Poster ACTIVE - dyn ifanc yn gwisgo helmed

Symud, Dod at ein Gilydd, Bod yn ACTIF

Mae Prifysgol Abertawe yn Brifysgol actif sy'n dangos brwdfrydedd tuag at chwaraeon. Credwn fod chwaraeon a ffyrdd actif o fyw yn greiddiol i lwyddiant cyffredinol ein Prifysgol drwy helpu myfyrwyr, staff a'r gymuned ehangach i ddatblygu a ffynnu yn eu bywydau academaidd, cymdeithasol a phroffesiynol.

Mae ein rhaglen gweithgarwch corfforol newydd 'Bod yn ACTIF' yn anelu at gefnogi iechyd a llesiant staff a myfyrwyr, drwy gyflwyno amrywiaeth gyffrous o weithgareddau a digwyddiadau corfforol cynhwysol, llawn hwyl, ar y campws ac oddi arno.

Mae Bod yn ACTIF yn anelu at wneud y canlynol:

  • Cynyddu nifer y myfyrwyr a'r staff sy'n ddigon actif.
  • Cynyddu nifer y cyfleoedd hygyrch a chynhwysol sydd ar gael i fyfyrwyr a staff ymgymryd â gweithgarwch corfforol.
  • Cynyddu'r gweithlu er mwyn cefnogi twf, datblygiad a gweithrediad gweithgareddau Bod yn ACTIF.

Gyda ffocws ar helpu i greu cymuned gynnes a chroesawgar ar y campws, mae Bod yn ACTIF yn cynnig gweithgareddau hamdden i bob lefel, gan ganolbwyntio ar ddod â phobl at ei gilydd er mwyn gwneud ffrindiau newydd, cael hwyl, treulio cymaint o amser yn yr awyr agored â phosibl a symud mwy.

Mae'r gweithgareddau a gynigir fel rhan o'r amserlen graidd yn cynnwys tennis bwrdd, badminton, pêl-foli a rownders, ymhlith eraill.

Yn ogystal â'r amserlen gweithgareddau graidd ar y campws, mae'r rhaglen hefyd yn cynnig sesiynau rhagflas, stondinau naid, heriau a sesiynau dan hyfforddiant, gan gynnig amrywiaeth eang o weithgareddau o gwrlo'r oes newydd, cerdded a loncian i chwaraeon dŵr, golff stryd, criced pêl feddal neu bêl-fasged cadair olwyn, yn ogystal â chyfleoedd i fynd oddi ar y campws a manteisio ar ardaloedd awyr agored Cymru.

Dywedodd Shana Thomas, Rheolwr y Rhaglen Ymgysylltu:

Rwyf wrth fy modd cael y cyfle i helpu i gyflwyno Bod yn ACTIF yn y Brifysgol. Gyda chefndir ym maes iechyd y cyhoedd, chwaraeon a gweithgarwch corfforol, rwy'n awyddus iawn i bwysleisio pwysigrwydd bod yn actif; a'r effaith gadarnhaol y gall cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol o bob math ei chael ar unigolion.

“Rydym am i Brifysgol Abertawe fod yn brifysgol egnïol lle caiff ein myfyrwyr a'n staff ddigon o gyfleoedd i roi blaenoriaeth i'w hiechyd a'u llesiant.

“Mae Bod yn ACTIF yn anelu at gynnig rhaglen gynhwysfawr o weithgareddau a digwyddiadau, wedi'u llywio gan ddymuniadau myfyrwyr a staff. Yn y bôn, rydym am annog pobl i gael hwyl, cymryd rhan, rhoi cynnig arni a threulio amser â ffrindiau, cydfyfyrwyr a chydweithwyr.”

I gael gwybod mwy am Bod yn ACTIF a chofrestru am ddim, ewch i'n gwe-dudalen Bod yn ACTIF.

Rhannu'r stori