Llwyddiant Tenis Bwrdd

Llwyddiant Tenis Bwrdd

Llwyddiant Tenis Bwrdd

Llwyddiant Tenis Bwrdd

Mae tîm tenis bwrdd Prifysgol Abertawe wedi bod yn creu effaith enfawr ym myd chwaraeon dros yr wythnosau diwethaf, gan ragori ym Mhencampwriaeth Timau Cymru a Phencampwriaeth Agored Abertawe!

Pencampwriaeth Timau Cymru

Gwnaeth Tenis Bwrdd Prifysgol Abertawe ddominyddu Pencampwriaeth Uwch-dimau Cymru eleni.

Pencampwriaeth y Timau yw Cynghrair Genedlaethol Cymru ar gyfer Tenis Bwrdd, ac mae 6 chynghrair o dimau o bob cwr o Gymru yn dod at ei gilydd i gystadlu.

Cynghrair 1

Roedd tri thîm gan Brifysgol Abertawe yn y bencampwriaeth eleni. Yn y tîm cyntaf, ar ôl cael dyrchafiad o gynghrair 2 y llynedd, chwaraeodd Llywydd y clwb Benjamin Lam, Abdulaziz Al-Hajaji, Jacob Evans a William Avery yng nghynghrair 1.

Ar ddechrau'r penwythnos, roedd y tîm ar frig eu hadran, tri phwynt yn glir o'r ail safle. Yn y gemau ddydd Sadwrn llwyddodd y tîm i ennill 5-1 yn erbyn Gwent B a'r Drindod a 4-2 yn erbyn Gogledd Gwent a oedd yn yr ail safle. Gyda chanlyniadau mewn mannau eraill, roedd hyn yn golygu bod y tîm wedi sicrhau teitl y gynghrair a dyrchafiad i'r uwch-gynghrair ddiwrnod yn gynnar. Ni wnaeth hyn effeithio ar y tîm, ac roeddent yn fuddugol 6-0 a 4-2 yn erbyn timau A a B Pen-y-bont ar Ogwr, yn y drefn honno. Ar ben y ffaith nad yw’r tîm wedi colli gêm drwy gydol y flwyddyn, aeth Jacob Evans hefyd yn ddiguro gan ennill pob un o'i ddeunaw gêm.

Cynghrair 2

Yng nghynghrair 2, roedd penwythnos dramatig i Angelo Robles, Ian Parkyn, Samuel Ashman a Henry Morrell. Dechreuodd y tîm eu penwythnos gan ennill ddwywaith â sgôr 4-2 yn erbyn Pen-y-bont ar Ogwr C a Dinas Caerdydd B, cyn cael sgôr gyfartal 3-3 yn eu hail gêm yn erbyn Cynghrair Abertawe C. Yn y gemau ddydd Sul, cafwyd gêm gyfartal yn erbyn Cynghrair Caerdydd B, ac enillodd Gogledd Gwent yn erbyn Cynghrair Abertawe C gan adael i dîm y Brifysgol arwain gan un pwynt yn y gêm olaf gyda Gogledd Gwent. Ar ddiwedd y penwythnos, enillodd y tîm y gynghrair â sgôr o 4-2, gan arwain at ddyrchafiad! Chwaraewr y tîm oedd Ian Parkyn, sydd wedi colli un gêm yn unig drwy gydol yr holl dymor.

Cynghrair 3

Wrth i Peter Daish, Freddie Hancock, Oliver MacAlister, James Leahy ac Azriel Ackerman chwarae yng nghynghrair 3, roedd y tîm ar frig ei gynghrair, yn ddiguro. Gan ddechrau â buddugoliaeth 4-2 yn erbyn Cynghrair Abertawe E a Gwent D, a buddugoliaeth 6-0 yn erbyn Gogledd Gwent, dim ond un pwynt roedd ei angen ar y tîm i sicrhau teitl cynghrair 4! Gan sicrhau buddugoliaeth 6-0 yn erbyn Rhondda C a chynnal eu statws diguro drwy fuddugoliaeth 5-1 yn erbyn Pen-y-bont E, enillodd y tîm y gynghrair!! Chwaraewr y tîm oedd Peter Daish, a oedd yn ddiguro drwy'r tymor i gyd!

Roedd gan y clwb chwaraewyr a oedd yn cynrychioli clybiau eraill yn yr uwch-gynghrair hefyd; enillodd yr ysgolhaig chwaraeon perfformiad uchel, Beth Richards, a'i thîm Rhondda A, yr Uwch-gynghrair wrth i Jacob Young, a oedd yn chwarae i Gynghrair Abertawe B, ddod yn 3ydd. Daeth y cyn-fyfyriwr Nancy Yeh yn 2il gyda'i thîm Abertawe A.

Pencampwriaeth Agored Prifysgol Abertawe:

Gan adeiladu ar lwyddiant Pencampwriaeth Agored Abertawe y llynedd, roedd safon y digwyddiad yn uwch eleni yn sgîl y nifer uchaf erioed o geisiadau a phrofiad y chwaraewyr hefyd. Croesawodd y twrnamaint ei nifer uchaf o gystadleuwyr erioed, sef 104 o chwaraewyr o bob cwr o'r DU, gan guro nifer y llynedd, sef 91.

Canlyniadau'r Brifysgol

Cystadleuaeth Unigol i Ddynion - Enillon ni safleoedd 1, 2, 3, 4 ac at hynny roedd dau chwaraewr arall yn yr 8 olaf.

Dan 21 oed - Enillon ni safleoedd 1, 2, 3 ac roedd tri chwaraewr arall yn yr 8 olaf.

Ymysg y menywod, cyrhaeddodd Beth y rownd gogynderfynol cyn colli i Rif 4 Cymru yn y 5ed.

Ychydig wythnosau anhygoel i'r tîm Tennis Bwrdd ym Mhrifysgol Abertawe ac ni allem ni fod yn fwy balch o'r tîm a'u llwyddiant! Rydym ni'n edrych ymlaen at weld sut beth fydd y dyfodol i'r myfyrwyr hyn ac at eu cefnogi nhw yr holl ffordd! Llongyfarchiadau, dîm.

Fideo'r Digwyddiad yma  

Lluniau Diwrnod 1: https://adobe.ly/3YrmRWG

Lluniau Diwrnod 2: https://adobe.ly/3RDgrSf

 

Rhannu'r stori