Siaradwyr a chadeiryddion yn sefyll ar ôl y digwyddiad yn y lleoliad yn Ysgol y Gyfraith Austin Prifysgol Texas

Siaradwyr a chadeiryddion yn sefyll ar ôl y digwyddiad yn y lleoliad yn Ysgol y Gyfraith Austin Prifysgol Texas

Cynhaliodd Sefydliad Cyfraith Llongau a Masnach Ryngwladol (IISTL) ym Mhrifysgol Abertawe, mewn cydweithrediad â Chanolfan Ynni Kay Bailey Hutchison Prifysgol Texas yn Austin ac Ysgol y Gyfraith Prifysgol Genedlaethol a Kapodistriaidd Athen, ddigwyddiad rhyngwladol mawr yn Austin ar 26 Mawrth 2026.

Daeth y digwyddiad ag academyddion blaenllaw, ymarferwyr, a llunwyr polisi ynghyd i drafod materion cyfreithiol a gwleidyddol pwysig sy’n effeithio ar y sectorau ynni alltraeth a morwrol.

Roedd y digwyddiad hwn yn nodi’r ail mewn cyfres o gyfarfodydd rhyngwladol a drefnwyd ar y cyd gan y tri sefydliad. O dan gytundeb a gafwyd yn 2024, ymrwymodd y partneriaid i gynnal digwyddiadau tebyg ar draws tri awdurdodaeth — y Deyrnas Unedig, yr Unol Daleithiau, a Gwlad Groeg — dros gyfnod o dair blynedd. Cynhaliwyd y digwyddiad cyntaf gan yr IISTL yn Llundain ym mis Ebrill 2025.

Wedi’i gynnal eleni gan Brifysgol Texas yn Austin, denodd digwyddiad Austin siaradwyr a chynrychiolwyr o bob rhan o’r byd, gan adlewyrchu pwysigrwydd rhyngwladol cynyddol y materion oedd dan drafodaeth. Gyda nawdd ar y cyd gan y Texas Journal of Oil, Gas, and Energy Law, cafodd y digwyddiad ei ystyried yn llwyddiant mawr, gan feithrin fforwm deinamig a chynhyrchiol iawn ar gyfer cyfnewid academaidd a chryfhau’r cydweithrediad rhwng y tri sefydliad.

Cyflwynodd y canlynol bapurau a/neu buont yn cadeirio sesiynau yn y digwyddiad:

  • Yr Athro Lia Athanassiou, Prifysgol Genedlaethol a Kapodistriaidd Athen 
  • Yr Athro John S Dzienkowski, Prifysgol Texas yn Austin 
  • Dr Lauren Fielder, Sefydliad Cyfraith Drawswladol, Prifysgol Texas yn Austin 
  • Yr Athro Miriam Goldby, Prifysgol Queen Mary 
  • Yr Athro Susan Hovoroka, UT Bureau of Economic Geology 
  • Dr Tabetha Kurtz-Shefford, Sefydliad Cyfraith Llongau a Masnach Ryngwladol, Prifysgol Abertawe 
  • Robin Main, Hinckley Allen (Boston) 
  • Antonoi Massieu, Toeppich & Associates (Houston) 
  • Yr Athro Manos Mastromanolis, Prifysgol Genedlaethol a Kapodistriaidd Athen 
  • Yr Athro Barış Soyer, Cyfarwyddwr, Sefydliad Cyfraith Llongau a Masnach Ryngwladol, Prifysgol Abertawe 
  • Yr Athro David Spence, Prifysgol Texas yn Austin 
  • Yr Athro Michael Sturley, Prifysgol Texas yn Austin 
  • Yr Athro Melinda E Taylor, Energy Institute, Prifysgol Texas yn Austin 

Wrth siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd Yr Athro Soyer, Cyfarwyddwr yr IISTL:

“Roedd hwn yn ddigwyddiad hynod lwyddiannus, nid yn unig o ran denu enwau blaenllaw yn y sector fel siaradwyr, ond hefyd o ran creu amgylchedd academaidd gwych i gynrychiolwyr a chyfranogwyr. Y bwriad yw y bydd y papurau a gyflwynwyd yn cael eu cyhoeddi maes o law yn y Texas Journal of Oil, Gas and Energy Law. Rydym yn ddiolchgar iawn i’n gwesteion ar yr achlysur hwn, sef yr Athrawon Lauren Fielder a Michael Sturley, ac edrychwn ymlaen at y digwyddiad nesaf yn y gyfres, a gynhelir yn Athen ym mis Mai 2027.”

Amlygodd y digwyddiad werth cydweithredu academaidd rhyngwladol wrth fynd i’r afael â rhai o’r heriau cyfoes mwyaf arwyddocaol sy’n wynebu’r sectorau ynni alltraeth a morwrol, gan atgyfnerthu hefyd y bartneriaeth hirdymor rhwng y sefydliadau dan sylw.

Rhannu'r stori