i'r dde: Yr Athro B. Soyer, Matt Hannaford, Alexandros Marinos, Ece Birinci a Vishesh Tyagi
Mae gan Hannaford Turner LLP, cwmni cyfreithiol o Lundain sy'n arbenigo mewn cyllid llongau ac awyrennau, adeiladu llongau, a masnach nwyddau corfforol, berthynas hirsefydlog â'r Sefydliad Cyfraith Llongau a Masnach Ryngwladol (IISTL) ym Mhrifysgol Abertawe.
Yn 2019, sefydlodd y cwmni Wobr Hannaford Turner i gydnabod y myfyriwr a gyflawnodd y canlyniad gorau ar fodiwl LLM Prifysgol Abertawe mewn Cyfraith Trafnidiaeth: Hedfan a Chyllid. Mae'r wobr yn un y mae galw mawr amdani. Yn ogystal â gwobr ariannol, mae'n cynnwys interniaeth gyda Hannaford Turner LLP, gan roi profiad ymarferol amhrisiadwy i'r enillydd. Mae nifer o enillwyr blaenorol y wobr wedi sicrhau swyddi parhaol gyda'r cwmni yn dilyn interniaethau llwyddiannus.
Derbynnydd y wobr eleni yw Alexandros Marinos. Yn wreiddiol o Wlad Groeg, mae Alexandros yn meddu ar radd yn y gyfraith o Brifysgol Democritus Thrace ac ar hyn o bryd mae'n cwblhau LLM mewn Cyfraith Forwrol Ryngwladol ym Mhrifysgol Abertawe. Cyn dechrau ei astudiaethau ôl-raddedig, bu Alexandros yn gweithio fel cyfreithiwr dan hyfforddiant yng Ngwlad Groeg, a threuliodd flwyddyn yn Sbaen fel myfyriwr cyfnewid, gan ehangu ei brofiad academaidd a phroffesiynol.
Cyflwynwyd y wobr yn Llundain gan Matt Hannaford, un o bartneriaid sefydlol Hannaford Turner LLP. Roedd Ece Birinci hefyd yn bresennol yn y seremoni. Mae hi'n Gyfreithiwraig Gyswllt yn y cwmni ac yn gyn-fyfyrwraig LLM ym Mhrifysgol Abertawe a raddiodd gyda rhagoriaeth. Mae ei gyrfa yn enghraifft wych o'r cyfleoedd y gall y rhaglen eu cynnig i gyfreithwyr rhyngwladol y dyfodol. Tynnodd y digwyddiad sylw hefyd at lwyddiant cyn-fyfyriwr arall o Abertawe, Vishesh Tyagi, sydd bellach yn Gyfreithiwr Cyswllt gyda Hannaford Turner LLP ac sydd yn ddiweddar wedi cymhwyso'n gyfreithiwr ar ôl cwblhau Arholiad Cymhwyso'r Cyfreithwyr (Solicitors Qualifying Examination – SQE). Gyda'i gilydd, mae'r llwyddiannau hyn yn dangos cryfder a pharhad y bartneriaeth rhwng yr IISTL a Hannaford Turner LLP, yn ogystal â'r cyfleoedd gyrfa rhagorol sydd ar gael i raddedigion rhaglenni LLM y Brifysgol.