Mae ein timau'n paratoi!

Gyda Varsity Cymru dim ond ychydig wythnosau i ffwrdd, mae'r cyffro'n dechrau cynyddu o amgylch yr ŵyl chwaraeon ac mae ein myfyrwyr a'n staff yn paratoi ar gyfer un o'r digwyddiadau Varsity mwyaf yn y DU!

Bydd ein cystadleuwyr yn Varsity Cymru, Prifysgol Caerdydd, yn teithio i Abertawe ar 24 Ebrill lle bydd dros 50 o glybiau yn cystadlu i ennill y darian!

Mae Varsity Cymru wedi dod yn draddodiad mawr i Brifysgol Abertawe ac mae'n dyddio'n ôl ddegawdau i'r digwyddiad cyntaf erioed a gynhaliwyd yng Nghaerdydd. Mae Varsity Cymru yn parhau i dyfu flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac erbyn hyn mae'n ddyddiad allweddol yn y calendr chwaraeon i Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd.

Mae'r digwyddiad hwn yn dod â myfyrwyr, staff a chyn-fyfyrwyr at ei gilydd am ddiwrnod o chwaraeon, dathliadau, ac wrth gwrs gystadlu da, hen ffasiwn a chyfeillgar rhwng Abertawe a Chaerdydd.

Ar ôl dechrau'n gynnar am 7am a diwrnod prysur o gefnogi'r clybiau yn eu gemau ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe, bydd miloedd o fyfyrwyr wedi'u gwisgo mewn gwyrdd a gwyn yn mynd i gemau rygbi'r Dynion a'r Merched lle byddant yn mynd i stadiwm Swansea.com i godi calon y Fyddin Werdd a Gwyn!

Mae Varsity i bawb, gan uno ein holl dimau, ac wrth gwrs ein Byddin Werdd a Gwyn, yn yr her hanesyddol hon yn erbyn Caerdydd. Mae'n un o'r diwrnodau mwyaf cofiadwy yng nghalendr digwyddiadau ein prifysgol ac yn rhan fawr o'n profiad chwaraeon yn Abertawe.

Mae cyflawni Varsity yn ymdrech enfawr ac mae'n dod â'n clybiau ac Undeb y Myfyrwyr ynghyd â Chwaraeon Abertawe a staff eraill y Brifysgol i gyflwyno'r hyn sydd bob amser yn ddigwyddiad i'w gofio!

Meddai ein Swyddog Chwaraeon etholedig, Meg Chagger:

"Wrth i'r cyffro godi am Varsity Cymru, mae cynlluniau ar y gweill yn llawn, ac rydyn ni wedi dechrau cyfrif y dyddiau'n swyddogol. Rwy'n edrych ymlaen at weld ein hathletwyr yn dangos eu talent a'u penderfyniad ar y maes, ac rwy'n hyderus y bydd Varsity eleni yn uchafbwynt yng nghalendr y myfyrwyr!

Gweler lluniau o Varsity Cymru 2023 yma.

Prynwch eich tocynnau am Varsity Cymru yma.

Rhannu'r stori