Mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu gradd er anrhydedd i Richard Neylon, awdurdod blaenllaw ar reoli digwyddiadau ac anghydfodau mawr mewn amgylcheddau gelyniaethus a chymhleth.
Dyfarnwyd gradd Doethur er Anrhydedd yn y Gyfraith (LLD) i Richard, a raddiodd yn wreiddiol yn y Gyfraith o Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe ym 1998, yn ystod cynulliad graddio'r gaeaf ddydd Mawrth 9 Rhagfyr 2025.
Ers cwblhau ei astudiaethau israddedig yn Abertawe, mae Richard wedi meithrin gyrfa o fri yn cynghori ar ddigwyddiadau mawr sy'n ymwneud â damweiniau morol, materion atebolrwydd, risgiau rhyfel a sefyllfaoedd herwgipio a phridwerthu. Mae'n cael ei ystyried yn arbenigwr yn y meysydd hyn ac mae'n ymdrin yn rheolaidd ag achosion sy'n ymwneud â chadw pobl yn anghyfreithlon, atafaelu cyffuriau, twyll a heriau cymhleth eraill y mae busnesau byd-eang yn eu hwynebu. Mae ei waith wedi mynd ag ef i rai o barthau gwrthdaro morwrol mwyaf heriol y byd, gan gynnwys Somalia, Gorllewin Affrica, Rwsia ac Wcráin, y Môr Coch a Gwlff Arabia.
Mae bellach yn arwain y tîm Amgylcheddau Cymhleth byd-eang yn y cwmni cyfreithiol rhyngwladol HFW. Mae ei dîm yn rhoi cyngor a chymorth cyfreithiol arbenigol i sefydliadau sy'n gweithredu mewn rhanbarthau heriol lle mae risg uchel.
Yn ogystal â'i waith cyfreithiol, mae Richard yn darlithio yn y DU ac yn rhyngwladol ar bynciau ymateb i argyfwng, morgludiant ac yswiriant, ac yn cyfrannu at gyhoeddiadau blaenllaw yn y diwydiant.
Mae'n un o sylfaenwyr y Hostage Support Partnership (HSP), a gafodd ei ganmol gan Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yn 2017 am ei rôl wrth sicrhau rhyddhau 26 o wystlon a fu'n cael eu dal yn Somalia am bedair blynedd a hanner.
Mae Richard a'i dîm hefyd wedi ennill Gwobr Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol Rhestr Lloyd am eu gwaith pro bono i ryddhau 48 o wystlon "anghofiedig" yn Somalia. Mae'n gyn-enillydd gwobr o fri gan Restr Lloyd, sef Cyfreithiwr Morwrol Byd-eang y Flwyddyn.
Wrth dderbyn ei radd er anrhydedd, meddai Richard: "Mae derbyn y wobr hon yn anrhydedd personol dwfn. Treuliais dair blynedd wych fel myfyriwr israddedig yn y gyfraith yn Abertawe – prifysgol lle cefais y sylfeini ar gyfer fy nhaith broffesiynol, ac sy'n parhau i fynnu lle arbennig yn fy mywyd. Ers graddio, rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i weithio ochr yn ochr â'r Brifysgol, gan gefnogi'r genhedlaeth nesaf o gyfreithwyr, gan gynnwys fel darlithydd gwadd. Rwy'n gwerthfawrogi'r rhagoriaeth hon yn fawr iawn, ac rwy'n ymrwymedig i gefnogi cenhadaeth y Brifysgol a'i llwyddiant yn y dyfodol."