Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gyfle i ni ddathlu'r holl fenywod ysbrydoledig o'n cwmpas. Eleni, gan mai 'ysbrydoli cynhwysiant' yw'r thema, roeddem am rannu straeon am athletwyr benywaidd anhygoel ym myd chwaraeon, a sut maen nhw'n ysbrydoli cynhwysiant ymhlith y menywod o'u cwmpas ac yn eu clybiau chwaraeon.

Gwnaethom gysylltu ag athletwyr benywaidd o Chwaraeon Abertawe sydd yn amlwg yn gwneud gwahaniaeth i gyfranogiad menywod mewn chwaraeon yn ein tyb ni. O ddechrau timau newydd yn eu clybiau i sicrhau bod y gamp yn fwy hygyrch i ferched, i fenywod sy'n cefnogi eu clybiau o'r llinell ochr a sicrhau bod menywod yn ymwybodol o'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt mewn chwaraeon lle mai dynion yw'r mwyafrif.

Buom yn siarad ag ychydig o athletwyr benywaidd o bob math o chwaraeon i weld beth maen nhw'n ei wneud i gefnogi ac ysbrydoli cynhwysiant eleni.

Enw: Ella Smith

Camp: Pêl-rwyd (capten y clwb)

Sut rwyt ti wedi annog menywod i gymryd rhan yn y gamp?

Fel capten clwb Clwb Pêl-rwyd Prifysgol Abertawe, un o'm prif nodau eleni oedd cynyddu cyfranogiad yn ein clwb. Rydw i wedi cyflwyno 4ydd tîm BUCs i'n clwb eleni, gyda chymorth gan Chwaraeon Abertawe, ac o ganlyniad i hynny mae carfan ychwanegol o ferched yn gallu chwarae chwaraeon ar lefel BUCs. Rydyn ni wedi cael nifer anhygoel o ferched yn ymuno â'n timau mewnol eleni, gyda thros 100 o aelodau yn ymuno â ni. Gan weithio gyda'n cynrychiolwyr mewnol, rydw i wedi cyfathrebu â phrifysgolion eraill i drefnu gemau cyfeillgar i'r timau gymryd rhan ynddynt. Rwyf wedi gweithio'n ddiwyd i feithrin diwylliant o rymuso a chyfranogiad menywod yng nghlwb pêl-rwyd y brifysgol, gan gyfrannu yn y pen draw at dwf a llwyddiant menywod mewn chwaraeon.

Pa gyfleoedd sydd wedi'u rhoi ar waith i annog menywod i gymryd rhan/i sicrhau bod menywod yn mwynhau chwaraeon?

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn rhoi sylw i athletwyr, hyfforddwyr, gweinyddwyr ac arweinwyr benywaidd ym myd chwaraeon. Mae'n dathlu eu cyflawniadau ac yn arddangos eu doniau, gan helpu i gynyddu eu hamlygrwydd a'u cydnabyddiaeth ar raddfa fyd-eang. Drwy dynnu sylw at straeon am wydnwch, penderfyniad a llwyddiant, mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ysbrydoli ac yn grymuso menywod i ddilyn eu breuddwydion ym myd athletau. Mae hefyd yn sbarduno sgyrsiau ac ymdrechion eiriolaeth ynghylch cydraddoldeb rhywiol mewn chwaraeon, gan annog trafodaethau am y rhwystrau a'r rhagfarnau y mae menywod yn eu hwynebu mewn chwaraeon. Mae hefyd yn dathlu amrywiaeth athletwyr benywaidd o wahanol gefndiroedd, diwylliannau a galluoedd, gan hyrwyddo tirwedd chwaraeon fwy cynhwysol a chynrychioliadol.

Enw: Freya Webber

Camp: Pwyllgor Pêl-droed Americanaidd

Sut rwyt ti wedi annog menywod i gymryd rhan yn y gamp?

Rwy'n mynd ati i recriwtio menywod i ddod i hyfforddi a rhoi cynnig ar y gamp yn y brifysgol ac rwy'n sicrhau bod cysylltiadau cryf rhwng y menywod yn y gamp a gwahanol dimau.

Pa effaith rwyt ti wedi ei chael ar ferched mewn chwaraeon?

Rwy'n teimlo, drwy gael aelod benywaidd ar y llinell ochr, fod menywod yn fwy tebygol o roi cynnig o leiaf ar y gamp lle mai dynion yw'r mwyafrif helaeth oherwydd hyd yn oed os nad oes lle i ferched chwarae, mae cyfleoedd o hyd iddyn nhw gymryd rhan.

