Mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu gradd Doethuriaeth er anrhydedd mewn Gwyddoniaeth i'r darlledwr a'r awdur Carol Vorderman MBE i gydnabod ei gwasanaethau i ddarlledu ac addysg STEM.
Dyfarnwyd yr anrhydedd ddydd Iau 11 Rhagfyr yn ystod Seremonïau Graddio'r Gaeaf y Brifysgol yn y Neuadd Fawr ar Gampws y Bae'r Brifysgol.
Mae dyfarniadau er anrhydedd yn cydnabod unigolion sydd wedi gwneud cyflawniadau rhagorol a chyfraniadau sylweddol yn eu meysydd.
Ganwyd Carol ym 1960, a chafodd ei magu mewn tlodi mewn teulu rhiant sengl yng ngogledd Cymru. Er gwaethaf y dechrau anodd, fe wnaeth ragori'n academaidd gan ennill lle ym Mhrifysgol Caergrawnt i astudio peirianneg yn 17 oed yn unig.
Yn ei gyrfa gynnar, bu'n gweithio fel peiriannydd sifil ym Mhwerdy Dinorwig yn Llanberis, ac wedyn cafodd hi le ar raglen hyfforddi rheolwyr i raddedigion yn Leeds.
Dechreuodd gyrfa Carol ym myd teledu pan welodd ei mam hysbyseb yn The Yorkshire Post yn chwilio am fenyw a chanddi sgiliau mathemategol da i gyd-gyflwyno rhaglen gwis newydd ar Channel 4. Enillodd Carol y rôl gan ddod yn enw adnabyddus yng nghartrefi Prydain fel cyd-gyflwynydd Countdown ers ei lansio ym 1982 tan 2008. Yn 2000, cafodd ei phenodi'n MBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines.
Mae ei hangerdd dros fathemateg yn ymestyn ymhell y tu hwnt i ddarlledu. O 2009 i 2011, bu’n gadeirydd tasglu’r llywodraeth i wella addysg fathemateg i blant, ac yn ddiweddarach sefydlodd themathsfactor.com, a gefnogodd tua hanner miliwn o ddisgyblion cynradd yn ystod pandemig Covid.
Yn 2021, traddododd Carol ddarlith ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod ar gyfer Ffowndri Gyfrifiadol Prifysgol Abertawe, canolfan adrannau mathemateg a chyfrifiadureg y Brifysgol, gan rannu gwybodaeth am ei bywyd, ei gyrfa a'i phrofiadau fel menyw ym myd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg.
Yn dilyn ei hymweliad, arweiniodd trafodaethau â staff a'r Is-ganghellor at greu Bwrsariaeth Mynediad Mathemateg Carol Vorderman. Mae’r bwrsariaethau hyn, sy’n werth £2,000 yr un, ar agor i ymgeiswyr ar gyfer graddau israddedig mathemateg neu wyddor actiwaraidd, ac mae 27 o fyfyrwyr wedi cael eu cefnogi hyd yn hyn.
Ochr yn ochr â'i gwaith proffesiynol, mae Carol yn ymrwymedig i godi arian ac yn gwasanaethu fel noddwr y Gymdeithas Gwefus a Thaflod Hollt. Mae hi hefyd wedi codi arian ar gyfer Apêl Canser y Prostad BUI a Gofal Canser Marie Curie.
Wrth dderbyn ei dyfarniad er anrhydedd, meddai Carol: "Mae'n fraint cael fy anrhydeddu gan Brifysgol Abertawe. Mae ein cysylltiad yn mynd yn ôl blynyddoedd maith, ac mae'n seiliedig ar angerdd cyffredin i annog rhifedd a mathemateg ymhlith pobl ifanc. Mae cefnogi myfyrwyr mathemateg yn Abertawe drwy fwrsariaethau wedi rhoi llawenydd mawr i mi. Mae ein cenhedlaeth ifanc yn fy ysbrydoli: maen nhw'n ddeallus, yn weithgar, yn dalentog, yn chwilfrydig, yn greadigol, yn oddefgar ac yn garedig ac mae ganddynt safbwynt darlun mawr nad oedd fy nghenhedlaeth i bob amser yn cael ei hannog i'w fabwysiadu. Diolch yn fawr Abertawe am ddod â ni ynghyd."