Pryd caiff treialon eu cynnal?
Caiff treialon ar gyfer derbyn chwaraewyr eleni eu cynnal ddydd Gwener 30 Medi. Bydd gwybodaeth am y treialon hyn ar gael yn Ffair y Glas.
Oes angen i mi wneud unrhyw beth er mwyn cofrestru?
Bydd angen i chi gwblhau ffurflen sylfaenol am eich hanes chwarae wrth gofrestru ar gyfer y treialon.
Oes angen i fyfyrwyr sy'n dychwelyd gael treial arall?
Nac oes, does dim angen i fyfyrwyr sy'n dychwelyd gael treial arall.
Sawl tîm BUCS sydd gennym?
Mae gan y Clwb Pêl-droed dri thîm dynion a dau dîm merched yn BUCS.
Ble rydym yn hyfforddi?
Rydym yn hyfforddi ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe a Maes Hyfforddi Fairwood.
Oes cynghrair fewnfurol os nad ydych yn chwarae BUCS?
Oes, mae cynghrair fewnfurol y gall aelodau ymuno â hi os nad ydynt yn chwarae BUCS.