Pa gyfleoedd sydd wedi'u rhoi ar waith i annog menywod i gymryd rhan/i sicrhau bod menywod yn mwynhau chwaraeon?

Er mwyn annog cyfranogiad menywod, rydyn ni'n mynd ati i hyrwyddo bod y gamp yno ar gyfer unrhyw un o bob gallu ac yn cael ei labelu fel tîm cymysg. Rydym hefyd yn parhau i feithrin cysylltiadau cryf â rygbi Menywod i'w hannog i ddod i roi cynnig ar ein camp ni.

Beth mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ei wneud dros ferched mewn chwaraeon yn dy farn di?

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn dangos i fenywod y gallan nhw gyflawni unrhyw beth a hyd yn oed mewn chwaraeon, gallant fynd mor bell â dynion ac ymhellach na nhw, doed a ddelo. Mae hefyd yn rhoi cyfle i fenywod dynnu sylw at eu cyflawniadau a'u cyfranogiad mewn chwaraeon lle mai dynion yw'r mwyafrif.

Enw: Isobel Platten

Camp: Pêl-droed

Sut rwyt ti wedi annog menywod i gymryd rhan yn y gamp?

Fi yw ysgrifennydd y clwb, felly mae fy swydd yn cynnwys cael cyfarfodydd rheolaidd gyda Chwaraeon Abertawe a sicrhau bod cyfathrebu rhwng Chwaraeon Abertawe a chlwb pêl-droed y merched yn parhau. Rydyn ni'n cynnal cyfarfodydd i sicrhau bod unrhyw faterion yn cael eu codi gyda'r tîm yn Chwaraeon Abertawe, a'u bod nhw'n gwybod beth rydyn ni ei eisiau ganddynt. Y tu allan i'r brifysgol, rwy'n hyfforddi plant dan 9 oed a than 11 oed mewn gwersylloedd gwyliau ac mae gen i fy mathodyn hyfforddi lefel 1. 

Pa effaith rwyt ti wedi ei chael ar ferched mewn chwaraeon?

Cyn i mi fynd i'r brifysgol, roeddwn i'n hyfforddi'n rheolaidd i gwmni gyda hyfforddwyr a oedd i gyd yn fenywod o'r enw 'Inspire Girls Football' ac yn ystod fy amser yn y brifysgol, mae ein pwyllgor yn sicrhau bod ein lleisiau'n cael eu clywed a bod gennyn ni gamau ar waith i'n galluogi i chwarae pêl-droed hyd eithaf ein gallu. Rydyn ni newydd ennill cynghrair BUCS gyda 2 gêm eto i ddod!

Enw: Talitha de Wet

Camp: Pêl-fas a phêl feddal

Sut rwyt ti wedi annog menywod i gymryd rhan yn y gamp?

Fel capten pêl feddal, llwyddais i sefydlu sesiwn ragflas i ferched yn unig, a oedd yn annog nifer uwch o ferched i gymryd rhan yn y clwb na'r flwyddyn flaenorol. Roedd cael aelodau benywaidd o'r pwyllgor yn helpu rhai merched i sylweddoli nad ar gyfer dynion yn unig roedd y clwb.

Pa effaith rwyt ti wedi ei chael ar ferched mewn chwaraeon?

Er mwyn sicrhau bod y merched yn y clwb yn gyfforddus, rwy'n treulio ychydig o amser ychwanegol gyda nhw i'w helpu i ddal i fyny â lefel sgiliau aelodau eraill y tîm mewn pêl feddal a phêl-fas ac rwy'n anfon adnoddau at y rhai sydd am wneud rhywfaint o ymarfer ychwanegol. 

Pa gyfleoedd sydd wedi'u rhoi ar waith i annog menywod i gymryd rhan/sicrhau bod menywod yn mwynhau chwaraeon?

Ar gyfer y tîm pêl-fas a phêl feddal, mae'r canlynol wedi'u rhoi ar waith:

  • Sesiwn ragflas i ferched yn unig

 

  • Digwyddiadau cymdeithasol heb alcohol yn amlach

Beth mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ei wneud dros ferched mewn chwaraeon yn dy farn di?

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gyfle i ddathlu llwyddiannau menywod a pha mor bell rydyn ni wedi dod. Fodd bynnag, rwy'n credu bod hyn hefyd yn helpu i annog menywod eraill i gymryd rhan mewn chwaraeon fel y gallan nhw gyfranogi hefyd.

