Lansiwyd Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan ar 26 Chwefror 2021 fel y Sefydliad Astudiaethau Uwch cyntaf yng Nghymru sy’n canolbwyntio  ar ymchwil ryngddisgyblaethol drawsnewidiol. Yma, mae’r Athro Matt Jones, Cyfarwyddwr Sefydlol, Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan, yn siarad am genhadaeth MASI a’r hyn y mae’n ei olygu i Abertawe, y rhanbarth ehangach, Cymru, a’r byd.

Tybed beth a ddaw i'ch meddwl wrth ddarllen y geiriau “Sefydliad Astudiaethau Uwch”: adeilad neoglasurol wedi ei orchuddio ag iorwg; tŵr ifori; neu amgylchedd tebyg i glwb lle mae pobl sych iawn yn rhyngweithio'n ddifrifol? Ni fyddai'r sefydliad cyntaf, a lansiwyd yn Princeton yn y 1930au, wedi siomi disgwyliadau o'r fath gan iddo gael ei gynnal mewn adeilad eang hardd gyda chyn-fyfyrwyr fel Albert Einstein, Robert Oppenheimer a Hetty Goldman.

Ym mis Chwefror 2021, gwnaeth Prif Weinidog Cymru lansio Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (MASI) Prifysgol Abertawe yn ffurfiol: yr un cyntaf yng Nghymru. Er y bydd MASI yn gwneud yr holl waith ymchwil ac arloesi mentrus, uchelgeisiol a thrawsnewidiol y mae pob sefydliad o'r fath yn ceisio ei wneud, hoffwn i chi feddwl am ysbryd a chymhelliant MASI mewn modd tra gwahanol. Meddyliwch am awyr llawn drudwy: miloedd o adar yn chwyrlïo, yn disgyn ac yn hedfan ar y cyd mewn arddangosiad syfrdanol, gorfoleddus ac ysbrydoledig o undod a phwrpas.

Mae MASI yn gymuned bwrpasol sy'n cydweithio i fynd i'r afael â phroblemau mwyaf dybryd ein hoes, gan ddod â phobl ynghyd o feysydd a safbwyntiau gwahanol i gydweithredu mewn ffyrdd trawsddisgyblaethol. Dyma amser anhygoel i ddechrau ar ein cenhadaeth: wrth i ni ymddangos – yn obeithiol ac yn ochelgar – o dywyllwch, anobaith a thristwch y pandemig, bydd MASI yn ffynhonnell goleuni a gobaith. Rydym wedi lansio ein thema gyntaf, Gwerthfawredd Bywyd, a byddwn yn mynd ati i hyrwyddo a hwyluso gwaith i geisio adeiladu byd ar ôl y pandemig a fydd yn fwy iach, cydnerth, diogel a gorfoleddus, lle bydd y nodweddion hyn ar gael i bawb eu rhannu. Byddwn yn gwneud hyn drwy gefnogi amrywiaeth eang o weithgareddau – o fforymau tasgu syniadau i raglenni ymchwil arbrofol ac ysgoloriaethau; o groesawu cymrodyr rhyngwladol i MASI er mwyn cynnig safbwynt gwahanol i hyfforddi a datblygu gyrfaoedd cynnar.

Mae “Morgan” yn MASI yn cyfeirio at Rhodri Morgan – a fu gynt yn Brif Weinidog Cymru ac yn ganghellor y Brifysgol. Mae'r cysylltiad â Rhodri'n fraint i ni – bydd ei weledigaeth am Gymru a'i lle yn y byd yn ysbrydoli ac yn llywio ein gwaith. Roedd ganddo ymrwymiad dwfn i hen ddiwylliant, iaith a thirwedd Cymru ac awydd i ymwneud yn adeiladol â gwledydd Affrica Is-Sahara. Bydd MASI yn ffynnu drwy feithrin dealltwriaeth o'r hen werthoedd dwfn a dwys er mwyn helpu i lywio a chreu cenedl yng Nghymru sy'n darganfod ac yn arloesi yn y dyfodol. Er mwyn llwyddo, bydd angen i waith MASI gysylltu â chymunedau byd-eang amrywiol, gan gwmpasu Affrica a gwledydd deheuol y byd yn benodol.

Mae ein gwaith newydd ddechrau: ceir mwy o wybodaeth ar y wefan ynghylch sut i gymryd rhan (ac rydym yn ceisio cynnwys pawb yng Nghymru, y DU ac, yn wir, y byd yn ogystal â'r rhai sydd yn Abertawe ar hyn o bryd). Ymunwch â ni!  

Ceir mwy o wybodaeth am MASI a sut gallwch gymryd rhan drwy fynd i www.swansea.ac.uk/cy/y-brifysgol/sefydliad-astudiaethau-uwch-morgan/

Rhannu'r stori