CHWARAEWCH DENNIS BWRDD PERFFORMIAD YN ABERTAWE

Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn cynnig cyfleoedd eithriadol i fyfyrwyr sydd am barhau â'u hastudiaethau academaidd, ond gan chwarae tennis bwrdd lefel perfformiad uchel ar yr un pryd.

Drwy ein rhaglen tennis bwrdd perfformiad, rydym yn meithrin chwaraewyr talentog drwy becynnau ysgoloriaeth cynhwysfawr a all gynnwys hyfforddiant, gwasanaethau gwyddor chwaraeon, rheoli ffordd o fyw i athletwyr, ffisiotherapi a chymorth cryfder a chyflyru; oll wedi'u cyflwyno gan weithwyr proffesiynol hynod brofiadol.

Mae ein hacademi tennis bwrdd yn cynnig cyfle i nifer o dimau ac unigolion gystadlu bob wythnos yn BUCS (Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain) ac yn darparu cyfleusterau a chyfarpar o'r radd flaenaf ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe wrth ymyl Campws Singleton, yn ogystal â'n canolfan cryfder a chyflyru elît ein hunain ar y campws: ‘Y Sied’.

Wedi'i chefnogi'n llwyr gan Tennis Bwrdd Cymru ac ar agor i chwaraewyr abl a chwaraewyr para fel ei gilydd, mae ein rhaglen perfformiad uchel yn rhaglen heb ei hail, gan gynnig hyfforddiant bwrdd cynhwysfawr a sesiynau aml-bêl un-i-un/un-i-ddau, yn ogystal â chyfleoedd ardderchog i hyfforddi â chwaraewyr o'r sgwad genedlaethol ac i fynychu gwersylloedd hyfforddi ar y cyd.

Mae ein cysylltiadau cadarn â chlybiau a chynghreiriau lleol yn sicrhau bod ein chwaraewyr yn cael cyfleoedd i gymryd rhan yn y gymuned leol, gan gael cyfleoedd pellach i ymarfer, hyfforddi a datblygu ar yr un pryd.

Os hoffech ymuno â'n tîm tennis bwrdd, ewch i dudalen y clwb ar wefan yr undeb myfyrwyr, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau am ein rhaglen perfformiad uchel, cysylltwch â'n Rheolwr Perfformiad Tennis Bwrdd drwy e-bost.

CYFLEOEDD NODDI TENNIS BWRDD

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i chi mewn perthynas â thennis bwrdd ym Mhrifysgol Abertawe ac i gefnogi'r timau neu chwaraewyr, gan adeiladu eich brand eich hun ar yr un pryd. Edrychwch ar Becyn Noddi Tennis Bwrdd Prifysgol Abertawe