Tennessee and GB team at Championship

Tennessee Randall - WAKO European Kickboxing Championship 

Yr athletwraig yn dod i’r brig! Rydym yn estyn llongyfarchiadau gwresog i’n myfyrwraig Tennessee Randall, sydd newydd ennill rownd terfynol y Bencampwriaeth Cic-bocsio Ewropeaidd WAKO yn Nhwrci. Dyma enghraifft ragorol o athletwr Gyrfa Ddeuol TASS ym Mhrifysgol Abertawe. 

Mae Tennessee wedi bod yn cic-bocsio ers oedd hi’n 7 mlwydd oed, gan ddechrau cystadlu yn 11 mlwydd oed, ac mae’r gweddill yn hen hanes. Mae Tennessee wedi profi cryn lwyddiant yn y gamp ac yn ei chategori pwysau, gan gynnwys: 

  • Pencampwr y Byd WAKO dwywaith am baffio cyswllt corfforol llawn (-56 cilogram).
  • Pencampwr y Byd WAKO dwywaith am baffio cyswllt corfforol llawn mewn dau gategori pwysau gwahanol (-56 cilogram a -60 cilogram).

Ar ôl llwyddo i gwblhau ei MSc ac wrth astudio am ei doethuriaeth ochr yn ochr â'i hyfforddiant a'i chystadlaethau, mae Tennessee wedi bod yn gweithio'n agos gyda thîm Chwaraeon Abertawe i sicrhau bod ganddi'r holl gefnogaeth sydd ei hangen arni i gystadlu. Dywedodd Tennessee: 

"Mae tîm Chwaraeon Abertawe wedi bod yn gefnogol iawn. Maen nhw'n cysylltu â mi yn rheolaidd i wneud yn siŵr bod popeth yn iawn, a fy mod yn ymdopi’n iawn gyda chyfuno fy hyfforddiant a fy astudiaethau. Mae'n neis cael rhywun yn gofyn a ydych chi'n iawn ac mae'n bwysig cadw mewn cysylltiad, felly mae hynny'n hyfryd iawn. 

Ar ôl gorfod cymryd rhywfaint o amser allan o gystadlu oherwydd pandemig Covid, parhaodd Tennessee â'i hyfforddiant a chynhaliodd dosbarthiadau ar-lein ar gyfer ei chlwb cic-focsio dros zoom. Fodd bynnag, ni ddaliodd hyn hi'n ôl. Yn 2021, yn dilyn y pandemig, profodd Tennessee lwyddiant ysgubol ym Mhencampwriaeth y Byd, gan deimlo'r cymhelliad i amddiffyn ei theitl byd-eang ar ôl dwy flynedd o beidio cystadlu. 

Wrth sôn am ei buddugoliaeth ym Mhencampwriaethau'r Byd 2022, dywedodd Tennessee: 

"Wrth edrych yn ôl ar bencampwriaeth y byd yn 2021, honno oedd y bencampwriaeth gyntaf ar ôl Covid ac roedd llawer o’r cyfyngiadau mewn grym o hyd. I ddechrau doedden ni ddim hyd yn oed yn cael bod ar y safle i wylio ac roedd rhaid i ni wisgo mygydau. Ond eleni, roedd yn ôl i'r arfer; Roedd yr awyrgylch yn anhygoel, ac roedd y tîm mor gefnogol. Rydyn ni i gyd yn cefnogi ein gilydd!". 

Mae Tennessee wedi bod yn hynod benderfynol drwy gydol ei gyrfa ym myd chwaraeon. Mae cic-focsio wedi ei gwneud hi'n wydn ym mhob agwedd o fywyd, gyda rhai o’i methiannau yn ei gyrru i hyfforddi'n galetach er mwyn cyrraedd y safon aur hollbwysig. 

Gan iddi dderbyn medal ym Mhencampwriaethau Ewrop 2022 eleni, mae Tennessee wedi cymhwyso ar gyfer Pwyllgor Gemau Olympaidd Ewrop (EOC) a gynhelir yng Ngwlad Pwyl ym mis Mehefin 2023.  

"Os ydych chi'n rhoi'r gorau iddi, bydd eich siawns o lwyddo yn 0! Ond os ydych chi'n codi ac yn rhoi cynnig arall arni, mae siawns dda y gallech chi lwyddo" – Tennessee Randall.  

Rydym yn hynod falch o gefnogi Tennessee a bod gennym fabolgampwr mor ysbrydoledig ar ein rhaglen TASS. Dymunwn bob llwyddiant i Tennessee wrth iddi barhau i gystadlu ac ysbrydoli carfannau newydd o fyfyrwyr sy’n athletwyr Chwaraeon Abertawe.  

Rhannu'r stori