CHWARAEWCH HOCI TÎM CYNTAF YM MHRIFYSGOL ABERTAWE

Mae ein rhaglen Hoci i Ddynion yn cynnig cyfle i chwaraewyr hoci addawol gystadlu'n rhyngwladol, gartref ac mewn amgylchedd BUCS.

Mae ein rhaglen Hoci i Ddynion yn dîm llwyddiannus iawn sy’n chwarae yng nghynghrair Gorllewin 1A BUCS. Mae cysylltiad clwb y Brifysgol â Chlwb Hoci Abertawe yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gystadlu yn uwch-gynghrair dynion y Gorllewin a chystadleuaeth EuroHockey Awyr Agored 2023/24.

Fel rhan o raglen Chwaraeon Ffocws Chwaraeon Abertawe, mae tîm cyntaf  y dynion yn cael hyfforddwyr wedi'u hariannu, yn ogystal â sesiynau cryfder a chyflyru wythnosol a chymorth ychwanegol gan y tîm.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â'n tîm hoci i ddynion, ewch i dudalen we'r clwb ar wefan Undeb y Myfyrwyr.