- Rhif y Swydd
- SU00248
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £38,205 i £44,263 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Marchnata, Recriwtio a Rhyngwladol
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 6 Mai 2024
- Dyddiad Cyfweliad
- 22 Mai 2024
- Ymholiadau Anffurfiol
- Danielle Rawlings D.L.Rawlings@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Bydd y Rheolwr Ymchwil i’r Farchnad yn chwarae rôl flaenllaw wrth ddarparu gwybodaeth, dadansoddiad ac adroddiadau ar y farchnad i Brifysgol Abertawe, gyda ffocws ar ymchwil ansoddol.
Gan weithio'n agos gyda’r Rheolwr Ymchwil i Ddata'r Farchnad a chydweithwyr ar draws y brifysgol, bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth er mwyn llywio datblygiad portffolio o raglenni’r Brifysgol, gan sicrhau dull a arweinir gan y farchnad, yn ogystal â dadansoddi effeithiolrwydd ymgyrchoedd marchnata'r Brifysgol a’i hymchwil gyffredinol i’r farchnad.
Bydd y Rheolwr Ymchwil i’r Farchnad yn arwain tîm o ddau Swyddog Ymchwil i’r Farchnad, sy'n gyfrifol am bortffolio amrywiol o brosiectau.
Disgwylir i ddeiliad y swydd ymgysylltu ag ystod o randdeiliaid, gan gynnwys myfyrwyr, staff academaidd, timau gwasanaethau proffesiynol a'r Uwch-dîm Arweinyddiaeth. Dylai ymgeiswyr feddu ar ddealltwriaeth o gasglu a dadansoddi data ansoddol, technegau ymchwil i’r farchnad ac adrodd a chyflwyno gwybodaeth ddadansoddol mewn ffordd glir a chryno.
Lleolir y swydd hon ar Gampws Singleton, gyda theithio o bryd i'w gilydd i Gampws y Bae.
Mae hon yn swydd am gyfnod penodol o fis Mehefin 2024 i gyflenwi yn ystod cyfnod o absenoldeb mamolaeth.
Mae'r gwasanaeth yn cael ei adolygu at ddiben ailddylunio ar hyn o bryd, ond bydd y rôl yn parhau tan fis Ebrill 2025.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd ceisiadau ar gyfer y rôl hon yn cymrydar ffurf cyflwyno CV a llythyr eglurhaol.