Yn Chwaraeon Abertawe, mae'r tri llinyn o chwaraeon (Bod yn ACTIF, Chwaraeon Clybiau a Pherfformiad Uchel) i gyd yn cael eu harwain gan dair menyw ysbrydoledig, sydd flwyddyn ar ôl blwyddyn yn ceisio darparu mwy o gyfleoedd i ferched gymryd rhan mewn chwaraeon.

Mae Shana Thomas, ein rheolwr Bod yn ACTIF, wedi cyflwyno sesiynau a gweithgareddau i fenywod yn unig ar gyfer myfyrwyr a staff. Mae hyn wedi creu lle diogel i ferched sy'n dymuno cymryd rhan mewn gweithgareddau, ac mae nifer anhygoel o fyfyrwyr wedi ymuno, o sesiwn syrffio i fowldro. Mae cyfranogiad menywod wedi cynyddu'n sylweddol ers cyflwyno'r sesiynau newydd hyn yn y rhaglen Bod yn ACTIF.

Meddai Shana: "I lawer o ferched, mae cymryd rhan mewn chwaraeon yn gallu bod yn frawychus ac yn llawn pwysau.  Mae Bod yn ACTIF yn galluogi menywod nad ydynt fel arfer yn 'bobl chwaraeon' i gymryd rhan mewn ystod o sesiynau gweithgarwch corfforol mewn amgylchedd diogel a chyfeillgar a all helpu i fagu hyder a hunan-barch, lle na fyddant yn cael eu barnu ar sail gallu neu sgìl."

Mae ein rheolwr Chwaraeon Clwb, Sadie, wedi bod yn y rôl ers 12 mlynedd ac mae hi wedi gweld cyfranogiad menywod yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn gyda mwy o gyfleoedd ar gael i ysbrydoli cynhwysiant. Fel chwaraewr benywaidd, yn chwarae hoci i Gymru, mae Sadie yn ymwybodol o'r heriau y gall menywod eu hwynebu wrth geisio cymryd rhan mewn chwaraeon, ac mae'n gwybod pwysigrwydd "ffeindio dy le di."

"Rydyn ni am i fyfyrwyr benywaidd deimlo ymdeimlad o gyfeillgarwch pan fyddan nhw'n ymuno â chlwb chwaraeon, i gwrdd â ffrindiau am oes wrth gymryd rhan mewn camp y maen nhw'n ei charu. Rydyn ni wedi gweld myfyrwyr yn herio eu hunain ac yn magu hyder dros y blynyddoedd, gan greu cyfleoedd i gefnogi ei gilydd ac ysbrydoli cynhwysiant yn y clybiau. Ein nod yw sicrhau bod cyfleoedd cyfartal i bawb o bob gallu yn Chwaraeon Abertawe ac rydyn ni'n gweithio'n barhaus ar ffyrdd newydd o gyrraedd y targedau hyn."

Imelda Phillips sy'n arwain ein rhaglenni perfformiad uchel yn y Brifysgol, ac fel cyn-fyfyriwr chwaraeon yn Abertawe, mae'n bwysig tynnu sylw at athletwyr benywaidd llwyddiannus a'u cydnabod i annog myfyrwyr sydd am ddechrau ar eu taith chwaraeon.

"Mae amlygu a dathlu llwyddiant menywod yn allweddol mewn perfformiad uchel, ac rydyn ni'n ymdrechu i sicrhau bod cyfleoedd cyfartal ar gael ar draws ein holl raglenni perfformiad uchel ar gyfer pob unigolyn. Rydyn ni wedi gweld llwyddiant anhygoel ym maes chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe, o athletwyr benywaidd yn ennill medalau ym Mhencampwriaethau'r Byd, i Bencampwyr Ewrop, mae ein hathletwyr yn parhau i ysbrydoli bob dydd ac rydyn ni'n parhau i ymdrechu i gefnogi ein hathletwyr i fod y gorau y gallant ochr yn ochr â'u hastudiaethau."

Rydym yn hynod falch o'n staff a'n myfyrwyr ym mhopeth y maen nhw'n ei wneud i barhau i ysbrydoli cynwysoldeb mewn chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe ac edrychwn ymlaen at y mentrau a'r cyfleoedd newydd y maen nhw wedi'u cynllunio ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Dilynwch ni yn y cyfryngau cymdeithasol i weld beth mae ein hathletwyr wedi bod yn ei wneud.

Rhannu'r stori