Croen: mae’r prosiect CALIN yn archwilio’r rhyngweithiad rhwng systemau byw neu feinweoedd a deunyddiau megis nanoronynnau neu ddeunyddiau nanostrwythuredig,

Croen: mae’r prosiect CALIN yn archwilio’r rhyngweithiad rhwng systemau byw neu feinweoedd a deunyddiau megis nanoronynnau neu ddeunyddiau nanostrwythuredig.

Bygythiad i ymchwil yn fygythiad i’n heconomi: bydd cwmnïau a mentrau arloesol yn dioddef os na fydd Llywodraeth y DU yn diogelu prosiectau mewn perygl, yn ol Yr Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe.

Yr wythnos diwethaf, ysgrifennodd Cadeirydd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, Stephen Crabbe AS, at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau i dynnu sylw at bryderon prifysgolion yng Nghymru am wendidau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU wrth iddi ddisodli Cronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd (UE). Mae'n amlwg bod y broblem hon yn niweidiol i'n heconomi ehangach yn ogystal â'n prifysgolion.

Mae'r canfyddiad bod prifysgolion wedi'u hynysu rhag y byd ehangach a'i effaith bob amser wedi bod yn anwir. Roedd anghenion diwydiannau metel ffyniannus de Cymru yn flaenllaw pan sylfaenwyd Prifysgol Abertawe ganrif yn ôl. Heddiw, mae'r cysylltiad annatod rhwng ymchwil prifysgolion a byd diwydiant yn amlwg o'r 50 prosiect a ariennir gan yr EU sydd yn y fantol ym Mhrifysgol Abertawe.

Crëwyd y prosiectau hyn drwy bartneriaethau effeithiol â byd busnes a diwydiant, sydd wedi ein galluogi i gynnig ein harbenigedd ymchwil i gwmnïau, darparu man profi i fentrau arloesol a meithrin unigolion talentog newydd. Mae hyn dan fygythiad os na fydd Llywodraeth y DU yn cynnig ffordd effeithiol o wneud iawn am golli Cronfeydd Strwythurol yr UE, na fyddant ar gael i'r DU mwyach erbyn diwedd 2023. Mae'n amhosib rhagweld swm y colledion a'r effaith, ond gallwn ddatgan yn bendant na fydd yr effaith hon yn gyfyngedig i brifysgolion yn unig.

Bydd effaith uniongyrchol a gweladwy ar rai cwmnïau sydd wedi ymwneud yn agos â phrosiectau ymchwil mawr a ariennir gan yr UE.

Un enghraifft yw prosiect METaL (Addysg, Dysgu ac Addysgu Deunyddiau Gweithgynhyrchu), sy'n cael ei arwain gan dîm o Brifysgol Abertawe a'i gefnogi gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop. Darparodd y prosiect hyfforddiant am ddim neu rad i gyflogeion cwmnïau yn y diwydiannau deunyddiau a gweithgynhyrchu, mewn sectorau sy'n hollbwysig i economi'r 21ain, gan gynnwys cynhyrchu dur carbon isel, cerbydau trydan a lled-ddargludyddion. Gwaetha'r modd, gan fod y cyllid wedi dod i ben, bu'n rhaid i'r prosiect gau eisoes.

Efallai y bydd effeithiau eraill yn llai gweladwy ond byddent yn dal i gael dylanwad mawr ar ffyniant economaidd ein gwlad yn y dyfodol. Y rheswm yw bod llawer o'r prosiectau hyn a ariennir gan yr UE yn gwneud cyfraniad hollbwysig at fyd diwydiant, gan gynnig labordai i brofi mentrau arloesol newydd, lle gall cwmnïau newydd a sefydledig fanteisio ar arbenigedd a chyfleusterau ymchwil i ddatblygu prosesau a chynhyrchion newydd.

Mae'r Rhwydwaith Arloesi Celtaidd ar gyfer Gwyddorau Bywyd Uwch (CALIN), sy'n cynnwys tair prifysgol yng Nghymru a thair prifysgol yn Iwerddon, dan arweiniad Prifysgol Abertawe, yn tanlinellu pwysigrwydd ymchwil i fyd diwydiant lleol. Mae'r prosiect hwn yn cynnig cyfleoedd ymchwil a datblygu i fusnesau bach a chanolig yn y sector, gan ddarparu mynediad agored at arbenigwyr a chyfleusterau o ran y gwyddorau bywyd. Fe'i hariannwyd yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a rhaglen cronfeydd Iwerddon-Cymru yr UE.

Mae gwyddonwyr CALIN wedi gweithio gyda Virustatic, sy'n datblygu atebion sy'n seiliedig ar brotein ar gyfer amrywiaeth o ddiwydiannau, gan gynnwys meddyginiaethau, iechyd menywod a thecstilau gwrthficrobaidd, gan leihau'r ddibyniaeth ar gyfansoddion cemegol sy’n niweidiol ac sy'n achosi llygredd. Cynnyrch mwyaf adnabyddus CALIN yw Virustatic SHIELD®, technoleg hidlo feirysau arloesol, a enillodd Wobr Arloesi MediWales.

Meddai Paul Hope, sylfaenydd a chyfarwyddwr technegol Virustatic:

“Mae ein gwaith gyda gwyddonwyr CALIN wedi bod yn hollbwysig. Rhoddodd y cyllid fynediad at arbenigedd o'r radd flaenaf ac mae'n ein cefnogi ni, sef busnes bach a chanolig yng Nghymru, wrth gyflwyno cynhyrchion newydd ac arloesol i'r farchnad. Hefyd, arweiniodd ein cydweithrediad ymchwil yn uniongyrchol at alluogi Virustatic i recriwtio dau wyddonydd newydd i barhau i ddatblygu cynhyrchion.”

Heb y gefnogaeth honno, efallai na fydd syniadau gwych y dyfodol yn cael eu gwireddu a gall fod yn anos rhoi mentrau byd go iawn ar waith. Mae'r gwaith hollbwysig hwn bellach mewn perygl ac mae CALIN dan fygythiad hefyd, oni bai y ceir cyllid cyffelyb yn lle Cronfeydd Strwythurol yr UE. 

O ystyried yr hyn sydd yn y fantol, efallai y byddech yn tybio y byddai'r gost o ddiogelu'r ymchwil hon yn sylweddol, ond nid yw hyn yn wir. Rydym yn amcangyfrif y byddai clustnodi oddeutu £170m, neu 6% yn unig o gyllideb gyfan Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, yn diogelu'r prosiectau hyn sydd dan arweiniad prifysgolion ledled y DU, nid yng Nghymru yn unig, tan 2025.

Nid yw'r penderfyniad i roi terfyn ar y prosiectau hyn yn un strategol a wnaed oherwydd eu bod yn methu – mae wedi deillio o beidio â neilltuo cyllid pontio yn lle ffrwd ariannol sy'n dod i ben. Wrth i ymyl y dibyn agosáu, dyma'r amser i Lywodraeth y DU ddarparu rhwyd ddiogelwch drwy roi cyllid newydd ar unwaith ar gyfer prosiectau fel y rhain sydd yn y fantol, a llawer o brosiectau eraill sydd dan fygythiad ledled Cymru a'r DU.

Dyma bris bach i'w dalu i osgoi canlyniadau trychinebus o safbwynt arloesi, byd diwydiant a'n heconomi.

Rhannu'r stori